Pa mor gydnerth yw Cymru? Canfyddiadau adroddiad Llesiant Cymru.

Cyhoeddwyd 25/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Beth yw Adroddiad Llesiant Cymru 2016-2017?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hadroddiad blynyddol cyntaf ar Lesiant Cymru, 2016-2017 yn ddiweddar (25 Medi 2017), fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn manylu ar y sefyllfa bresennol a’r cynnydd diweddar o ran cyflawni 7 nod llesiant y Ddeddf. Mae Ffyniant i Bawb – y Strategaeth Genedlaethol yn adeiladu ar y Ddeddf gan nodi amcanion Llywodraeth Cymru a’r camau sydd angen eu cymryd i’w cyflawni. Mae Datganiad Llesiant 2017 yn esbonio hyn ac yn nodi 12 o amcanion llesiant wedi’u diwygio ar gyfer tymor y Llywodraeth hon. Mae canfyddiadau allweddol adroddiad Llesiant Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y canfyddiadau yn yr adroddiad sy’n ymwneud â nod llesiant 2, sef ‘Cymru gydnerth’, sy’n seiliedig ar adnoddau naturiol, bywyd gwyllt ac iechyd ecosystem.

Er mwyn canfod beth yw’r sefyllfa gyfredol a’r cynnydd diweddar a wnaed tuag at gyflawni nod 2, mae’r adroddiad yn casglu tystiolaeth ar ystod o ddangosyddion, fel y rheini am ansawdd aer, dŵr a phridd, yn ogystal ag ar fioamrywiaeth ac ar faint a chyflwr cynefinoedd. Canfyddiad allweddol ar gyfer y nod hwn oedd sut:

Yn gyffredinol, mae amrywiaeth fiolegol yn dirywio, ac nid oes modd dweud bod gan unrhyw ecosystem yng Nghymru bob un o'r nodweddion sy’n angenrheidiol i fod yn gadarn.

Mae Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2017 Llywodraeth Cymru (5 Mai 2017), yn dod i’r un casgliad, fel y’i crynhoir mewn erthygl flaenorol ar flog Pigion. Daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i gasgliadau tebyg yn ei Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) (2016), sef adroddiad statudol yn nodi cyflwr adnoddau naturiol yng Nghymru. Ar ben hynny, amlygwyd canfyddiadau tebyg yn yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur [Saesneg yn unig], sef asesiad o ecosystemau Cymreig a gynhaliwyd gan glymblaid o sefydliadau anllywodraethol ym mis Tachwedd 2016.

Beth yw ecosystem gydnerth?

Caiff Cymru gydnerth, sef nod llesiant 2 yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ei ddiffinio fel a ganlyn:

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

Mae SoNaRR yn diffinio ecosystem gydnerth fel un sy’n gallu gwrthsefyll unrhyw ‘darfu’, adfer yn ei sgil, neu addasu iddo, gan barhau i allu darparu gwasanaethau a manteision heddiw ac yn y dyfodol. Gall ‘tarfu’ fod yn rhywbeth ysgytiol sy’n digwydd unwaith, neu bwysedd parhaus a hirdymor. Gellir disgrifio cydnerthedd ar lefel genedlaethol drwy amrywiaeth, cysylltedd, maint a chyflwr yr ecosystemau. Gellir meintioli hyn trwy ddadansoddi dangosyddion ar gyfer y pedwar dosbarth cyffredinol o adnoddau naturiol, sef aer; pridd; dŵr; ac anifeiliaid, planhigion ac organebau eraill.

Pa mor gydnerth yw Cymru?

Mae’r adroddiad Llesiant Cymru yn manylu ar ddata ar ystod o ddangosyddion amgylcheddol. Mae’r darlun yn un cymysg, gyda rhai agweddau ar yr ecosystemau yn gwella ac eraill yn aros yn eu hunfan.

Er enghraifft, mae ansawdd dŵr afonydd wedi gwella yn gyffredinol yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Mae’r adroddiad yn priodoli hyn i welliannau o ran gollyngiadau carthffosiaeth. Serch hynny, dim ond 37 y cant o’r holl lynnoedd a phyllau dŵr croyw (dŵr daear a dŵr wyneb), fel y’i diffinnir gan Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE, a gafodd eu pennu’n ‘dda’ neu’n well o ran statws cyffredinol yn 2015.

Mae’r adroddiad yn adrodd stori debyg ar gyflwr priddoedd. Mae ansawdd pridd mawndiroedd a choetiroedd yn gwella ychydig, ond ar y cyfan nid yw ansawdd pridd wedi newid fawr ddim; er enghraifft, ‘ychydig iawn o ddirywiad neu ddim o gwbl a fu mewn lefelau uwch o lygredd tir yn tarddu o ddiwydiant neu drafnidiaeth’.

Mae SoNaRR yn cysylltu’r diffyg cynefinoedd a’u cyflwr dirywiedig, gan gynnwys ansawdd dŵr croyw a phriddoedd, i’r gostyngiad ym mioamrywiaeth rhywogaethau. Mae adroddiad Llesiant Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod 43 y cant o ymatebwyr Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17 wedi nodi eu bod naill ai yn ‘weddol bryderus’ neu yn ‘bryderus iawn’ am newidiadau yn y gorffennol ac yn y dyfodol o ran amrywiaeth rhywogaethau yng Nghymru.

Yn ôl adroddiad Llesiant Cymru, nid oes ecosystem yng Nghymru sy’n gwbl gydnerth. Mae SoNaRR yn amlygu’r ffaith y gallai hyn gyfyngu ar allu ecosystemau i ddarparu’r gwasanaethau a’r manteision y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt. Mae peillio, rheoli llifogydd drwy brosesau naturiol ac atafaeliad carbon yn esiamplau o’r gwasanaethau y mae ecosystemau yn eu darparu. Gellid felly ofyn y cwestiwn a allai diffyg cydnerthedd ecosystemau Cymru fod yn rhwystr i’r cynnydd tuag at gydnerthedd economaidd a chydnerthedd cymdeithasol, sef amcanion eraill nod 2, Cymru gydnerth.

Nodir tueddiadau cadarnhaol yn yr adroddiad hefyd, fel cynnydd o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy; cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu yn y cartref; a gostyngiadau o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr. Dengys hyn fod Cymru yn cymryd camau cadarnhaol tuag at ddod yn fwy cydnerth. Mae rhywfaint o'r cynnydd hwn ar flaen y gad yn y DU: er enghraifft, mae gan tua 90 y cant o gartrefi Cymru fynediad i wasanaeth casglu gwastraff bwyd ar wahân, o’i gymharu â dim ond ychydig dros 25 y cant yn y DU gyfan. Ar ben hynny, gellir ystyried bod agweddau ar y cynnydd hwn yn cyfrannu tuag at y 15 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig [Saesneg yn unig] fel, er enghraifft, ynni fforddiadwy a glân.

Beth nesaf ar gyfer bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yng Nghymru?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Pholisi ar Adnoddau Naturiol (PAN) yn ddiweddar (21 Awst 2017), fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn seiliedig ar y dystiolaeth a nodwyd yn SoNaRR, nododd y PAN dair blaenoriaeth genedlaethol o ran rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn ogystal, mae’r polisi yn nodi tair her allweddol, gyda dwy ohonyn nhw yn ymwneud yn uniongyrchol â chanfyddiadau’r adroddiad Llesiant Cymru: gwella cydnerthedd yr ecosystem; a’r newid yn yr hinsawdd a’r gostyngiad mewn amrywiaeth biolegol.

Gan ddefnyddio’r PAN i lywio ei ddulliau gweithredu, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynhyrchu Datganiadau Ardal i dargedu’r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol tuag at flaenoriaethau ardaloedd lleol, i helpu i fynd i’r afael â’r heriau allweddol a nodwyd yn y PAN. Disgwylir i’r Datganiadau Ardal gael eu cyhoeddi rhwng 2017 a 2019.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Moya Macdonald gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.


Erthygl gan Moya Macdonald, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Flickr gan grassrootsgroundswell. Dan drwydded Creative Commons.