Cyhoeddwyd 19/01/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae'r prisiau a delir i ffermwyr llaeth am laeth hylif wedi bod yn gostwng ers yr haf diwethaf.
Gostyngodd Arla y pris a delir i ffermwyr ym mis Ebrill o 33.74 ceiniog y litr gan 1.27 ceiniog y litr neu 3.8%. Ers hynny,
mae prynwyr eraill hefyd wedi cyhoeddi gostyngiadau yn y pris a delir i ffermwyr.
Caiff y gostyngiadau mewn prisiau rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2014 eu crynhoi yn Nhabl 1:

Mae'n bwysig nodi'r gostyngiad yn y prisiau a dalodd First Milk gan fod
1 o bob 3 o ffermwyr llaeth Cymru yn cyflenwi llaeth i First Milk.
Ar 9 Ionawr, cyhoeddodd First Milk y byddai’n oedi am bythefnos cyn gwneud ei daliadau nesaf i ffermwyr am eu llaeth, yn ogystal â chodi cyfraniadau lefi i ffermwyr. Roedd First Milk yn cymryd y camau hyn i geisio dileu ei ddiffyg cyllid o £10 miliwn, sydd wedi digwydd o ganlyniad i anwadalrwydd yn y diwydiant llaeth yn fyd-eang. Dywedodd First Milk:
These moves will deliver a cash injection into the business and play an integral role in putting our finances and our business on a stronger platform as we approach the spring flush.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ei bod wedi gofyn am gynnal cyfarfod â First Milk i drafod eu cyhoeddiad diweddar i dorri a gohirio taliadau. Mae hi hefyd wedi gofyn am gyfraniad brys gan Dasglu Llaeth Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.
[caption id="attachment_2138" align="alignright" width="300"]

Gan Richard Croft Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Mae prynwyr a phroseswyr llaeth wedi dweud bod y pris dirywiol a delir i ffermwyr yn adlewyrchu cyflwr y farchnad fyd-eang. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar y farchnad fyd-eang, bu
gostyngiad o 51% ym mhris llaeth ers mis Medi 2013 pan dalwyd y pris uchaf erioed am laeth. Er bod y DU yn cael ei chysgodi'n rhannol rhag effeithiau'r farchnad fyd-eang o ganlyniad i farchnad sydd wedi'i mewnoli'n sylweddol, mae economeg y sefyllfa yn cael effaith sylweddol ar sector llaeth y DU.
Mae nifer y cynhyrchwyr llaeth yng Nghymru wedi gostwng dros y degawd diwethaf. Ar hyn o bryd, 1,831 yw nifer y cynhyrchwyr, er bod nifer y cynhyrchwyr llaeth yn 1,872 ym mis Ionawr 2014 (gostyngiad o 2.2% yn y flwyddyn ddiwethaf).
Ers prisiau digyffelyb 2013, mae ffermwyr y DU wedi
sicrhau cynnyrch uwch o laeth fesul buwch, gan arwain at gynnydd yn y cyflenwad. Ynghyd â'r cyflenwad cynyddol hwn mae'r galw byd-eang wedi gostwng, gan orfodi prisiau i ostwng. Un rheswm am y gostyngiad yn y galw yw'r
diffyg masnachu gyda Rwsia. Yn dilyn y sefyllfa yn yr Wcrain yn 2014 cafodd gwaharddiadau mewnforio eu cyflwyno gan yr Undeb Ewropeaidd gan atal allforion llaeth i'r farchnad hon. Rheswm arall am y gostyngiad yn y galw yw
llai o weithgarwch yn y farchnad gan Tsieina, yn dilyn gweithgareddau pentyrru yn 2013.
Yn y gorffennol, mae'r Sector Llaeth wedi gweld gostyngiadau sydyn ym mhris llaeth; cafwyd enghraifft benodol o hyn yn 2012. Ar yr achlysur hwn dechreuodd argyfwng ym mhrisiau llaeth oherwydd
cwymp mewn prisiau byd-eang wedi'i gyfuno â chontractau archfarchnad ymosodol yn ôl Dairy UK. O ganlyniad i'r caledi a wynebir gan ffermwyr a'r effaith ar sector llaeth y DU,
datblygwyd cod ymarfer gwirfoddol i reoli'r berthynas gytundebol rhwng cynhyrchwyr llaeth a'r proseswyr y maent yn gwerthu iddynt.
Mae'r cod yn berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban ac ers mis Mawrth 2013,
amcangyfrifir bod 85% o laeth Prydain yn arddel egwyddorion y cod gwirfoddol. Mae'r cod yn caniatáu i ffermwyr unigol gyd-drafod contractau ac yn rhoi'r gallu iddynt adael contract yn haws os bydd prisiau'n newid. Mae First Milk wedi llofnodi’r cod gwirfoddol.
Ddwy flynedd ar ôl cyflwyno'r cod, cynhaliwyd adolygiad i asesu effeithiolrwydd y cod. Cafodd yr adroddiad o'r asesiad hwn ei gyhoeddi ar 6 Hydref 2014.
Canfu'r adolygiad fod y cod, lle cafodd ei weithredu'n llawn, wedi arwain at newid cadarnhaol ond bod angen mabwysiadu'r cod yn ehangach ar draws y sector. Gwnaed saith argymhelliad penodol yng nghanfyddiadau'r adolygiad gan gynnwys dau eglurhad er mwyn sicrhau nad oedd y cod presennol yn cael ei gamddehongli. Ar ôl ei gyhoeddi, cyhoeddodd
y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ei bod yn lansio adolygiad annibynnol o'r diwydiant llaeth yng Nghymru. Mae cylch gorchwyl yr adolygiad eto i'w gwblhau.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Sector Llaeth yn
Nodyn Ymchwil y Sector Llaeth.
Erthygl gan Katy Orford a Jack Goode, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.