Papur Gwyn ar Farchnad Fewnol y DU: Ymateb Llywodraethau a Seneddau

Cyhoeddwyd 07/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

7 Medi 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 16 Gorffennaf, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad pedair wythnos ar ei chynigion ar gyfer deddf newydd i lywodraethu marchnad fewnol y DU. Gwnaethom gyhoeddi briff ymchwil yn edrych ar y cynigion ar 3 Awst.

Roedd y cynigion yn ddadleuol a chafwyd ymatebion cyflym gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, a phwyllgorau yn y Senedd, Senedd yr Alban a San Steffan.

Nododd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd fod hyd y cyfnod ymgynghori yn gwbl annigonol a dywedodd y gallai'r cynigion fod â goblygiadau cyfansoddiadol pellgyrhaeddol. Yn y cyfamser, dywedodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol nad oedd yn gallu ymateb i'r ymgynghoriad heb wybodaeth bellach gan Lywodraeth y DU a phwysleisiodd na ddylai deddfwriaeth gael ei '[g]orfodi gan Lywodraeth y DU na Senedd y DU yn erbyn ewyllys y llywodraethau a’r deddfwrfeydd eraill'.

Mae ein papur diwygiedig (PDF, 4082KB) yn edrych ar ymatebion llywodraethau a seneddau'r DU a'u themâu allweddol. Disgwylir i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil i weithredu'r cynigion yn gynnar yn nhymor yr hydref.


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru