Cyhoeddwyd 04/06/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
4 Mehefin 2014
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1285" align="alignnone" width="300"]
Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Yn ddiweddar (22 Mai 2014), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi
Papur Gwyn sy'n nodi'r cynlluniau ar gyfer deddfwriaeth newydd i ddiwallu'r anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.
Yn gyffredinol, bydd y cynnig yn gwneud y canlynol:
- Disodli'r diffiniad statudol presennol o Anghenion Addysgol Arbennig gyda chysyniad cyfreithiol mwy hyblyg a chynhwysol o Anghenion Dysgu Ychwanegol; a
- Disodli'r datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig gyda Chynlluniau Datblygu Unigol fel y sail ar gyfer diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol plentyn neu berson ifanc.
Drwy'r diwygiadau hyn, mae Llywodraeth Cymru hefyd am ddwyn ynghyd y ddeddfwriaeth a'r diffiniadau statudol ar gyfer plant o dan 16 oed sydd wedi'u nodi fel plant sydd ag 'anghenion addysgol arbennig' a dysgwyr ôl-16 sydd mewn addysg bellach, yr ystyrir fod ganddynt 'anawsterau a/neu anableddau dysgu'. Byddai Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd yn ceisio sicrhau cydweithrediad gwell rhwng addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a gwella hawliau a phrofiadau teuluoedd wrth wneud cais am ymyriadau.
Mae diwygio'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer anghenion dysgu wedi bod ar yr agenda yng Nghymru am amser hir, gyda nifer o adolygiadau ac ymgynghoriadau blaenorol yn cael eu cynnal ar y pwnc. Yn yr Ail Gynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
ymchwiliad mewn tair rhan i Anghenion Addysgol Arbennig rhwng 2004 a 2007, a oedd yn dangos yr angen i wneud newidiadau.
Roedd y
Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd ar ddechrau Pedwerydd Cynulliad 2011-2016 yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio'r broses ar gyfer ymdrin ag Anghenion Addysgol Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru ac, yn 2012, cynhaliodd Llywodraeth Cymru yr ymgynghoriad
Ymlaen mewn partneriaeth dros blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol: Cynigion ar gyfer diwygio’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer anghenion addysgol arbennig.
Yn gyffredinol, caiff y fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig presennol ei ystyried yn hen ffasiwn, yn gynhennus ac yn anhyblyg o ran seilio hawliadau ar ddatganiadau. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi nodi yn y Papur Gwyn nad yw'n addas at y diben mwyach a'i fod yn gymhleth, yn ddryslyd ac yn wrthwynebol. Ceir hefyd amrywiaeth ac anghysondeb sylweddol ymhlith awdurdodau lleol ledled Cymru o ran sut y caiff ei ddefnyddio.
Mewn
tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae Estyn wedi gwneud sylw ar yr amrywiaeth sylweddol sydd rhwng polisïau ac arferion awdurdodau lleol ar hyn o bryd a bod awdurdodau lleol wedi ceisio lleihau nifer y datganiadau a rhoi cymorth i ddisgyblion mewn ffyrdd eraill, fel Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. Fodd bynnag, nododd Estyn fod pa mor gyflym y mae hyn wedi digwydd yn amrywio'n fawr o un awdurdod i'r llall.
Mae'r
ystadegau diweddaraf ar Ddisgyblion â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2013, yn dangos faint o amrywiaeth sydd yn yr arfer yng Nghymru. Er enghraifft, ers mis Ionawr 2013, roedd gan Ben-y-bont ar Ogwr a Thorfaen 15 ac 16 o bobl ifanc gyda datganiadau fesul 1,000 o ddisgyblion yn y drefn honno, o gymharu ag Abertawe a Chasnewydd gyda 43 a 41.
Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn rhestru 22 o gynigion penodol o dan y tri nod a ganlyn:
- Fframwaith deddfwriaethol unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr rhwng 0 a 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol;
- Proses asesu, cynllunio a monitro integredig a chydweithredol sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol; a
- System deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ac ar gyfer datrys pryderon ac apeliadau.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £358 miliwn y flwyddyn (2013-14) ar ddarpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig, gyda thua 70% o'r arian hwn wedi'i ddyrannu i'r sefydliadau addysg eu hunain, a'r gweddill wedi'i ddyrannu i awdurdodau lleol.
Cynhelir yr ymgynghoriad ar y cynigion yn y Papur Gwyn tan 25 Gorffennaf 2014 ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai 2015 fydd y cynharaf y disgwylir gallu cyhoeddi'r Bil i'r Cynulliad, a fyddai'n golygu y gallai diwygiadau ddod i rym yn y flwyddyn academaidd 2016/17.