Mae y briff ystadegol hwn ar blant yng Nghymru sydd â phrofiad o ofal yn nodi rhai o nodweddion 'plant sy'n derbyn gofal', ffactorau am y rhieni, gwariant gwasanaethau cymdeithasol a gwybodaeth am y gweithlu. Mae hefyd yn nodi canlyniadau i blant a phobl ifanc lle caiff y rhain eu mesur a'u cyhoeddi.
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i 'ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal'. Mae'r papur hwn yn bwriadu helpu i lywio'r ymchwiliad.
Erthygl gan Helen Jones, Sian Thomas a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru