Plant sydd ar yr ymylon

Cyhoeddwyd 11/02/2025   |   Amser darllen munudau

Roedd ymchwiliad diweddar gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn edrych ar yr hyn rydym yn ei wybod am blant coll a phlant sy’n cael eu troseddoli yng Nghymru. Roedd y gwaith yn cynnwys:

  • edrych ar natur a graddfa plant coll a phlant sy’n cael eu troseddoli, ac a oes darlun gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru;
  • darganfod pa blant sydd fwyaf mewn perygl; a
  • archwilio pa mor effeithiol yw’r polisïau perthnasol a’r ymarfer rheng flaen, gan gynnwys sut mae pwerau datganoledig perthnasol (fel gofal cymdeithasol plant) a phrosesau'r DU (fel cyfiawnder troseddol) yn rhyngweithio ac yn gweithio gyda’i gilydd.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cyfeirio at blant coll a phlant sy’n ddioddefwyr camfanteisio troseddol fel ‘Plant sydd ar yr Ymylon’ ac yn dweud:

Mae rhai ffactorau risg sy’n golygu bod gwthio rhywun i’r ymylon yn fwy tebygol. Ond yn y pen draw, gall unrhyw blentyn gael ei wthio i’r ymylon. Gall unrhyw blentyn fynd ar goll, a gall unrhyw blentyn ddioddef camfanteisio.

Mae ei sylfaen dystiolaeth yn cynnwys cyfarfod ag ymarferwyr rheng flaen a rhanddeiliaid, cyfweliadau â rhieni a phobl ifanc, cael tystiolaeth ysgrifenedig, a chrynodeb ffilm o brofiadau goroeswyr ifanc o ecsbloetio troseddol. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi gofyn cwestiynau uniongyrchol i’r heddlu a'r byrddau iechyd er mwyn cael gwell darlun o'r hyn y mae gwasanaethau brys a rheng flaen yn ei wybod am natur a graddfa plant sydd ar goll ac sy'n cael eu hecsbloetio'n droseddol yng Nghymru.

Yn seiliedig ar yr hyn a glywodd, gwnaeth 23 o argymhellion ar gyfer newid. Wythnos nesaf, bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod yr hyn a ganfu'r Pwyllgor a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb hyd yma.

Mae ‘un adroddiad am blentyn coll bob awr’

Nid yw ystadegau arferol am yr holl blant sydd ar goll yn cael eu cyhoeddi. Mae adroddiad Methu’r Pwynt gan NYAS Cymru a Chymdeithas y Plant yn cyfeirio at ddata Rhyddid Gwybodaeth sy'n dangos bod 3,250 o blant wedi mynd ar goll yng Nghymru o leiaf unwaith yn 2019-20. Yn ôl yr adroddiad:

Bob blwyddyn yng Nghymru mae dros 10,000 digwyddiad o blant a phobl ifanc coll yn cael eu hadrodd i'r heddlu. Golyga hynny un adroddiad am blentyn coll bob awr.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar blant sy'n mynd ar goll o ofal yn ystod y flwyddyn, fesul awdurdod lleol. Mae'r data hwn yn dangos, yn 2022-23, o gyfanswm o 7,210 o blant mewn gofal, bod:

  • 5,391 o adroddiadau am blant sy’n mynd ar goll o ofal; a
  • 2,097 o blant unigol yn mynd ar goll o ofal.

Stori am golli cyfleoedd

Disgrifiodd gweithiwr proffesiynol a oedd wedi adolygu ystod o ffeiliau achos plant sy'n cael eu camfanteisio yn droseddol o bob cwr o Gymru fod adolygu straeon bywyd plant a gamfanteisiwyd arnynt yn droseddol fel “edrych ar ddamwain car yn digwydd yn araf bach” - gan fod y ffactorau risg yn amlwg o'r cychwyn cyntaf, a bod yr anochel yn digwydd heb ymyrraeth gynnar. Dywedodd y Pwyllgor:

Gellir darllen yr adroddiad hwn fel stori am golli cyfleoedd. Colli cyfleoedd i nodi a chefnogi plant sy’n wynebu risg. Colli cyfleoedd i gael sgyrsiau pwysig yn dilyn yr arwyddion cyntaf o rywun yn cael ei wthio i’r ymylon. Colli cyfleoedd i ymateb yn effeithiol pan fydd pethau’n gwaethygu, a cholli cyfleoedd i gymryd camau pendant ar adegau tyngedfennol.

Dywed Llywodraeth Cymru fod 2,389 o blant wedi’u cofnodi yn ystod 2022-23 lle’r oedd camfanteisio ar blant yn ffactor yn 2022-23. Gellir dadansoddi’r data hwn ymhellach i nifer y plant yr adroddir amdanynt gyda'r ffactorau canlynol yng Nghymru:

  • Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant: cofnodwyd 1,139 o blant
  • Camfanteisio’n Droseddol ar Blant: cofnodwyd 1,070 o blant
  • Masnachu Plant: cofnodwyd 180 o blant

Mae'r adroddiad ei hun, ar dudalen 46, yn defnyddio ystadegau poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol a data Llywodraeth Cymru ar nifer y plant a adroddwyd yn ystod y flwyddyn lle'r oedd camfanteisio ar blant yn ffactor, fesul awdurdod lleol i gyfrifo cyfraddau plant yr effeithir arnynt fesul 1,000.

Pwy allai fod mewn perygl?

Canfu’r Pwyllgor fod mynd ar goll ynddo'i hun yn rhoi pobl ifanc mewn perygl ac mae hefyd yn ddangosydd risg ar gyfer camfanteisio. Mae ei adroddiad yn trafod ystod o blant sydd mewn perygl o fod ar yr ymylon neu brofi camfanteisio, gan gynnwys ymysg eraill: plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal; plant nad ydynt mewn lleoliad addysg; plant niwroamrywiol a phlant ag anableddau dysgu; plant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches ar eu pen eu hunain; plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu; a'r rhai sy'n ddigartref neu'n byw mewn llety dros dro.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer Diogelu plant sy’n mynd ar goll o’r cartref neu o ofal a Diogelu plant rhag Camfanteisio Troseddol ar Blant. Caiff y ddau eu defnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Eto i gyd, mae'r Pwyllgor yn credu bod mwy i'w wneud ac, o ran camfanteisio troseddol, mae’r rhai sy’n camfanteisio yn addasu eu tactegau yn gyflym iawn o ran gorfodi'r gyfraith:

Un o’r themâu mwyaf cyson yr ydym wedi’i nodi ar draws ein gwaith casglu tystiolaeth yw nad yw’r ymateb polisi i blant y camfanteisir arnynt yn droseddol bob amser wedi cadw i fyny â natur esblygol y camfanteisio. Mae oedolion sy’n camfanteisio yn symud yn gyflym i addasu eu tactegau gorfodi i osgoi mentrau diogelu a chyfiawnder troseddol.

Beth nesaf?

Ar 19 Chwefror, bydd y Senedd yn trafod canfyddiadau’r Pwyllgor am blant sydd ar goll a phlant sy’n destun camfanteisio troseddol ac yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at ‘golli cyfleoedd’ ond mae hefyd yn dod i'r casgliad:

Ceir bwriadau da ar draws y sector, ac mae enghreifftiau o arfer da, hefyd. Felly nid yw’r adroddiad hwn yn galw am chwyldro yn yr ymateb i blant sydd ar yr ymylon. Yn lle hynny, rydym yn gofyn i weithwyr proffesiynol fod yn fwy ymwybodol, yn fwy cyson, gyda mwy o ffocws, i ofyn mwy ohonynt eu hunain ac eraill, ac i fod yn atebol am wneud hynny.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru 21 o 23 o argymhellion y Pwyllgor, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Gallwch glywed dyfarniad Aelodau eraill o’r Senedd yn ystod dadl yr wythnos nesaf brynhawn Mercher 18 Chwefror. Yfory, ddydd Mercher, 12 Chwefror, mae dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am Ymchwiliad i gamfanteisio’n rhywiol ar blant.

Bydd y ddwy ddadl yn cael eu dangos yn fyw neu gallwch wylio'n ôl ar Senedd.tv .


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru