Gallai’r newidiadau a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines, fodd bynnag, barhau i olygu y byddai awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yn gwneud penderfyniad ar gynnig fferm wynt fawr iawn dros 350 megawat, yn ogystal ag ymdrin â cheisiadau am rai o dan 25 megawat, ac y byddai Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar y rhai yn y canol. Nid yw’r datblygiad fferm wynt fwyaf a gymeradwywyd yng Nghymru hyd yma, sef Pen y Cymoedd (299 megawat) yn bell o’r terfyn uchaf. Mae fferm wynt 350 megawat ar y tir eisoes yn gweithredu yn yr Alban – sef y fferm wynt ar y tir Clyde. Mae’r blog hwn ar gael hefyd ym Mlog ‘Ail Ddarlleniad’ Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin. *Llun o Wikimedia Commons gan David Rowlands. Trwydded dan Creative Commons. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn SaesnegI just can’t imagine you would get to a situation where Welsh ministers would determine schemes of 25 to 50 megawatts, but if you had a 100-megawatt scheme, it would be determined by Powys or Carmarthenshire rather than at a national level. It wouldn’t make any sense.
Subject to timing, devolution of further powers through the Wales Bill should avoid this issue, resulting in all schemes between 25 and 350 megawatts being determined by the Welsh Ministers, while all onshore wind decisions in England would be made at the local level.
Prosiectau cynhyrchu ynni mawr yng Nghymru - pwy fydd yn penderfynu yn eu cylch yn y dyfodol?
Cyhoeddwyd 11/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
11 Mehefin 2015
Erthygl gan Graham Winter, y Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chyfraniadau gan Louise Smith, Adran Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd, Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin
Mae darlun mwy a mwy cymhleth yn dod i’r amlwg o ran pwy fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch prosiectau ynni mawr yn y dyfodol, gyda Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 ar fin ymddangos ar y llyfrau statud a chyhoeddiadau yn Araith y Frenhines ynghylch rhagor o ddatganoli ym maes ynni, ochr yn ochr â newidiadau arfaethedig yn y rheolau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir. Mae’r blog hwn yn edrych yn fanwl ar rai o’r cymhlethdodau hyn, ac yn tynnu sylw at rai o’r materion sy’n parhau i fod angen eu datrys.
Caiff Bil Cynllunio (Cymru) Gydsyniad Brenhinol cyn bo hir, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau ymgynghori ar yr hyn a fydd yn ‘ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol’ (DNS) pan fydd yn gyfrifol am benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio. Ei nod yw cael y drefn ganiatáu newydd ar waith erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig bod prosiectau cynhyrchu ynni rhwng 25 a 50 megawat yn cael eu hystyried fel datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, ynghyd â rhai caniatadau datblygu a chaniatadau eiladd cysylltiedig.
Yn y cyfamser cyhoeddodd Araith y Frenhines Fil Cymru newydd a fydd yn datganoli cyfrifoldeb dros brosiectau cynhyrchu ynni ar y tir o hyd at 350 megawat i Gymru. Bydd hefyd yn datganoli penderfyniadau ar brosiectau ynni hyd at yr un trothwy maint yn nyfroedd tiriogaethol Cymru. Argymhellwyd y terfyn 350 megawat gan Gomisiwn Silk ar y sail y byddai’n dod â’r mwyafrif o gynlluniau ynni adnewyddadwy o fewn system Cymru, ond byddai cynlluniau mwy, sydd o ‘bwysigrwydd strategol’ yn parhau i gael eu penderfynu gan Lywodraeth y DU. Mae adroddiad Comisiwn Silk yn nodi Lagŵn Llanw Abertawe(320 megawat) fel enghraifft o gynllun a fyddai yn cael ei benderfynu yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r cynnig diweddaraf ar gyfer Lagŵn Llanw ger Caerdydd yn llawer mwy o ran maint (1,800-2,800 megawat) ac felly byddai penderfyniad yn ei gylch yn parhau i gael ei wneud y tu allan i Gymru.
Roedd y Comisiwn yn argymell hefyd, wrth benderfynu ar y prosiectau ‘strategol’ y dylai Llywodraeth y DU ystyried polisïau Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, penderfynir ar y rhain yn bennaf gan ddefnyddio’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar seilwaith ynni a gymeradwywyd gan Senedd y DU yn ystod llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2010 a 2015. Mae’r gyfraith yn eglur, mewn achos o wrthdaro rhwng y datganiadau polisi hyn a pholisi cynllunio yng Nghymru, y datganiadau polisi hyn a ddylai gael blaenoriaeth. Rhaid aros i weld, yn ogystal â datganoli pwerau ar gyfer prosiectau o hyd at 350 megawat, a fydd ffordd o roi mwy o rym i bolisïau cynllunio yng Nghymru yn cael ei chanfod ar gyfer penderfyniadau Llywodraeth y DU ar brosiectau mwy.
Pan gaiff y pwerau hyn eu trosglwyddo, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru benderfynu a yw am ddwyn y cynlluniau ynni mwy (50-350 megawat) o fewn y diffiniad o ‘ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol’. Caiff hyn ei awgrymu yn y papur ymgynghori cyfredol a bydd y Ddeddf Cynllunio newydd yn rhoi’r pŵer iddynt amrywio’r diffiniad. Os digwydd hyn, bydd yn golygu y bydd proses ychydig yn wahanol yn gymwys i brosiectau ynni o’r maint hwn yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr, oni bai bod newidiadau pellach yn cael eu gwneud i’r system gymeradwyo. Er enghraifft, bydd y gofynion o ran ymgynghori cyn ymgeisio ar Brosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd (NSIP) yn Lloegr yn fwy trwyadl na’r rhai y mae Llywodraeth Cymru wrthi’n eu cynnig ar gyfer cynlluniau ‘datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol’ yng Nghymru. Hefyd mae’r amserlen statudol o hyd at 36 wythnos ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y ceisiadau DNS hyn a gaiff eu derbyn yn fyrrach na’r amserlen NSIP o oddeutu 12-15 mis.
Cymhlethdod arall oedd y cyhoeddiad yn ystod Araith y Frenhines y bydd Bil Ynni newydd yn dileu ffermydd gwynt dros 50 megawat ar y tir o’r gyfundrefn NSIP. Dywed y nodiadau cefndir y bydd hyn yn golygu mai’r prif gorff a fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch caniatâd i brosiectau gwynt o dros 50 megawat ar y tir yn Lloegr a Chymru fydd yr awdurdod cynllunio lleol, yn hytrach nag Ysgrifennydd Gwladol y DU. Bydd hyn yn wir, ond dim ond os nad yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu eu cynnwys yn y diffiniad o ‘ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol’ yn dilyn hynny, sy’n annhebygol, o ystyried bod cynlluniau ynni 25-50 megawat eisoes yn cael eu hystyried o bwys cenedlaethol. Un opsiwn posibl fyddai symud y trothwy isaf yn ôl i 50 megawat. Bydd angen adolygu y Datganiadau Polisi Cenedlaethol y cyfeirir atynt uchod hefyd, yn ôl pob tebyg, a bydd angen cymeradwyaeth gan Senedd newydd y DU er mwyn adlewyrchu bod prosiectau gwynt ar y tir y tu allan i gyfundrefn Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd (NSIP).
Dyfynnwyd Gareth Barton, cyfarwyddwr cyswllt yn swyddfa’r Ymgynghorwyr Cynllunio Turley yng Nghaerdydd yn y wasg Cynllunio yr wythnos diwethaf, a dywedodd: