Popeth nad ydym yn ei wybod am dai yng Nghymru

Cyhoeddwyd 13/08/2024   |   Amser darllen munudau

Mae data’n hanfodol ar gyfer llunio polisïau effeithiol. Maent yn cefnogi penderfyniadau da, ac yn ôl Sherlock Holmes mae’n gamgymeriad ofnadwy damcaniaethu hebddynt.

Ond thema gyson mewn ymchwiliadau Pwyllgor sy’n ymwneud â thai yw nad oes gan Gymru ddigon o ddata, o’i gymharu â gwledydd eraill y DU.

Mewn ymchwiliadau diweddar i’r sector rhentu preifat a’r cyflenwad o dai cymdeithasol, cwyn gyffredin gan randdeiliaid yw bod diffyg data yn ei gwneud yn anos deall natur problemau pobl o ran tai. Dywedir bod bylchau data yn cymylu efflaith polisïau Llywodraeth Cymru, gan guddio’r hyn sydd wedi gweithio a’r hyn nad yw wedi gweithio.

Mae’r erthygl hon yn crynhoi’r ddadl ar ddata tai ac yn tynnu sylw at rai cwestiynau na all y data sydd ar gael eu hateb ar hyn o bryd. Mae’n edrych ar yr hyn y mae rhanddeiliaid yn galw amdano, a’r hyn y dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn ei wneud, i wella’r darlun data.

Data – y broblem barhaol

Ym mis Mawrth 2024, dywedodd Matt Dicks, Cyfarwyddwr Sefydliad Tai Siartredig Cymru, wrth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai mai data, neu ddiffyg data, neu natur amwys y data sydd gennym, sydd bob amser yn codi ar ddiwedd trafodaethau’r Pwyllgor hwnnw.

Ymhlith y bylchau a amlygwyd gan randdeiliaid mae nifer y cartrefi hygyrch; fforddiadwyedd rhenti preifat; demograffeg tenantiaid cymdeithasol; a chyfran y tai cymdeithasol sydd wedi’u dyrannu i aelwydydd digartref.

Mae galwadau i wella data wedi datblygu’n ymgyrch dros arolwg tai Cymru o dan arweiniad Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl, sy’n edrych ar Arolwg Tai Lloegr fel model.

Mae Arolwg Tai Lloegr wedi’i gynnal yn flynyddol er 1967. Mae’n cynnwys dwy elfen: cyfweliad aelwyd, ac archwiliad ffisegol o is-sampl o eiddo. Mae’r data yn dangos:

  • proffil aelwydydd ac anheddau;
  • costau a fforddiadwyedd tai;
  • hanesion tai pobl a disgwyliadau’r dyfodol;
  • cyflwr ac effeithlonrwydd ynni cartrefi; a
  • mesurau llesiant a boddhad bywyd.

Cynhaliwyd yr arolwg diwethaf o gyflwr tai Cymru yn 2017-18. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn casglu rhywfaint o ddata tai er nad oes unrhyw brif ganlyniadau yn cael eu cyhoeddi.

Galwodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am arolwg tai Cymru ym mis Gorffennaf 2023. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn edrych ar achos busnes ond ym mis Ebrill 2024 dywedodd Julie James AS, cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, y byddai arolwg cyflwr tai blynyddol yn rhy ddrud.

Rhai cwestiynau heb eu hateb

Faint o dai y mae eu hangen ar Gymru?

Mae llawer wedi newid ers i’r amcangyfrifon cenedlaethol diwethaf o’r angen am dai ychwanegol gael eu cyfrifo cyn y pandemig, yn seiliedig ar ddata 2019. Mae’r defnydd dros dro o lety wedi mwy na dyblu. Hefyd, nid yw’r amcangyfrifon o’r angen am dai ychwanegol yn cynnwys aelwydydd mewn llety anaddas, sy’n golygu eu bod yn debygol o dangyfrif angen heb ei ddiwallu.

Mae Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol yn hanfodol er mwyn pennu gofynion tai lleol, ac maent yn rhan allweddol o’r sail dystiolaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu. Cyflwynodd awdurdodau lleol eu hasesiadau diweddaraf erbyn mis Mawrth 2024. Maent yn cynnwys categorïau o angen heb ei ddiwallu nad ydynt yn yr amcangyfrifon cenedlaethol, megis aelwydydd gorlawn, cysgu allan a digartrefedd cudd. Fodd bynnag, mae rhai rhanddeiliaid wedi rhybuddio y gall yr asesiadau danamcangyfrif angen er hynny. Nid yw cyfanswm Cymru gyfan yn hysbys.

