Rhes o dai brics traddodiadol ar ddiwrnod heulog, gyda’r awyr las a choeden ar y chwith

Rhes o dai brics traddodiadol ar ddiwrnod heulog, gyda’r awyr las a choeden ar y chwith

Pwerau cyweirio newydd a addawyd yn y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)

Cyhoeddwyd 06/02/2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cyflwyno hawliau newydd i breswylwyr ar gyweirio diogelwch adeiladau ym Mil Diogelwch Adeiladau (Cymru) mewn ymateb i waith craffu gan bwyllgorau’r Senedd a gwelliannau a gyflwynwyd gan Aelodau.

Yn ystod trafodion Cyfnod 2 ar 29 Ionawr 2026, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai Jayne Bryant AS ei bod wedi gwrando ar farn preswylwyr ac Aelodau o’r Senedd.

Ymrwymodd i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 3 i gyflwyno darpariaethau tebyg i adrannau 116 i 124 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Ar hyn o bryd mae’r adrannau hyn yn rhoi hawliau newydd i breswylwyr yn Lloegr i fynnu bod datblygwyr yn cynnal gwaith cyweirio ac yn talu amdano.

Gwnaed newidiadau pwysig eraill i’r Bil yng Nghyfnod 2, gan gynnwys:

  • Cyfyngu ar nifer yr Awdurdodau Diogelwch Adeiladau i dri;
  • Cryfhau ymgysylltiad preswylwyr;
  • Cyflwyno cosbau penodedig am rai troseddau; a
  • Dyletswydd newydd i atgyweirio.

Addawodd yr Ysgrifennydd Cabinet welliannau pellach yng Nghyfnod 3, gan gynnwys:

  • Ymestyn y dyddiad cau cydymffurfio ar gyfer rhai adeiladau sydd â risg tân is; ac
  • Egluro a oes angen i landlordiaid amrywio contractau tenantiaeth.

Mae’r erthygl hon yn egluro beth sydd wedi newid hyd yn hyn a beth i edrych amdano.

I ddarllen mwy am gefndir y Bil, gallwch weld ein tudalen adnoddau ar y Bil ac ein herthygl ar Gyfnod 1.

Cyweirio

Diffyg mesurau i gyflymu cyweirio dan arweiniad datblygwyr oedd un o feirniadaethau mwyaf y Bil a wnaed ymysg y tystion a’r Aelodau.

Cyflwynodd Siân Gwenllian AS welliannau yn cynnig amrywiaeth o fesurau gan gynnwys dyddiadau cau cwblhau ar gyfer gwaith cyweirio a chyhoeddi cynlluniau cyweirio.

Cyflwynodd Rhys ab Owen AS welliannau hefyd a fyddai’n cyflwyno darpariaethau tebyg i adrannau 116 i 124 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 sydd eisoes mewn grym yn Lloegr. Byddai'r darpariaethau hyn, os cânt eu derbyn, yn caniatáu i lesddeiliaid yng Nghymru wneud cais i dribiwnlys am:

Roedd y cyn-Ysgrifennydd Cabinet Julie James AS wedi dweud yn flaenorol nad oedd angen y rhain yng Nghymru gan y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd â datblygwyr nad ydynt yn cydymffurfio i'r llys ar ran preswylwyr.

Yng Nghyfnod 2, dywedodd Jayne Bryant AS, er nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno amddiffyniadau cyfreithiol i lesddeiliaid eto gan nad oedd angen gwneud hynny, roedd hi'n ymwybodol o'r galwadau parhaus gan lesddeiliaid ac ymgyrchwyr fel y Welsh Cladiators.

Ychwanegodd fod problemau diogelwch strwythurol wedi dod i'r amlwg mewn rhai adeiladau ac y gallai hynny ofyn am ddull gwahanol o fynd ati. Er nad oedd hi'n cefnogi gwelliannau Rhys ab Owen AS fel y'u drafftiwyd, fe gefnogodd yr egwyddor, ac addawodd:

I am, though, very happy to commit to bring forward Government amendments at Stage 3 that will deliver in Wales legal protections similar to those that apply in England under sections 116 to 124 of the Building Safety Act 2022.

Anogodd y Pwyllgor i beidio â chefnogi gwelliannau Siân Gwenllian AS ynghylch gwaith cyweirio a Chynlluniau Cyweirio, gan ddweud na fyddent yn fforddiadwy i'r Llywodraeth na'r sector preifat, a gallent effeithio ar werth eiddo lesddeiliaid. Ymrwymodd i weithio gydag Aelodau ar welliannau yng Nghyfnod 3 ar amddiffyniadau costau lesddeiliaid.

Tynnodd Siân Gwenllian AS ei phrif welliant yn ôl, gan ddweud y bydd am “barhau efo'r trafodaethau adeiladol rydyn ni wedi'u cael cyn belled”.

Y model darpariaeth

Mater arall a drafodwyd yn helaeth yw faint o Awdurdodau Diogelwch Adeiladau (BSAs) ddylai fod. Er bod y Bil fel y'i cyflwynwyd yn caniatáu creu hyd at 22 o Awdurdodau Diogelwch Adeiladau, ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi clywed canlyniadau ymarfer ymgynghori gan yr ymgynghoriaeth Partneriaethau Lleol, a benderfynodd mai’r hyn fyddai orau fydd cael tri Awdurdod Diogelwch Adeiladau sy’n cyd-fynd â thri gwasanaeth tân ac achub Cymru.

Yn flaenorol, gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yng Nghyfnod 1 y byddai’r Bil yn cael ei ddiwygio i gynnwys y model cyflawni a ffefrir, gan ddatgan ei bod am gadw hyblygrwydd.

Yng Nghyfnod 2, cyflwynodd Lee Waters AS welliant a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdodau Diogelwch Adeiladau alinio â'r awdurdodau diogelwch tân. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, er ei bod hi’n teimlo bod gan Weinidogion Cymru ddigon o bwerau eisoes i gyfarwyddo awdurdodau lleol os oes angen, ei bod hi’n derbyn bod rhywfaint o bryder o hyd, ac felly roedd yn barod i’w gefnogi. Derbyniwyd y gwelliant.

Mwy o amser

Categori mwyaf adeiladau rheoleiddiedig o bell ffordd yw Categori 3, sef adeiladau amlfeddiannaeth sy'n llai nag 11m neu bum llawr o uchder. Mae mwy na 51,000 o’r rhain, a llawer ohonynt yn eiddo i landlordiaid ar raddfa fach.

Yng Nghyfnod 1, dywedodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod y cynllun i ddod â phob adeilad Categori 3 yn rhan o’r gyfundrefn erbyn diwedd 2028 yn “afrealistig”. Argymhellodd “dull haenedig sy’n seiliedig ar risg”, gan ddod ag adeiladau Categori 3 a thai amlfeddiannaeth (HMOs) risg uwch yn gyntaf.

Yng Nghyfnod 2, cyflwynodd Joel James AS welliant a fyddai wedi rhoi mwy o amser i adeiladau Categori 3 gael asesiad risg tân cychwynnol. Er nad oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cefnogi'r gwelliant, addawodd gyflwyno gwelliannau Cyfnod 3 i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer fflatiau cerdded i fyny atynt ac adeiladau risg is tebyg nad oes ganddynt rannau cymunedol a rennir. Ar y sail honno, tynnodd Joel James AS y gwelliant yn ôl.

Llais preswylwyr

Gwnaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad alw ar Lywodraeth Cymru i roi dyletswydd arni ei hun i ymgynghori â phreswylwyr wrth ddatblygu deddfwriaeth a chanllawiau diogelwch adeiladau.

Yng Nghyfnod 2, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod h’n ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau bod gan breswylwyr lais, ac yng ngoleuni ansicrwydd yr etholiad sydd ar ddod roedd hi wedi penderfynu bod dyletswydd yn briodol.

Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet welliant hefyd i roi llais i breswylwyr adeiladau Categori 1 wrth greu strategaeth ymgysylltu preswylwyr ar gyfer eu hadeilad. Derbyniwyd y gwelliannau hyn.

Cosbau penodedig a'r “ddyletswydd i atgyweirio”

Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet welliannau i greu “dyletswydd i atgyweirio” unrhyw ddifrod a allai arwain at ledaeniad tân. Dywedodd y byddai hyn yn cryfhau'r gofynion ar y rhai sydd â rhwymedigaethau atgyweirio i gymryd camau cyflym.

Gwelliant arall a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet oedd cyflwyno cosbau penodedig am rai troseddau y gallai swyddogion gorfodi eu defnyddio yn lle erlyn.

Derbyniwyd y gwelliannau hyn.

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Ymrwymiad arall i gadw llygad arno yw eglurhad ynghylch a fydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi hysbysiadau cyfreithiol i denantiaid i amrywio telerau eu contractau tenantiaeth.

Addawodd yr Ysgrifennydd Cabinet gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i ddarparu’r eglurder y mae landlordiaid yn gofyn amdano gan sicrhau hefyd fod contractau meddiannaeth yn parhau i fod yn gofnod cyflawn o'r cytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract.

Y camau nesaf

Caiff trafodion Cyfnod 3 eu cynnal yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 3 Mawrth 2026, a fydd yn gyfle arall i’r Aelodau ddiwygio’r Bil.

Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru