Cyhoeddwyd 11/03/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
11 Mawrth 2016
Erthygl gan Helen Jones a Sam Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Wyddech chi pa un o etholaethau’r Cynulliad sydd â’r boblogaeth fwyaf?
Pa un o etholaethau’r Cynulliad sydd â chyfartaledd pris tŷ o £65,589?
Pa un o ranbarthau’r Cynulliad sydd â’r disgwyliad oes hiraf?
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi datblygu
proffiliau rhyngweithiol sy’n dangos amrywiaeth o ddata mewn fformat hawdd ei ddefnyddio. Mae’r proffiliau hyn yn dangos y data allweddol diweddaraf ar
lefel etholaethol a rhanbarthol ac yn rhoi cyfle i rai â diddordeb wneud gwaith ymchwil cyn yr etholiad ym mis Mai 2016.
Gellir defnyddio’r proffiliau hyn i helpu i gymharu nodweddion tebyg a gwahanol rhwng
etholaethau’r Cynulliad a
rhanbarthau’r Cynulliad. Gellir gweld y data hwn ar ffurf map neu adroddiad neu eu lawrlwytho i Excel.
Mae’r data yn y proffiliau yn cwmpasu’r pynciau canlynol;
- Poblogaeth
- Economi
- Addysg
- Iechyd
- Tai
- Mynediad i wasanaethau
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg