Pam mae plannu coed ar yr agenda?
Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd Strategaeth gyntaf Coetiroedd i Gymru. Roedd yn canolbwyntio ar reoli coetiroedd, gwasanaethau a swyddi. Roedd strategaeth wedi'i diweddaru yn 2009 yn ehangu ar hyn i ystyried rôl coed y tu allan i goetiroedd, a rôl coed a choetir wrth storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.
Yn ei Strategaeth gyfredol Coetiroedd i Gymru, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod coetiroedd a choed yn hanfodol o ran:
… [c]ynnal yr amgylchedd ehangach, drwy gynnig cyfleoedd i bobl a chymunedau a gwella bywydau pawb yng Nghymru
Mae plannu coed hefyd yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru, Cymru Sero Net, gan y gall coed, gwrychoedd a mawndir gael gwared ar nwyon tŷ gwydr o'r atmosffer trwy ddal a storio carbon mewn biomas a phridd.
Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru , a gaiff ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, hefyd yn anelu at gefnogi'r gwaith o gyflawni Coetiroedd i Gymru. Drwy reoli'r Ystad, nod Cyfoeth Naturiol Cymru yw, ymhlith pethau eraill, cynyddu cyflenwadau pren, gwarchod coetir cyfan, a chynyddu plannu coed ar gyfer sero net.
Gall plannu coed weithiau fod yn ddadleuol a chaiff y mantra "y goeden gywir yn y lle cywir" ei ddefnyddio'n aml yng Nghymru.
Mae NFU Cymru wedi mynegi pryderon y gall plannu coed ar dir amaethyddol cynhyrchiol leihau hyfywedd busnes a diogeledd bwyd.
Bu anesmwythyd mewn cymunedau gwledig hefyd ynglŷn â chorfforaethau mawr yn cystadlu â theuluoedd lleol i brynu ffermydd i blannu coed ar gyfer gwrthbwyso carbon.
Mae'r ddadl hon dros ddefnydd tir yn parhau, gyda Chydffederasiwn y Diwydiannau Coedwigaeth (Confor) yn dweud bod cadwraethwyr, ffermwyr a choedwigwyr i gyd yn cystadlu dros grynswth tir Cymru a bod angen cyd-weithio.
Cynnydd plannu coed hyd yma
Ffigur 1 – Cyfanswm y plannu newydd yng Nghymru, 1971 i 2025

Ffynhonnell: Forest Research
Ar hyn o bryd, mae coetir yng Nghymru yn gorchuddio 313,000 hectar (ha), ardal sydd wedi aros yn fras yr un peth ers 2005. Gosodwyd y targed plannu cychwynnol yn 2009 ac yna cynyddodd yn sylweddol yn 2010 (Tabl 1).
Tabl 1 – Targedau plannu coed Llywodraeth Cymru
|
Targed Plannu coed Llywodraeth Cymru (cyfateb i hectarau y flwyddyn) |
Blwyddyn gosod y targed |
Erbyn |
Y strategaeth |
|
500 |
2009 |
2012 |
Coetiroedd i Gymru |
|
5,000 |
2010 |
2030 |
Strategaeth Newid Hinsawdd Cymru |
|
4,300 |
2021 |
2030 |
Datganiad Ysgrifenedig Coed a Phren |
Ffynhonnell: Coetiroedd i Gymru, Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru, Datganiad Ysgrifenedig: Coed a Phren
Er gwaethaf y targedau uchelgeisiol hyn, roedd y gyfradd blannu ar gyfartaledd rhwng 2010 a 2020 yn 430 ha y flwyddyn, ac yn 2020, roedd yn ddim ond 80 hectar, ymhell islaw'r targed.
Yn 2021, newidiodd Llywodraeth Cymru y targed eto i 43,000 ha erbyn 2030, i fodloni’r 'llwybr cytbwys' i Gymru Sero Net a awgrymwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU (UKCCC) yn 2020. O 2024, dim ond 12% o'r targed hwn oedd wedi'i gyrraedd.
Ffigur 2 – Camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar blannu coed, gyda lefelau plannu coed newydd, 1999-2025

Ffynhonnell: Forest Research, Coetiroedd i Gymru, Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru, Datganiad Ysgrifenedig: Coed a Phren, UKCCC
Mae’r ffaith bod cyfraddau plannu coed Cymru yn methu'r targed wedi bod yn broblem ers ymhell dros ddegawd. Yn 2017, canfu un o bwyllgorau’r Senedd:
“ [bod] bwlch enfawr rhwng dyhead a realiti, ac mae angen newid sylfaenol wrth ymdrin â chreu coetiroedd yng Nghymru. […] Rhaid i Lywodraeth Cymru arwain drwy esiampl a chynyddu coedwigo ar dir cyhoeddus.”
Y targed plannu coed diweddaraf (2025), a awgrymwyd gan UKCCC yw 22,000 hectar o goetir wedi'i blannu erbyn 2030 (o'i gymharu â 2020) fel rhan o'r uchelgais llwybr cytbwys, sy’n llawer llai uchelgeisiol. Fodd bynnag, mae'r targed arfaethedig ar gyfer 2050 wedi cynyddu o 180,000 ha i 208,000 ha, a byddai angen llawer mwy o blannu coed ledled Cymru i'w gyflawni.
Ffigur 3 – Plannu coed cronnus gwirioneddol a rhagamcanedig, 2020 i 2050

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Forest Research, UKCCC
Archwiliad Dwfn i Goed a Phren
Yn 2021, cynhaliodd Llywodraeth Cymru archwiliad dwfn i goed a phren. Y nod oedd datblygu camau i gynyddu plannu coed, a goresgyn rhwystrau rhag:
- creu coetiroedd;
- defnyddio pren Cymru mewn gwaith adeiladu; ac
- annog plannu coed cymunedol.
Argymhellodd archwiliad dwfn y Tasglu Coed a Phren newidiadau i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig ar y pryd, camau gweithredu ar allgymorth a chyllid i annog plannu coed, a dyluniad Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren (strategaeth a arweinir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad pren a chreu rhagor o swyddi yn y diwydiant coedwigaeth).
Roedd argymhellion a ryddhawyd ar ôl yr archwiliad dwfn gan y Gweithgor Cyllid Coetiroedd ac yn yr Adroddiad Creu Coetiroedd yng Nghymru yn cyfeirio at yr angen am ganllawiau cliriach ar sut y dylai Cymru gyrraedd targedau plannu presennol. Roeddent yn galw am ragor o wybodaeth ar y lefelau plannu disgwyliedig bob blwyddyn, a'r mathau o goetir a rhanddeiliaid a fyddai'n cymryd rhan.
Tynnodd yr archwiliad dwfn sylw hefyd at yr angen am ragor o gyllid ar gyfer ailstocio a phlannu o’r newydd. Mae nifer o grantiau coetir ar gael ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft, y Grantiau Creu Coetir, Coetiroedd Bach (Tiny Forests) a’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG).
Mae'r cyllid sydd ar gael drwy’r Grant Buddsoddi mewn Coetir yn rhan o raglen Coedwig Genedlaethol Cymru o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at greu rhwydwaith o goetiroedd a choedwigoedd ledled Cymru.
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Nod Llywodraeth Cymru oedd cynyddu plannu coed drwy reol gorchudd coed gorfodol o 10% ar ffermydd sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Arweiniodd y cynnig hwn at drafodaeth eang, gyda sefydliadau amgylcheddol, er enghraifft Coed Cadw, yn canmol yr ymgais i gynyddu plannu coed, ond roedd llawer o ffermwyr yn pryderu am golledion posibl mewn swyddi ac incwm ffermio. Arweiniodd y ddadl proffil uchel at waith craffu ar y Cynllun drafft gan ddau o bwyllgorau’r Senedd yn gynnar yn 2024 (Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith)
Ym mis Tachwedd 2024, aeth y Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon i'r casgliad bod gorchudd coed gorfodol yn debygol o atal ffermwyr rhag ymuno â'r cynllun.
Cafodd y gofyniad plannu coed 10% ei ddileu gan Lywodraeth Cymru a'i ddisodli gyda 'Gweithred Gyffredinol' newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun lunio cynllun cyfle i blannu coed a chreu gwrychoedd. Bydd rhaid i ffermwyr ddangos cynnydd tuag at eu cynllun cyfle erbyn diwedd 2028, gyda Llywodraeth Cymru yn gofyn i bob fferm blannu o leiaf 0.1 ha o goed erbyn hyn.
Drwy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gyflawni o leiaf 17,000 ha o blannu coed newydd ledled Cymru erbyn 2030. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i fod yn llai na thargedau plannu coed presennol Llywodraeth Cymru (43,000 ha) neu awgrym UKCCC (22,000 ha), sy'n golygu y bydd angen gweithredu pellach y tu hwnt i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i gyflawni'r targedau a osodwyd.
Beth sydd nesaf?
Er bod cynnydd wedi'i wneud o ran polisïau a chynlluniau i gynyddu plannu coed newydd yng Nghymru, mae angen i lefelau gwirioneddol plannu a chydweithredu ar draws sawl sector godi i gyrraedd targedau presennol 2030. Yn ogystal â hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynllun tuag at gyflawni Cyllideb Garbon 3 cyn diwedd 2026, a gallai plannu coed fod yn rhan o'r strategaeth.
Erthygl gan Liesl van de Vyver Blackman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Liesl van de Vyer Blackman gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a alluogodd yr erthygl hon i gael ei chwblhau.