Llun o Gastell Caerffili wedi’i oleuo gyda'r nos.

Llun o Gastell Caerffili wedi’i oleuo gyda'r nos.

Pa newidiadau fu i'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) yng Nghyfnod 2?

Cyhoeddwyd 30/06/2025

Ar 15 Mai 2025, bu'r Pwyllgor Cyllid yn trafod gwelliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 2 o Fil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Cyflwynwyd 159 o welliannau a derbyniwyd 98 ohonynt. Cyflwynwyd 88 o'r gwelliannau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, a chynigiwyd 10 ohonynt gan Sam Rowlands AS, y Ceidwadwyr Cymreig.

Bydd y Bil yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru i godi ardoll ar ymwelwyr dros nos sy'n aros mewn llety ymwelwyr yn eu hardal. Bydd yr ardoll yn cael ei godi fesul person fesul noson, a mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a ddylent ei chyflwyno ar ôl ymgynghori â’u cymunedau a’u busnesau lleol.

Mae’r Bil hefyd yn sefydlu cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr sy’n gweithredu yng Nghymru. Mae’n ofynnol i ddarparwyr gofrestru, ni waeth a yw’r ardal awdurdod lleol y maent yn gweithredu ynddi wedi gweithredu’r ardoll ai peidio.

Rydym wedi cyhoeddi crynodeb o'r newidiadau yng Nghyfnod 2, sy'n rhoi mwy o fanylion am y gwelliannau a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2. Roedd y cyfnod hwn yn cynnwys trafodaeth gan y Pwyllgor Cyllid am y gwelliannau i'r Bil.

Beth yw'r prif newidiadau?

Llun o harbwr Dinbych-y-pysgod gydag adeiladau lliwgar.

Codi’r gyfradd uwch

Er mai cyfradd is yr ardoll fyddai 75c i bobl sy'n gwersylla neu'n aros mewn hostel neu ystafell aml-wely, codwyd y gyfradd uwch 5c i £1.30 y pen y noson ar gyfer pob llety arall i ymwelwyr yng Nghyfnod 2.

Hepgor premiwm

Roedd y Bil fel y'i cyflwynwyd yn gwneud darpariaethau i awdurdod lleol ychwanegu premiwm at gyfraddau is ac uwch yr ardoll ar yr un diwrnod â chyflwyno'r ardoll. Mae'r pŵer hwn wedi’i hepgor o'r Bil yng Nghyfnod 2.

Yn lle hynny, cafodd adran 33 ei gyflwyno fel rhan o’r Bil yng Nghyfnod 2, a fyddai'n galluogi Gweinidogion Cymru i ganiatáu i awdurdodau lleol roi swm ychwanegol ar ben yr ardoll, ond dim cynharach na 12 mis ar ôl cyflwyno'r ardoll.

Yn ystod trafodion Cyfnod 2, nododd yr Ysgrifennydd Cabinet:

The 12 months that we are introducing here will give us time to continue to explore those issues [of flexibility in terms of when or where an additional amount could be implemented] and see whether in regulations we will want to fine-tune the approach that we have developed up until now.

Esemptiadau

Roedd y ffaith nad oedd plant a phobl ifanc wedi’u hesemptio o'r ardoll yn bryder i randdeiliaid fel Cymdeithas Gwyliau a Pharciau Cartref Prydain a'r Gymdeithas Hosteliau Ieuenctid, a nododd fod rhai gwledydd Ewropeaidd sy'n gweinyddu treth i dwristiaid yn esemptio plant a phobl ifanc rhag gorfod talu'r dreth.

Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid argymell bod Llywodraeth Cymru, cyn y ddadl Cyfnod 1, yn rhoi crynodeb i’r Senedd o unrhyw ddadansoddiad a wnaed ynghylch yr esemptiad posibl o’r ardoll i bobl ifanc o dan 16 oed a theithiau addysgol.

Yn ystod y ddadl Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil, ymatebodd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, i'r argymhelliad, gan ddweud:

Fodd bynnag, gallaf roi gwybod i'r Aelodau y prynhawn yma, ar ôl darllen adroddiad y pwyllgor ac ar ôl ystyried eto y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo, fy mod wedi penderfynu mynd ymhellach na'r argymhelliad ei hun. Yng Nghyfnod 2, byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i eithrio pobl dan 18 oed sy'n aros mewn llety â sgôr is o'r ardoll yn gyfan gwbl.

O ganlyniad, cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliant i esemptio personau dan 18 oed rhag cyfradd is yr ardoll. Yn ystod trafodion Cyfnod 2, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

This provides a targeted amendment, and our evidence tells us that it removes a large portion of educational types of stays and stays arranged by youth organisations.

Aeth ymlaen i ychwanegu:

It will also benefit families accessing these more affordable accommodation types, and, in that way, this is a more progressive approach compared to a complete exemption from the levy for children and young people.

Fforwm partneriaeth yr ardoll

Roedd un o ganfyddiadau allweddol y Pwyllgor yn ymwneud ag a fyddai’r refeniw a gesglir gan yr ardoll yn creu ychwanegedd (arian ychwanegol) ar gyfer y sector twristiaeth yn lle disodli cyllid awdurdodau lleol sydd eisoes wedi’i ddyrannu i’r sector.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon hyn a sicrhau y gallai rhanddeiliaid ddylanwadu ar sut caiff refeniw yr ardoll ei ddyrannu, fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid argymhell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau sy'n dymuno cyflwyno'r ardoll sefydlu fforwm ymwelwyr.

Yn ystod y ddadl Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

Rwy'n gobeithio gweithio gyda'r pwyllgor fel y gellir cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i sicrhau bod trefniadau partneriaeth effeithiol rhwng prif gynghorau, busnesau a chymunedau lleol wrth benderfynu sut orau i ddyrannu refeniw ardoll ymwelwyr.

Cyflwynodd Sam Rowlands AS welliannau i'w wneud yn orfodol i awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i sefydlu fforwm partneriaeth yr ardoll o fewn tri mis i'r ardoll ddod i rym. Un o swyddogaethau pwysig y fforwm fyddai cynghori ar sut caiff refeniw o'r ardoll ei wario i gefnogi'r gymuned leol.

Hefyd, byddai’n ofynnol i’r awdurdod lleol gymryd camau i sicrhau bod y fforwm yn cynnwys rhanddeiliaid o'r sector twristiaeth a llety ymwelwyr yn yr ardal.

Gwelliannau eraill

Byddai'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr godi'r ardoll pan fydd person yn cyrraedd. Cafodd hyn ei newid yng Nghyfnod 2 i pan fydd person yn gadael.

Mae’r cyfnod ar gyfer hawlio ad-daliad wedi ei ymestyn i dri mis ar ôl diwedd yr arhosiad.

Mae rhagor o fanylion am y gwelliannau eraill a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2 i'w gweld yn ein crynodeb o'r newidiadau yng Nghyfnod 2.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae'r Bil yng Nghyfnod 3 ar hyn o bryd, sy'n golygu y bydd y Senedd gyfan yn ei drafod ac y bydd pob Aelod o'r Senedd yn gallu cyflwyno gwelliant arno yn y Cyfarfod Llawn. Gallwch wylio’r ddadl hon ar Senedd.tv ddydd Mawrth 1 Gorffennaf.

Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.