Pandemig COVID-19: beth yw’r sefyllfa bresennol?

Cyhoeddwyd 12/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/05/2021   |   Amser darllen munud

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dysgu mwy am y feirws, sut mae'n lledaenu a pha driniaethau sy'n effeithiol. Rydym hefyd wedi datblygu brechlynnau. Ond, ble'r ydym ni ar y daith i orchfygu’r pandemig? A pha faterion allai fod ar y gorwel i'r Senedd newydd ac i Lywodraeth newydd Cymru?

Am fwy na blwyddyn, mae hynt a helynt pandemig COVID-19 wedi dominyddu’r penawdau ledled y byd. Dyma un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf yr oes sydd ohoni, ac mae effeithiau ehangach y pandemig ar ein cymdeithas a’n heconomi yn eithriadol.

Ar 11 Mawrth 2020, disgrifiodd Sefydliad Iechyd y Byd COVID-19 fel pandemig am y tro cyntaf. Lai na phythefnos yn ddiweddarach, clywodd pawb yn y DU y neges fod yn rhaid iddynt aros gartref er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau. Cafodd y cyfyngiadau eu llacio dros yr haf, ond gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion eto ym misoedd y gaeaf, a daeth y rheolau ynghylch aros gartref yn ôl i rym.

Cyflwynodd pedair Llywodraeth y DU ystod o fesurau i fynd i’r afael â’r feirws. Er bod y Llywodraethau yn dilyn yr un strategaeth yn fras, maent yn aml wedi rhoi gwahanol gamau ar waith ar wahanol adegau.

Sefyllfa’r pandemig ar hyn o bryd

Newidiodd COVID-19 ein bywydau mewn ffyrdd a fyddai wedi bod yn annirnadwy ar ddechrau 2020. Mae’r pandemig wedi tarfu ar ein rhyddid, ein cynlluniau bywyd, a'n cyfleoedd am gyfnodau hir, a bydd y sefyllfa hon yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol mewn rhai achosion.

Mae'r cyfyngiadau wedi'u seilio, i raddau helaeth, ar gyfreithiau, sy'n cael eu hadolygu bob tair wythnos, ochr yn ochr â chanllawiau manwl.

Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru gynllun rheoli’r coronafeirws, a oedd yn cynnwys pedair lefel rhybudd. Cafodd y cynllun ei ddiweddaru ym mis Mawrth yn sgil amrywiolyn mwy trosglwyddadwy o’r feirws, sef amrywiolyn Caint, ac effaith y broses o gyflwyno'r brechlyn.

Dros y misoedd diwethaf, mae Cymru wedi symud yn raddol o'r lefel rhybudd uchaf, sef lefel 4, i lefel rhybudd 3. Gwnaeth Mark Drakeford, y Prif Weinidog ar y pryd, ddatganiad mwy manwl ynghylch y llinell amser ar gyfer sut y bydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio hyd at ganol mis Mai.

Dechreuodd y broses o gyflwyno brechlynnau ar gyfer COVID-19 ym mis Rhagfyr. Ers hynny (ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon), mae mwy na 1.6 miliwn o bobl wedi cael dos cyntaf o un o’r brechlynnau (sef 51 y cant o boblogaeth Cymru), ac mae mwy na 550,000 wedi cael dau ddos (17 y cant o'r boblogaeth). Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn gobeithio cynnig brechlyn i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Yr heriau uniongyrchol

Mae’r Senedd newydd a Llywodraeth newydd Cymru yn wynebu nifer o heriau uniongyrchol yn sgil y pandemig.

Y rhaglen frechu

Am fwy na blwyddyn, mae pedair Llywodraeth y DU wedi bod mewn cylch o gyflwyno a llacio cyfyngiadau symud. Mae'r brechlynnau'n cael eu disgrifio fel dull o roi terfyn ar y cyfnodau clo hyn, ond a fydd hyn yn digwydd mewn gwirionedd?

Er bod y rhaglen frechu yn symud yn ei blaen yn gyflym, mae problemau yn dal i fodoli.

Hyd yn hyn, mae cyfran y bobl sydd wedi cael y brechlyn ymhlith rhai grwpiau ethnig ac mewn rhai ardaloedd difreintiedig wedi bod yn is na'r cyfartaledd, gan ddilyn y patrymau a welwyd mewn rhaglenni brechu blaenorol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch yr anghydraddoldebau sylweddol sy’n bodoli o ran y sawl sy’n cael brechlynnau ar gyfer COVID-19. Y testun pryder mwyaf yw’r ffaith mai'r grwpiau sydd â’r niferoedd lleiaf o bobl sy’n cael y brechlyn yw’r grwpiau sy’n wynebu’r risg fwyaf o farwolaeth yn sgil COVID-19.

Mae ton arall o’r feirws yn debygol yn sgil y ffaith nad yw nifer o bobl eto wedi’u diogelu rhag COVID-19, naill ai oherwydd nad ydynt wedi cael eu brechu neu oherwydd na fydd y brechlyn yn atal pob haint neu salwch. Mae hyn yn golygu y bydd y cymunedau hynny lle mae nifer y bobl sy'n cael eu brechu yn is yn wynebu perygl arbennig yn sgil cynnydd yn nhrosglwyddiad y feirws.

Mae brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn dangos arwyddion cynnar eu bod yn lleihau'r risg o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty. Mae cwmni AstraZeneca hefyd yn adrodd bod gan ei frechlyn y potensial i leihau trosglwyddiad asymptomatig y feirws 67 y cant.

Serch hynny, mae amrywiolion newydd COVID-19 yn dod i'r amlwg, ac un o'r risgiau mwyaf yw’r posibilrwydd y byddant yn fwy trosglwyddadwy neu’n gallu osgoi effeithiau’r brechlynnau. Mae grŵp arbenigol Llywodraeth y DU, sef y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE), wedi rhybuddio pobl am y bygythiad a berir i'r DU gan amrywiolion newydd, hyd yn oed os yw cyfran uchel o'r boblogaeth yn cael ei brechu.

Y gobaith yw y gellir addasu’r brechlynnau er mwyn mynd i'r afael ag amrywiolion. Mae’n bosibl y bydd brechlyn atgyfnerthu yn cael ei ddarparu yn ddiweddarach yn y flwyddyn os oes angen gwneud hynny. Fodd bynnag, bydd y problemau sy’n ymwneud â chyfran y bobl sy’n cael y brechlyn ymhlith rhai cymunedau yn fwy anodd i’w datrys.

Yn ogystal, pa rôl y gallai 'pasbortau brechlyn' ei chwarae yn ystod y misoedd nesaf wrth i'r economi a'r gymdeithas ailagor? Mae yna faterion moesegol, materion cyfreithiol a materion o ran preifatrwydd, yn ogystal â phryderon hawliau dynol, y bydd angen eu hystyried ochr yn ochr ag unrhyw bolisi o'r fath.

Cadw'r feirws dan reolaeth

Ar ddechrau 2021, cafodd nifer o senarios eu modelu, ac roedd yr holl ganlyniadau yn dynodi trydedd don o'r pandemig. Ond yn fwy diweddar, mae rhai o gynghorwyr gwyddonol Llywodraeth y DU wedi awgrymu efallai na fyddai trydedd don mor fawr ag a ragwelwyd i ddechrau.

Mae Coleg Imperial Llundain wedi nodi, yn sgil materion yn ymwneud â chymhwystra a phetruster mewn perthynas â’r brechlyn, na fydd rhaglen frechu ar ei phen ei hun yn ddigonol i gadw’r epidemig dan reolaeth. Dywedodd y dylai’r cyfyngiadau gael eu codi’n raddol, gyda rhai ohonynt yn aros yn eu lle drwy gydol 2021.

Mae grŵp SAGE o’r farn ei bod yn haws cadw’r epidemig dan reolaeth pan fo nifer yr achosion yn isel, gan fod hyn yn caniatáu mwy o amser i ymateb i unrhyw gynnydd cyn bod systemau gofal iechyd yn cael eu gorlethu, ac yn caniatáu i systemau profi, olrhain ac ynysu weithredu'n fwy effeithiol.

Mae’r system a ddefnyddir yng Nghymru, sef system Profi, Olrhain, Diogelu, yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn y broses o gadw’r feirws dan reolaeth. Mae’r system yn nodi pwy sydd â haint COVID-19, yn nodi gwybodaeth ynghylch eu cysylltiadau diweddar, ac yn gorfodi’r bobl dan sylw i hunan-ynysu er mwyn atal trosglwyddiad y feirws. Mae’r gyfundrefn brofi a gwaith genomeg dilynol hefyd yn helpu i nodi amrywiolion newydd a'u nodweddion.

Cyhoeddodd Lloegr a’r Alban linellau amser ar gyfer llacio eu cyfyngiadau yn gynnar yn 2021. Mater allweddol i Lywodraeth newydd Cymru fydd pwyso a mesur y cyngor gwyddonol ar gyfer ailagor yn araf ac yn ofalus yn erbyn pwysau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol amrywiol.

Materion tymor hir a’r adferiad

Cyn bo hir, bydd sylw pawb yn troi at y mater o sut i ymdrin â’r pandemig yn y tymor hwy a sut i reoli ei effaith.

Mae rhai yn dadlau o blaid dull 'sero COVID', sef dull o ddileu’r feirws, yn debyg i’r dull a fabwysiadwyd yn Seland Newydd, er mwyn torri’r cylch o gyfnodau clo sydd wedi bod ar waith. Fodd bynnag nid yw pawb yn credu ei bod yn bosibl cyflawni hyn, o gofio y bydd yn rhaid i wledydd agor eu ffiniau ar ryw adeg. Mae eraill yn arddel y nod o imiwnedd torfol yn sgil y niwed sy’n deillio o gyfnodau clo. Fodd bynnag, mae’r trothwy ar gyfer cyflawni hyn yn anhysbys ar hyn o bryd ac yn debygol o fod yn uchel iawn.

Mae’r pandemig wedi sbarduno arloesi ym maes technoleg ddigidol, ac wedi arwain at ail-gyflunio sut yr ydym yn gweithio ac yn dysgu. Fodd bynnag, mae’r GIG yn wynebu’r ôl-groniad gwaethaf o achosion ar gofnod, ac mae pryderon ynghylch yr effaith y mae gohirio triniaethau yn ei chael ar lesiant cleifion.

Mae llawer o blant wedi profi blwyddyn o darfu ar eu haddysg, ac mae’r bwlch cyrhaeddiad addysgol wedi tyfu. Mae’r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar rhai pobl, ac mae anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes wedi gwaethygu. Yn y cyfamser, mae ymatebion pedair Llywodraeth y DU o ran eu hymdrechion i reoli’r feirws wedi taflu goleuni ar ddatganoli ledled y DU, gyda rheolau gwahanol ar waith yn y pedair cenedl.

Er ein bod ar drothwy Senedd newydd, mae'r feirws yn parhau i fyw yn ein plith. Rydym yn wynebu’r un heriau â’r rhai sydd wedi effeithio arnom dros y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd â chyfres o heriau newydd. Serch hynny, mae cyfle i edrych tuag at y gorwel ac i lunio dyfodol Cymru ar ôl y pandemig.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, rSenedd Cymru