Canolfan Mileniwm Cymru

Canolfan Mileniwm Cymru

Pàs COVID y GIG yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/12/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwynwyd Pàs COVID y GIG yng Nghymru ar 11 Hydref 2021 yn dilyn Pleidlais agos yn y Senedd – gyda 28 pleidlais o blaid a 27 yn erbyn. Ers hynny, mae'r pasys wedi'u hymestyn i gynnwys sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau, yn ogystal â chlybiau nos a rhai digwyddiadau mawr. Mae'r erthygl hon yn amlinellu rôl pas COVID y GIG a sut y gall pobl fynd ati i gael un.

Beth mae Pàs COVID y GIG yn ei gwmpasu?

Un gwahaniaeth allweddol i'w wneud am Bàs COVID y GIG yng Nghymru, yw nad "pasbort brechlyn" yn benodol ydyw.

Er y byddai pasbort brechlyn ond yn dangos a yw rhywun wedi'i frechu'n llawn neu'n rhannol, mae Pàs COVID y GIG yng Nghymru yn ffordd o ddangos tystiolaeth o gael brechu'n llawn yn erbyn COVID-19, neu wedi cael prawf llif ochrol negyddol o fewn y 48 awr flaenorol.

Mae nifer o wledydd ledled y byd, gan gynnwys Israel, Ffrainc a'r Swistir wedi mabwysiadu math o bàs brechlyn neu COVID i alluogi teithio a chael mynediad i ddigwyddiadau ar raddfa fawr.

Ers 15 Tachwedd 2021, mae wedi bod yn ofynnol i bobl dros 18 oed yng Nghymru ddangos eu pàs COVID-19 i fynd i’r canlynol:

  • Clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • Sinemâu. theatrau a neuaddau cyngerdd
  • Lleoliadau dando, gyda mwy na 500 o bobl yn y gynulleidfa
  • Unrhyw leoliadau awyr agored neu dan do gyda dros 4000 yn y gynulleidfa
  • Unrhyw ddigwyddiad gyda dros 10000 o bobl yn bresennol.

Mae rhai eithriadau i ddigwyddiadau, megis protestiadau a digwyddiadau chwaraeon cyfranogiad torfol, lle nad oes angen y pàs. Yn ogystal, nid oes angen i unrhyw un o dan 18 oed neu bobl sy'n gweithio, yn gwirfoddoli neu'n perfformio mewn lleoliad ddarparu tystiolaeth o frechu neu brawf negyddol

Sut mae cael Pàs COVID?

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn gael Pàs COVID y GIG o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Maent wedi cael eu brechu yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Ynys Manaw
  • Maent wedi'u cofrestru'n barhaol gyda meddyg teulu yng Nghymru
  • Nid ydynt wedi cael eu brechu ond maent am ddefnyddio'r Pass i ddangos canlyniad prawf llif ochrol negyddol o'r 48 awr blaenorol

Nid oes angen brechiad atgyfnerthu COVID i gael Pàs COVID y GIG yng Nghymru. Fodd bynnag, mae brechiad atgyfnerthu wedi'u hychwanegu at Bàs COVID digidol y GIG, a fydd yn caniatáu i bobl yng Nghymru ddangos prawf o’r brechiad atgyfnerthu wrth deithio dramor.

Gellir cael gafael ar Bàs COVID y GIG yng Nghymru drwy wefan GIG y DU, gan ddefnyddio manylion mewngofnodi'r GIG. I gael pàs, mae angen uwchlwytho llun pasbort dilys y DU, trwydded yrru lawn y DU neu drwydded yrru Ewropeaidd lawn.

Yna gellir cynhyrchu pàs COVID drwy ddefnyddio ffôn clyfar neu gyfrifiadur. Mae cod bar y pàs yn dod i ben ar ôl 30 diwrnod ond yn diweddaru'n awtomatig. Mae tystysgrif bapur, sydd ond yn darparu tystiolaeth o frechiad llawn ac nid tystiolaeth o brawf llif ochrol negyddol, ar gael i unrhyw un heb ddull adnabod ffotograffig.

Mae'n rhaid i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr ond sy'n byw yng Nghymru ddefnyddio Gwasanaeth Ap y GIG ar gyfer Lloegr, gan na fyddai GIG Cymru yn gallu cael gafael ar eu cofnod brechu.

I bobl nad ydynt yn gallu defnyddio'r system ar-lein, mae gwasanaeth ffôn wedi ei ddarparu. Fodd bynnag, tynnwyd sylw yn y Cyfarfod llawn at y ffaith bod problemau wedi codi o ran pobl yn cael trafferth defnyddio'r llinell ffôn.

Beth nesaf ar gyfer y Pàs COVID yng Nghymru a ledled y DU?

Mae cyflwyno pàs COVID y GIG yng Nghymru, ac mewn mannau eraill, wedi bod yn ddadleuol. Mae rhai wedi dadlau bod y pasys yn ddewis amgen dilys yn lle'r cyfnod clo. Mae eraill wedi cwestiynu eu heffeithiolrwydd o ran lleihau trosglwyddiad cymunedol COVID.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddir fel tystiolaeth ganddi ac a ddefnyddir i lywio ei phenderfyniadau ynghylch Pàs COVID y GIG.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno pasbort brechlyn ym mis Hydref 2021. I ddechrau, roedd y pàs yn cadarnhau derbyn dau ddos o frechlyn COVID ond o 6 Rhagfyr 2021, bydd hefyd yn caniatáu i bobl ddangos tystiolaeth o brawf llif ochrol negyddol. Mae angen y pasbort mewn clybiau nos a lleoliadau mawr, ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i'w ymestyn i gynnwys lleoliadau lletygarwch neu gelfyddydol.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r tystysgrif domestig brechiad COVID yn cael ei gorfodi o 13 Rhagfyr. Yn wahanol i Gymru a'r Alban, bydd y dystysgrif hefyd yn cynnwys lleoliadau lletygarwch o'r cychwyn cyntaf.

Ar 14 Rhagfyr 2021, pleidleisiodd Senedd y DU dros gyflwyno gofyniad fod yn rhaid cael pàs COVID y GIG er mwyn cael mynediad i glybiau nos neu ddigwyddiadau mawr. Mae'r Pàs yn dangos tystiolaeth o gael brechu’n llawn (2 ddos o frechlyn cymeradwy neu un o'r brechlyn Janssen un dos) neu brawf PCR neu brawf llif ochrol cyflym negyddol o fewn y 48 awr diwethaf.

Wrth i'r amrywiolyn Omicron ddod i'r amlwg, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfyngiadau llymach dros y Nadolig. Mae Prif Weinidog yr Alban eisoes wedi cynghori pobl yn yr Alban i gyfyngu cymdeithasu i dri chartref arall.

Mae pàs COVID y GIG wedi bod yn un o’r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddefnyddio i gadw busnesau ar agor, tra’n elpu hefyd i reoli lledaeniad y feirws. Ond mae’n dal yn aneglur a fydd pàs COVID y GIG, neu hyd yn oed ddefnyddio'r opsiwn o ymestyn ei ddefnydd i leoliadau lletygarwch, yn ddigon i atal lledaeniad yr amrywiolyn newydd y gaeaf hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hadolygiad nesaf ddydd Gwener 17 Rhagfyr.


Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru