Porthladd Caergybi, golwg o gerbydau’n mynd ar fwrdd fferi

Porthladd Caergybi, golwg o gerbydau’n mynd ar fwrdd fferi

Porthladdoedd rhydd yng Nghymru: cyfle neu risg?

Cyhoeddwyd 18/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/05/2021   |   Amser darllen munud

Mae Bwa’r Morlys yng Nghaergybi yn nodi dechrau'r brif ffordd hanesyddol i Lundain. Mae'r heneb farmor hon wedi croesawu llongau, masnachwyr a theithwyr ers dechrau'r ddeunawfed ganrif.

Yn sgil Brexit, fodd bynnag, mae gyrwyr loriau sy’n teithio i neu o Iwerddon hefyd wedi wynebu oedi a biwrocratiaeth yn y fan honno, gan ysgogi rhai ohonynt i geisio osgoi porthladdoedd Cymru yn gyfangwbl.

Ym mis Mawrth, tynnodd Llywodraeth flaenorol Cymru sylw at y gostyngiadau sylweddol a welwyd yn y defnydd o borthladdoedd Cymru o flwyddyn i flwyddyn, er bod adroddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi awgrymu bod rhyw fath o adferiad ar droed.

Fel rhan o'i hymdrechion i godi’r gwastad mewn perthynas â chymunedau ledled y DU, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru, ynghyd ag wyth porthladd rhydd yn Lloegr, un yn yr Alban, ac un yng Ngogledd Iwerddon. Bwriad y fenter hon yw sbarduno gweithgarwch buddsoddi ac adfywio mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU.

Fodd bynnag, mae'r cynigion hyn wedi hollti barn o ran eu heffaith bosibl ar yr economi ehangach.

Beth yw porthladd rhydd?

Mae porthladd rhydd – neu barth rhydd – yn ardal benodol sydd o fewn ffin ddaearyddol gwlad, ond sydd y tu allan i'w hardal dollau. Mae’r porthladdoedd hyn fel arfer wedi'u lleoli o fewn porthladdoedd morwrol neu feysydd awyr, neu ger eu hymyl. Gellir mewnforio nwyddau i mewn i borthladd rhydd, neu allforio nwyddau allan ohono, a hynny heb orfod talu tolldaliadau na threthi. Dim ond pan fydd nwyddau'n gadael y porthladd rhydd ac yn dod i mewn i'r farchnad ddomestig y bydd angen talu tolldaliadau neu drethi arnynt.

Gall busnesau gweithgynhyrchu sy'n gweithredu mewn porthladd rhydd elwa ar 'wrthdroad tariffau', sef sefyllfaoedd pan fydd y tariffau ar gynnyrch gorffenedig yn is na'r tariffau ar ei gydrannau. Gellir cynnig cymhellion treth a chymhellion eraill, fel cyfraddau is yng nghyswllt trethi corfforaethol neu drethi cyflogaeth, yn ogystal â phrosesau tollau symlach.

Mae'r llun yn dangos y cysyniad o borthladd rhydd. Dim ond ar nwyddau sy’n dod i mewn i'r farchnad ddomestig y codir tolldaliadau. NI chodir tolldaliadau ar nwyddau sy'n cael eu mewnforio i'r porthladd rhydd a'u hail-allforio.

Nid yw porthladdoedd rhydd yn syniad newydd. Maent wedi bodoli ar ryw ffurf ers yr oesoedd canol. Ar hyn o bryd, mae tua 3,500 o borthladdoedd rhydd ledled y byd. Mae Hong Kong, porthladd rhydd Genefa yn y Swistir, a pharth rhydd Jebel Ali yn Dubai yn enghreifftiau arwyddocaol.

Mae saith porthladd rhydd wedi gweithredu yn y DU ar wahanol adegau ers 1984. Rhoddwyd terfyn ar y pump olaf yn 2012, pan ddaeth y ddeddfwriaeth berthnasol i ben. Mae rhai yn priodoli’r datblygiad hwn yn rhannol i effaith cyfundrefn reoleiddio'r UE.

Mae porthladdoedd rhydd yn bodoli yn yr UE. Fodd bynnag, rhaid iddynt gydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol sydd, er enghraifft, yn cyfyngu ar y cymhellion treth a gynigir. Daeth adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn 2006 i'r casgliad bod yr UE yn caniatáu sefydlu parthau rhydd o fewn ei diriogaeth, ond bod ei ddiffiniad o barth rhydd yn un cul iawn.

Yn sgil ymadawiad y DU â'r UE, mynegwyd diddordeb newydd mewn porthladdoedd rhydd, yn fwyaf amlwg gan Rishi Sunak, sydd bellach yn Ganghellor y Trysorlys, a ysgrifennodd adroddiad ar y mater yn 2016.

Beth mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig?

Lansiodd Llywodraeth y DU brosbectws ar borthladdoedd rhydd ym mis Tachwedd 2020, gan agor y broses o gyflwyno ceisiadau ar gyfer sefydlu porthladdoedd rhydd yn Lloegr. Mae'r cynigion yn cynnwys darparu gostyngiadau treth a lwfansau cyfalaf, ehangu’r gyfundrefn hawliau datblygu a ganiateir, a darparu cymorth arloesi, yn ogystal â chyflwyno system o eithriadau mewn perthynas â tholldaliadau a thariffau.

Ochr yn ochr â'r cynigion hyn, nododd y prosbectws yn glir fod Llywodraeth y DU, gan gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig, am sefydlu o leiaf un porthladd rhydd yng Ngogledd Iwerddon, un yn yr Alban ac un yng Nghymru. Mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain hefyd wedi dweud ei bod yn cydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn datblygu cynigion.