Beth yw maint y sector rhentu preifat?

Mae’r cynllun trwyddedu landlordiaid, Rhentu Doeth Cymru, wedi gwella darlun data’r sector rhentu preifat mewn sawl ffordd. Fodd bynnag, mae wedi bod yn llai dibynadwy wrth olrhain pryd y bydd landlordiaid yn gadael y sector. O dan ofynion trwyddedu, dylai landlordiaid hysbysu Rhentu Doeth Cymru pan fyddant yn rhoi’r gorau i fod yn landlordiaid. Fodd bynnag, nid yw llawer yn gwneud hyn, felly mae’r ffigurau’n gorfod dal i fyny bob pum mlynedd o ystyried y cylch aildrwyddedu.

Dywedodd Steve Bletsoe o Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl fod y data hynny’n dylanwadu ar y sgyrsiau gonest y mae angen eu cael am y sector rhentu preifat yng Nghymru.

Gwnaeth y cyn-Ysgrifennydd Cabinet gydnabod bod ffigurau wedi gostwng tua mis Tachwedd 2021 o ystyried y cylch aildrwyddedu, ond dywedodd eu bod wedi cynyddu’n gyson iawn ers hynny.

Pam mae pobl yn dod yn ddigartref?

Cyn y pandemig, roedd awdurdodau lleol yn cyflwyno data chwarterol ynghylch digartrefedd drwy’r ffurflen ‘WHO12’. Yn 2019-20, gwaredwyd y ffurflen hon a chyflwynwyd y broses o gasglu ystod lai o ddata bob mis.

Un darn o wybodaeth ar y ffurflen WHO12 nad yw bellach yn cael ei gasglu yw’r rhesymau pam y mae aelwydydd yn dod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Gall yr wybodaeth hon helpu i atal digartrefedd.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd sy’n cynnig 44 o ddangosyddion data i fesur cynnydd. Byddai llawer o’r dangosyddion hyn yn cynnwys casglu data nad ydynt ar gael ar hyn o bryd. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd hyn yn “cymryd camau sylweddol tuag at fesur cynnydd tuag at ein uchelgais hirdymor i rhoi diwedd ar ddigartrefedd” [sic]. Mae gweithgor newydd ei sefydlu yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gasglu data ar lefel unigolyn, fel sy’n digwydd eisoes yn Lloegr a’r Alban.

Faint o bobl sy’n cysgu allan?

Rhywbeth arall y mae’r pandemig wedi rhoi diwedd arno yw’r gwaith o gyfrif pobl sy’n cysgu allan. Rhwng 2015 a 2019, gwnaed hyn drwy gynnal ymarfer casglu gwybodaeth dros bythefnos bob blwyddyn ynghyd ag ymarfer cyfrif mewn un noson pan fyddai awdurdodau lleol yn cynnal arolwg yn eu hardal.

Ataliwyd yr ymarfer cyfrif dros dro yn 2020 a chyflwynwyd amcangyfrifon misol yn ei le. Ym mis Ebrill 2024, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar atal yr ymarfer cyfrif blynyddol am byth, gan resymu bod perygl y byddai’r ymarfer yn colli rhai pobl.

Mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar wybodaeth leol. Mae’r elusen digartrefedd The Wallich wedi rhybuddio bod awdurdodau lleol yn defnyddio dulliau amcangyfrif gwahanol ac roedd yn galw am fwy o gysondeb fel y gallwn fod yn hyderus nad yw rhai ardaloedd yn cofnodi bod yr her yn llai nag y mae mewn gwirionedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai’r bwriad tymor hwy yw symud i gasglu data digartrefedd ar lefel unigolyn, er na fydd hyn yn cynnwys data cysgu allan i ddechrau.

Llenwi bylchau

Ochr yn ochr â’r gwaith i wella data digartrefedd, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau eraill i lenwi bylchau. Yn ddiweddar, mae’r Papur Gwyrdd ar Ddigonolrwydd Tai a Rhenti Teg wedi galw am dystiolaeth gan fod llawer o fylchau mewn data a thystiolaeth fel y dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Cabinet. Disgwylir Papur Gwyn yn ddiweddarach eleni a all gynnwys cynigion ynghylch data.

Mae’r galw am arolwg tai Cymru yn debygol o barhau i godi. Er ei bod yn bwysig peidio â chasglu data yn ddiangen, mae dadleuon bod buddsoddi mewn data yn arbed arian cyhoeddus.

Ond er bod arian yn parhau’n dynn, a fydd Llywodraeth Cymru’n ystyried bod data tai yn beth moethus neu hanfodol?


Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru