Person mewn côt ddu yn mynd i mewn i orsaf bleidleisio.

Person mewn côt ddu yn mynd i mewn i orsaf bleidleisio.

Pleidleisio mwy hygyrch yng Nghymru

Cyhoeddwyd 06/02/2026

Yng Nghymru mae “nifer o rwystrau a wynebir gan etholwyr, yn benodol pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol, gan gynnwys pobl anabl”. Caiff Llywodraeth Cymru ei thywys gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ac mae ganddi gyfrifoldeb i sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu heithrio o fywyd cyhoeddus, gan gynnwys etholiadau.

Felly, beth sy'n cael ei wneud i wella hygyrchedd i bleidleiswyr yn etholiad y Senedd 2026? Bydd yr erthygl hon yn archwilio rhai o'r mesurau a gyflwynwyd gyda’r nod o wneud pleidleisio'n haws ac yn fwy cynhwysol.

Pwy sy'n gyfrifol am etholiadau yng Nghymru?

Mae cynnal etholiadau yng Nghymru yn cynnwys sawl corff. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am sawl agwedd ar etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol, gan gynnwys llunio’r rheolau ynghylch eu cynnal.

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff ar gyfer y DU gyfan sy'n goruchwylio etholiadau a chyllid gwleidyddol, yn dyroddi canllawiau i swyddogion canlyniadau, ymgeiswyr ac asiantau ac yn hyrwyddo etholiadau teg a democrataidd. Mae'n sicrhau y caiff etholiadau eu cynnal yn llwyddiannus, yn gyfreithlon, a bod gan bobl yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Sefydlwyd Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru (BRhE) gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn dilyn pasio deddfwriaeth gan y Senedd. Mae'n cydlynu gweinyddiaeth etholiadau ledled Cymru ac yn rhoi cyngor i swyddogion canlyniadau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ynghylch gweinyddiaeth etholiadau a refferenda.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella hygyrchedd ar gyfer yr etholiad?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i wella mynediad at wybodaeth etholiadol cyn diwrnod yr etholiad, yn ogystal â'i gwneud yn haws pleidleisio ar y diwrnod. Roedd llawer o'r camau hyn yn ofynnol o dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (Deddf 2024).

Fel arfer, ystyrir bod nifer y bobl a bleidleisiodd mewn etholiadau yn ffordd bwysig o fesur cyfranogiad, er nad yr unig ffactor. Mae'r ganran a bleidleisiodd yn etholiadau'r Senedd yn dal i fod "yn ystyfnig o isel" gyda 46.8% o bobl yn pleidleisio yn 2021, lefel y mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi'i disgrifio fel bod "mewn cyflwr gwael".

Platfform gwybodaeth i bleidleiswyr

Cyflwynodd Deddf 2024 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu platfform gwybodaeth i bleidleiswyr. Y nod yw y bydd Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig "yn darparu gwybodaeth i bleidleiswyr ac yn eu cefnogi i gymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru". Mae'r BRhE yn dweud y bydd y Platfform yn dryloyw, hygyrch a diduedd.

Bydd y Platfform yn cynnwys:

  • hysbysiadau etholiad, megis cyhoeddiadau swyddogol ynghylch etholiadau a manylion pleidleisio;
  • gwybodaeth am yr ymgeiswyr a'r pleidiau;
  • gwybodaeth am orsafoedd pleidleisio;
  • canlyniadau etholiad gyda datganiadau swyddogol ar ôl yr etholiad.

Bydd y Platfform yn dechrau gyda fersiwn hyfyw sylfaenol  ar gyfer etholiad y Senedd 2026 gyda diweddariadau i ddilyn yn 2027.

Hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio

Mae pobl anabl yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth bleidleisio ac, yn enwedig, gallu pleidleisio yn gyfrinachol. Argymhellodd yr adolygiad o hygyrchedd ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru yn 2024 y dylid gwneud newidiadau i orsafoedd pleidleisio, gan gynnwys:

  • sicrhau mynediad heb risiau a llawrydd i bob gorsaf bleidleisio a llwybr gwastad a di-rwystr drwy’r orsaf bleidleisio;
  • dylai’r holl wybodaeth mewn gorsafoedd pleidleisio fod ar gael mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, yn ogystal ag mewn sawl iaith wahanol, a
  • dylai pleidleisiau drwy’r post, a’r wybodaeth sy’n gysylltiedig â phleidleisio drwy’r post, fod mewn fformatau hygyrch yn ogystal â sawl iaith.

Mae nifer o'r argymhellion hyn wedi'u mabwysiadu ar gyfer etholiad y Senedd 2026, gan gynnwys addasu bythau pleidleisio i sicrhau eu bod yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai sydd ag amhariadau symudedd.

Dyletswydd ar swyddogion canlyniadau

Mae Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 yn rhoi dyletswydd ar swyddogion canlyniadau i sicrhau bod darpariaethau yn yr orsaf bleidleisio “at ddibenion galluogi personau perthnasol i bleidleisio’n annibynnol, neu ei gwneud yn haws”. Yn ôl y Gorchymyn, 'personau perthnasol' yw'r rhai sy'n ei chael yn anodd neu'n amhosibl pleidleisio oherwydd amhariad difrifol ar y golwg neu ddallineb rhannol, neu anabledd arall. Daw hyn ag etholiadau'r Senedd i gyd-fynd â threfn etholiadau a gadwyd yn ôl yng Nghymru yn dilyn newidiadau a wnaed gan Ddeddf Etholiadau 2022.

Yn dilyn ymgynghoriad, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dyroddi canllawiau i swyddogion canlyniadau ar ddarparu cymorth pleidleisio i bobl anabl. Mae Gorchymyn 2025 yn gosod dyletswydd ar swyddogion canlyniadau i roi sylw i’r canllawiau hyn.

Mae mesurau a fydd ar waith ar gyfer etholiad 2026 yn cynnwys darparu offer pleidleisio hygyrch a chopïau print bras o bapurau pleidleisio.

Cynlluniau peilot pleidleisio hygyrch

Lansiwyd dau gynllun peilot pleidleisio hygyrch ym mis Chwefror 2025 yn dilyn adroddiad gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall a oedd yn ymdrin â phrofiad pleidleisio pobl ddall a phobl sydd yn gweld yn rhannol. Canfu'r adroddiad mai dim ond chwarter o bobl ddall a phobl sydd yn gweld yn rhannol oedd yn teimlo bod y system etholiadol bresennol yn eu galluogi i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Felly, rhoddodd y cynllun peilot sawl cynllun ar waith, gan gynnwys:

  • dulliau sain ar ffurf cod QR sy'n cysylltu â fideo YouTube, llinell ffôn sy’n darparu gwybodaeth yn awtomataidd a dyfais sain Accord i helpu pleidleiswyr i ddeall yr wybodaeth ar bapurau pleidleisio; a
  • dulliau pleidleisio cyffyrddol ar ffurf troshaenau cardfwrdd a dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol, i helpu’r pleidleiswyr i roi croes ar eu papurau yn annibynnol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau’r cynllun peilot: Nododd y cyfranogwyr y byddai unrhyw un o’r dulliau pleidleisio a dreialwyd yn gwella eu profiad pleidleisio, gan eu galluogi i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.

Dulliau posibl yn y dyfodol

Cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru gynlluniau peilot i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig (AVR) yn 2025 o dan bwerau yn Neddf 2024. Mae AVR yn golygu nad oes angen i ddinasyddion gofrestru i bleidleisio ac y byddant yn cael eu hychwanegu'n awtomatig at y gofrestr gyda dewis i ymeithrio o’r cynllun. Pe bai AVR yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru yn dilyn y cynlluniau peilot, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gellir ychwanegu tua 400,000 o bobl nad ydynt eisoes wedi cofrestru i bleidleisio.

Ym mis Gorffennaf 2025, dywedodd y Prif Weinidog fod “llawer iawn wedi cael ei ddysgu” o gynlluniau peilot AVR yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys. Ym mis Rhagfyr 2025, cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol ei werthusiad o'r cynlluniau peilot a daeth i'r casgliad bod y cynlluniau’n awgrymu y gallai AVR "gael effaith gadarnhaol ar gyflawnder cofrestrau etholiadol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd AVR yn cael ei gyflwyno ar gyfer etholiad nesaf y Senedd, ond mai ei fwriad yw ei gyflwyno ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2027.

Pleidleisio electronig ar-lein

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi manteision posibl pleidleisio electronig ar-lein ar gyfer moderneiddio democratiaeth yng Nghymru. Golyga hyn y gallai pob pleidleisiwr cymwys bleidleisio o bell gan ddefnyddio cyfrifiadur neu ffôn clyfar. Er ei bod yn cydnabod bod pleidleisio ar-lein electronig yn cynnig "safon aur hwylustod", caiff ei ystyried fel nod hirdymor ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw gynlluniau i ddeddfu arno yn y dyfodol agos.

Cynlluniau eraill

Ni chafodd sawl argymhelliad arall o'r adolygiad o hygyrchedd ymgysylltiad democrataidd eu gweithredu. Ymysg yr argymhellion hyn mae darparu canllaw i bobl anabl o'r hyn i'w ddisgwyl ar ddiwrnod pleidleisio, sicrhau bod digon o seddi ar gael mewn ciwiau pleidleisio gyda chyfleoedd i 'neidio’r ciw' os oes angen, a phleidleisio hyblyg.

Mae Deddf 2024 yn gosod dyletswydd ychwanegol ar y Comisiwn Etholiadol ynghylch adrodd ar y camau a gymerir gan swyddogion canlyniadau mewn etholiadau i gynorthwyo pobl anabl. Cyhoeddir hyn ochr yn ochr â'i adroddiadau yn dilyn etholiad y Senedd 2026.

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Dim ond rhai o’r cynlluniau yw’r rhain sydd â’r nod o wneud democratiaeth Cymru yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb. I gael rhagor o wybodaeth am yr etholiad eleni, gweler ein tudalen adnoddau ar gyfer yr etholiad.

Erthygl gan Emma Brewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Emma Brewis gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a oedd yn ei galluogi i gwblhau yr erthygl hon.