Yn ei gyllideb ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd y Canghellor y byddai wyth porthladd rhydd newydd yn Lloegr. Serch hynny, ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau tebyg hyd yn hyn mewn perthynas â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yr achos o blaid porthladdoedd rhydd a’r achos yn eu herbyn

Mae cefnogwyr porthladdoedd rhydd yn dadlau eu bod yn meithrin twf economaidd ac yn creu swyddi. Mewn datganiad i Dŷ'r Cyffredin, dywedodd y Canghellor:

[Freeports] will allow us to drive forward investment and regeneration in some of the most deprived areas in the UK, delivering highly-skilled jobs for people across the country.

Yn ei adroddiad yn 2016, The Free Ports Opportunity, gwnaeth Rishi Sunak ddadlau y byddai porthladdoedd rhydd y DU yn manteisio ar gryfder seilwaith porthladdoedd cyfredol y DU, gan arwain at y posibilrwydd o greu nifer o swyddi yn ardaloedd y porthladdoedd, sydd yn aml yn rhai difreintiedig. Awgrymodd hefyd y byddai’r gyflogaeth hon ym maes gweithgynhyrchu yn bennaf, gan roi hwb i'r sector hwnnw o'r economi.

Ceir peth beirniadaeth na fydd porthladdoedd rhydd yn creu swyddi a thwf economaidd mewn gwirionedd. Dadleuir na fyddant ond yn adleoli swyddi o fewn gwlad, gan ddod â buddion i ardaloedd y porthladdoedd rhydd ar draul ardaloedd eraill. Mae rhai’n dadlau hefyd y gallai dadreoleiddio a diffyg goruchwyliaeth danseilio safonau amgylcheddol a safonau cyflogaeth, ac y gallai porthladdoedd rhydd hwyluso gweithgareddau anghyfreithlon fel gwyngalchu arian ac osgoi trethi.

Ceir beirniadaeth hefyd y gallai costau sylweddol fod ynghlwm wrth y broses o sefydlu a chynnal a chadw porthladdoedd rhydd, gan wrthbwyso o leiaf rai o'r buddion economaidd.

Mae’r BPA yn dweud bod yn rhaid sicrhau nad yw porthladdoedd rhydd yn achosi dadleoli economaidd nac yn creu cae chwarae anwastad. Yn yr un modd, mae’n pwysleisio bod cynlluniau’r Llywodraeth wedi nodi y bydd rheolaethau digonol yn cael eu cyflwyno at ddibenion rhwystro gweithgarwch anghyfreithlon, gan ychwanegu nad yw porthladdoedd am weld safonau cyflogaeth neu safonau amgylcheddol yn cael eu dinistrio.

Amser a ddengys pwy sy’n iawn.

Porthladdoedd rhydd yng Nghymru

Mae nifer o borthladdoedd Cymru wedi mynegi diddordeb mewn bod yn borthladdoedd rhydd, gan gynnwys Port Talbot, Abertawe, Casnewydd, Caerdydd, y Barri, Aberdaugleddau a Chaergybi. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn wyliadwrus ynghylch y syniad o greu porthladdoedd rhydd. Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog ar y pryd:

Freeports are not a policy of the Welsh Government. They have never been part of a manifesto that I have stood on, and I am not elected to introduce them. They are a manifesto commitment of the Conservative party at the UK level.

Esboniodd na fyddai ei Lywodraeth ef yn gwrthwynebu porthladdoedd rhydd, a’i bod yn barod i gynnal trafodaethau adeiladol ar y mater. Fodd bynnag, dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd, ei fod am weld porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn cael yr un lefel o gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU â phorthladdoedd rhydd yn Lloegr. Honnodd y byddai porthladdoedd rhydd yn Lloegr yn cael £25 miliwn, ond na fyddai porthladdoedd rhydd yng Nghymru ond yn cael £8 miliwn – sef “cyfran Barnett“.

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru hefyd yn pryderu y gallai porthladd rhydd danseilio safonau amgylcheddol a safonau cyflogaeth. Tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at y model porthladdoedd gwyrdd a oedd yn cael ei gynnig yn yr Alban, lle byddai porthladdoedd yn ymrwymo i safonau amgylcheddol a safonau cyflogaeth uwch yn gyfnewid am ostyngiadau mewn trethi a tholldaliadau. Disgrifiodd y sefyllfa hon fel rhywbeth y mae gan y Llywodraeth ddiddordeb ynddo hefyd.

Mewn tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin, dywedodd sefydliad Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain (Associated British Ports), sy'n gweithredu pum porthladd yn ne Cymru, ei fod o blaid sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Nododd y Pwyllgor fod angen i Lywodraeth y DU gydweithio â Llywodraeth Cymru, gan fod meysydd polisi pwysig, fel datblygu porthladdoedd, seilwaith y ffyrdd a chynllunio defnydd tir, wedi'u datganoli. Dywedodd y Pwyllgor na ddylid creu porthladd rhydd yng Nghymru at ddibenion optegol neu wleidyddol yn unig.

Gydag wyth porthladd rhydd yn cael eu sefydlu yn Lloegr, ychydig iawn o gynnydd hysbys sydd wedi'i wneud ar borthladdoedd rhydd yng Nghymru. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn feirniadol o Lywodraeth y DU am fwrw ymlaen â’r fenter cyn cwblhau trefniadau cysylltiedig â’r cenhedloedd datganoledig. Roedd y Llywodraeth yn pryderu y gallai gweithgarwch economaidd gael ei ddadleoli o Gymru i Loegr o ganlyniad i hynny.

O ystyried y risg hon, mae’n bosibl y bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru roi ystyriaeth gynnar i’r syniad o gael porthladd rhydd yng Nghymru yn y dyfodol.


Erthygl gan Matthias Noebels ac Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Matthias Noebels gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.