Mae’r erthygl yma wedi ei rannu yn ddwy ran, gyda’r rhan gyntaf yn gosod y cyd-destun a darparu trosolwg o brif gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil y Gymraeg. Bydd yr ail ran, i’w gyhoeddi brynhawn ‘ma, yn darparu rhagor o fanylion am gynigion y Llywodraeth.
Y cyd-destun
Ar 9 Awst 2017, yn dilyn galwad am dystiolaeth gan sefydliadau sy'n gorfod cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg a rhanddeiliaid allweddol eraill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn – Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg(868KB).
Mae'r Papur Gwyn yn cyflwyno cynigion Llywodraeth Cymru am Fil newydd a fydd yn diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Dylid darllen y Papur Gwyn ochr yn ochr â Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg (4.16MB) gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2017. Y weledigaeth a nodir yn y Strategaeth yw Cymru ‘lle mae’r Gymraeg yn elfen annatod o bob agwedd ar fywyd bob dydd’. Prif nod y Strategaeth yw bron dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg presennol.
Mae'r Papur Gwyn yn canolbwyntio ar elfennau deddfwriaethol a strwythurol sy'n gysylltiedig â gwireddu'r weledigaeth a nodir yn y Strategaeth. Dywed Alun Davies yn ei ragair Gweinidogol:
Fy mwriad yw rhoi egni newydd i’n hymdrechion i hybu’r iaith drwy sefydlu Comisiwn y Gymraeg, tra’n gwarchod hawliau, symleiddio biwrocratiaeth a sefydlu trefniadau modern ar gyfer cynllunio ieithyddol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd, mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r amcanion canlynol:
- taro'r cydbwysedd iawn rhwng hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg a rheoleiddio dyletswyddau yn ymwneud â'r Gymraeg;
- lleihau biwrocratiaeth yn y system; a
- sicrhau gwerth am arian.
Cynigion allweddol:
Gellir gweld crynodeb o'r cynigion allweddol ym mharagraff 48 o'r Papur Gwyn. Mae rhai o'r cynigion mwyaf arwyddocaol yn cynnwys:
- Diddymu Comisiynydd y Gymraeg.
- Sefydlu un prif gorff - Comisiwn y Gymraeg i hybu'r iaith.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am bolisi a strategaeth genedlaethol a chyllido rhai cyrff sydd o arwyddocâd cenedlaethol.
- Cyllideb ac adnoddau ar gyfer gwaith hybu penodol a wneir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo i'r Comisiwn newydd.
- Y cysyniad o Safonau Iaith i aros, ond dylent fod yn gymwys i wasanaethau yn unig.
- Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am wneud a gosod y Safonau, a dylai'r Comisiwn newydd fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth â'r Safonau.
- Dim ond cwynion difrifol ddylai gael eu hymchwilio gan y Comisiwn y Gymraeg newydd.
Hybu'r Gymraeg
Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hybu'r iaith, er mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud darpariaeth i Gomisiynydd y Gymraeg wneud unrhyw beth y mae'n credu sy'n briodol i hybu'r defnydd o'r Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar gyfer yr iaith, a hybu'r iaith drwy ymgyrchoedd fel Pethau Bychain, sy'n ceisio annog pobl i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi sefydliadau fel Mentrau Iaith, Mudiad y Ffermwyr Ifanc a'r Urdd ymysg eraill, gan ddarparu cyllid prosiect craidd a phenodol. Y gyllideb a ddyrennir ar gyfer gwaith hybu ar gyfer 2017-18 yw tua £4.7 miliwn, gyda £3.1 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am bolisïau cenedlaethol sy'n arwyddocaol o ran hybu a datblygu'r Gymraeg mewn meysydd fel addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig pedwar opsiwn o ran hybu'r iaith:
- Dim newid
- Sefydlu Asiantaeth Weithredol Llywodraeth Cymru
- Sefydlu corff newydd ar wahân i Lywodraeth Cymru
- Sefydlu un corff yn gyfrifol am arfer hybu’r Gymraeg a hefyd monitro a gorfodi cydymffurfiaeth â'r Safonau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio opsiwn 4, a fydd yn ‘darparu un corff gydag ystod eang o bwerau, ac adnoddau sylweddol, a fyddai'n ganolbwynt ar gyfer datblygu'r iaith yng Nghymru’.
Fodd bynnag, bu rhywfaint o wrthwynebiad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil y Gymraeg newydd ac mae rhai wedi nodi y gallai wanhau hawliau siaradwyr Cymraeg. Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fod y cynigion yn gam yn ôl:
Rhwng diddymu Comisiynydd y Gymraeg, lleihau gallu'r cyhoedd i gwyno'n effeithiol a gwanhau'r pwerau i orfodi'r Safonau, byddai hyn yn gam mawr yn ôl.
Dywedodd Emyr Lewis, cyfreithiwr blaenllaw ac un o sylfaenwyr Dyfodol i'r Iaith mewn erthygl ddiweddar yng nghylchgrawn Golwg (17 Awst 2017) fod symud cyfrifoldebau dros hybu'r iaith i Lywodraeth Cymru wedi bod yn “gamgymeriad strategol”. Fodd bynnag, mae o'r farn y dylai'r cyfrifoldebau dros hybu'r iaith a dyletswyddau rheoleiddio'r iaith fod ar wahân:
I believe there is a need to separate these functions. It is better that they are separated into regulatory functions and promotion functions, for the reason that promotion work has a very different nature and purpose.
Daw'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn i ben ar 31 Hydref 2017. Ar 03/10/2017, bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i drafod y prif gynigion yn y Papur Gwyn yn y Cyfarfod Llawn.
Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru