Bydd y Senedd yn trafod y Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol ar 11 Rhagfyr, sy’n cynnig platfform i Drysorlys EM a Gweinidogion Cyllid y llywodraethau datganoledig drafod materion ariannol ledled y DU.
Beth yw cysylltiadau rhynglywodraethol?
Mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU yn cyfeirio at ymgysylltu rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ym mis Ionawr 2022 ac yn dilyn ei hadolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, cyhoeddodd Llywodraeth y DU bapur a oedd yn amlinellu trefniadau newydd i hwyluso cysylltiadau rhwng llywodraethau. Ar y lefel uchaf, mae Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig ('y Cyngor'). O dan hwn y mae Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, a Phwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid gyda Grwpiau Rhyngweinidogol o dan y rhain.
Mae’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, sy’n ymgysylltu ar faterion cyllidol ledled y DU, yn cynnwys cynrychiolydd o Drysorlys y DU a’r Gweinidogion Cyllid o’r llywodraethau datganoledig.
Pam dewisodd y Pwyllgor ymchwilio i gysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol?
Mae’r adroddiad yn nodi bod y Pwyllgor, yn ystod ei waith craffu ar y gyllideb, wedi canfod dro ar ôl tro bod gallu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau gwariant yn aml yn cael ei lesteirio gan strwythurau, agweddau a phrosesau nad ydynt yn adlewyrchu realiti tiriogaethau'r DU.
Tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at feysydd lle mae cysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol wedi bod yn her. Cyfeiriwyd at heriau o’r fath yn adroddiad “y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru”, a oedd yn cynnwys:
- Cyhoeddiadau cyllid hwyr gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar gynllunio cyllidebol Llywodraeth Cymru;
- Datganoli pwerau i weithredu treth ar dir gwag yng Nghymru, a ddechreuodd bedair blynedd yn ôl heb unrhyw benderfyniad ffurfiol wedi’i wneud hyd yma; a
- Diweddaru fframwaith cyllidol yr Alban drwy fynegeio benthyca cyfalaf i’r gyfradd chwyddiant a dileu’r terfynau tynnu i lawr ar gyfer cronfeydd wrth gefn, nad ydynt wedi’u cymhwyso i fframwaith cyllidol Cymru.
Beth yw’r sefyllfa o ran cysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol?
Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi newidiadau cadarnhaol i fecanweithiau cysylltiadau rhynglywodraethol a roddwyd ar waith yn dilyn adolygiad ohonynt, ond mae hefyd yn amlygu'r anghydbwysedd o ran pŵer rhwng y Trysorlys a llywodraethau datganoledig.
Mae’r adroddiad yn nodi mai dim ond rhan o'r ateb yw rhoi strwythurau priodol ar waith. Er mwyn ategu cysylltiadau rhynglywodraethol, “mae angen diwylliant cadarn rhwng llywodraethau yn y DU, yn seiliedig ar barch cilyddol a chydradd”. Fodd bynnag, canfu’r Pwyllgor nad yw hyn wedi bod yn wir bob amser, gan nodi:
Yn rhy aml, mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at achosion pan fo diffyg hynny, a bod hyn wedi arwain at brosesau nad ydynt yn gweithio i’w llawn botensial, ac felly at ganlyniadau siomedig.
Mae’r Pwyllgor hefyd wedi wynebu ei broblemau ei hun gyda’r Trysorlys yn y gorffennol, gan nodi:
Rydym hefyd wedi bod yn rhwystredig yn gyson ag amharodrwydd y Trysorlys i ymddangos gerbron y Pwyllgor, er gwaethaf sawl ymdrech, ac rydym yn gobeithio meithrin perthnasoedd mwy adeiladol â Gweinidogion newydd y Trysorlys o hyn ymlaen.
Gwnaeth y Pwyllgor amrywiaeth o argymhellion i’w rhoi ar waith, gan gynnwys:
- Trysorlys y DU yn gwahaniaethu rhwng llywodraethau datganoledig ac adrannau Llywodraeth y DU o ran sut y cânt eu trin;
- rhoi cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail statudol;
- Trysorlys y DU yn ymddiried mewn llywodraethau datganoledig drwy rannu gwybodaeth gyfrinachol cyn cyhoeddiadau cyllidol;
- Trysorlys y DU yn rhoi hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol i Lywodraeth Cymru i reoli ei gyllid yn well; ac
- adolygiad o fframwaith cyllidol Cymru.
Safbwynt cyffredinol y Pwyllgor yw “y dylai trefniadau cyllidol o ran cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU fod yn sail i egwyddorion clir, ac nid mympwyon na phersonoliaethau Gweinidogion y Trysorlys”.
Sut y gallai adroddiad y Pwyllgor helpu gyda chysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol?
Arweiniodd yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024 at lywodraeth newydd yn y DU, sydd wedi cynnig cyfle i wella cysylltiadau rhynglywodraethol. Yn ei adroddiad drafft nododd y Pwyllgor ei fod yn bwriadu:
taflu goleuni ar feysydd y gellir eu gwella a nodi rhai camau ymarferol o ran sut y gellir cyflawni hyn, gyda’r nod o gryfhau rhan Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau cyllidol.
Amser a ddengys sut y bydd Llywodraeth newydd y DU yn ymdrin â chysylltiadau rhynglywodraethol, er bod Prif Weinidog y DU wedi cadarnhau y bydd yn sefydlu Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau.
Gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn pob argymhelliad (gan gynnwys un mewn egwyddor) o fewn ei dylanwad, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio adroddiad Pwyllgor y Senedd i roi pwysau wrth ymdrin â Llywodraeth y DU ar faterion ariannol megis mwy o hyblygrwydd cyllidebol a rhannu gwybodaeth gyfrinachol cyn cyllidebau’r DU.
Os hoffech wybod mwy am y gysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol a chanfyddiadau'r Pwyllgor, gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar senedd.tv ar 11 Rhagfyr.
Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru