Pa mor bell y mae Cymru wedi cyrraedd ar ei thaith gwella ysgolion?

Cyhoeddwyd 02/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Dyma, yn y bôn, y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) helpu i'w ateb, ddegawd ar ôl i'r system addysg ddangos 'tystiolaeth o fethiant systemig' fel y cydnabu Llywodraeth Cymru ei hun.

Cyn bo hir bydd yr OECD yn cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf ar gynnydd Cymru ac yna bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (6 Hydref). Y bwriad oedd cyhoeddi adroddiad yr OECD ym mis Mawrth ond gohiriwyd hyn gan y pandemig COVID-19.

Beth fu rôl yr OECD hyd yma?

Mae dylanwad yr OECD ar bolisïau addysg Llywodraeth Cymru i’w deimlo ers i ganlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009 gyflwyno'r hyn a alwodd y Gweinidog Addysg ar y pryd yn 'dystiolaeth o fethiant systemig' ac yn 'alwad i ddeffro system hunanfodlon'.

Ychydig iawn o welliant a welwyd mewn canlyniadau olynol PISA yn 2012 a 2015. Gwahoddwydd yr OECD i roi cyngor ar ddatrysiadau, gan gynnal adolygiad yn 2014 ac 'Asesiad Polisi Cyflym' yn 2017 i lywio strategaethau addysg Llywodraeth Cymru. Mae ein herthyglau blaenorol o fis Tachwedd 2019 a mis Mehefin 2016 yn rhoi’r cefndir i hyn i gyd.

Roedd canlyniadau Cymru yn PISA 2018, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019, yn rhoi rhai arwyddion calonogol o gynnydd, gyda'r Gweinidog yn eu disgrifio fel rhai 'cadarnhaol, ond nid perffaith'. Nid yw sgoriau PISA Cymru bellach yn ystadegol wahanol i gyfartaledd yr OECD ym mhob un o dri phrif faes (darllen, mathemateg a gwyddoniaeth), er eu bod yr isaf o hyd ymhlith gwledydd y DU.

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) ym mis Chwefror 2020 ei bod wedi gwahodd yr OECD ar ddiwedd y llynedd i adolygu cynnydd yn erbyn cynllun gweithredu gwella ysgolion Llywodraeth Cymru, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl,

Beth yw dull Llywodraeth Cymru o wella ysgolion?

 Mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl yn nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella ysgolion rhwng 2017 a 2021. Mae diwygio'r cwricwlwm yn rhan annatod o'r cynllun gweithredu ac mae 'amcanion galluogi' yn cynnwys datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel a mwy o hunan-welliant gan ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £100 miliwn yn ychwanegol ar godi safonau ysgolion yn nhymor y Senedd hon (2016-2021), o gymharu â'r Senedd flaenorol. Mae'r arian ychwanegol hwn yn cael ei dargedu at flaenoriaethau gwella strategol yn hytrach na darparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyllidebau craidd ysgolion sef y dull a fabwysiadwyd yn flaenorol rhwng 2011 a 2016. Mae ein erthygl flaenorol o fis Hydref 2019 yn esbonio'r trefniadau cymhleth ar gyfer ariannu ysgolion yng Nghymru.

Fel y trafodwyd yn Sesiynau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae’r aflonyddwch ar addysg yn sgil COVID-19 a'r effaith anghymesur y gallai hyn ei chael ar blant difreintiedig yn dod â chymhlethdod ychwanegol i ddull Llywodraeth Cymru o wella ysgolion.

'Mae gormod o ysgolion uwchradd yn dal i beri pryder'

Mae gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru bwerau i ymyrryd mewn 'ysgolion sy'n peri pryder' o dan chwe 'sail' a nodir yn Neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 neu os yw'r arolygiaeth, Estyn, wedi barnu bod angen Gwelliant Sylweddol neu Fesurau Arbennig ar ysgol (y ddau gategori ymyrraeth statudol y gellir rhoi ysgolion ynddynt yn dilyn arolygiadau Estyn). Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol yn 2017 ar 'ysgolion sy'n peri pryder' a sut y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau ymyrryd.

Mae gormod o ysgolion uwchradd yn dal i beri pryder, yn ôl Adroddiad blynyddol 2018/19. Er bod safonau'n dda neu’n well mewn 81 y cant o'r ysgolion cynradd a arolygwyd yn 2018/19, dim ond 45 y cant o ysgolion uwchradd a gyrhaeddodd y safon yma. Ar hyn o bryd, mae angen Gwelliant Sylweddol ar 9 ysgol uwchradd a 2 ysgol i bob oed tra bod angen Mesurau Arbennig ar 12 ysgol uwchradd. O ystyried bod ychydig o dan 200 o ysgolion uwchradd yng Nghymru, mae hyn yn golygu bod dros 10 y cant o ysgolion uwchradd yn un o'r categorïau ymyrraeth statudol ar hyn o bryd. Mae 12 y cant arall o dan adolygiad ffurfiol, y categori llai dwys o adolygu, gan Estyn.

Mae hyn yn awgrymu mai dim ond siawns 50/50 o fynd i ysgol sy'n dda neu'n well sydd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, ac mae bron i chwarter yn mynychu un sydd angen adolygiad Estyn neu ymyriad statudol ac mae dros un o bob deg disgybl yn mynd i ysgolion y bernir eu bod yn methu.

Faint o ysgolion cynradd, uwchradd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion sydd yn y categorïau statudol?

Mae'r ffeithlun isod yn dangos nifer yr ysgolion a'r unedau cyfeirio disgyblion, ar draws pob rhanbarth addysg, sydd ar hyn o bryd yn y naill gategori ymyrraeth statudol neu’r llall. Mae'r niferoedd mewn cromfachau yn cynrychioli cyfanswm nifer yr ysgolion ym mhob rhanbarth.

Ffynhonnell: Gwybodaeth a ddarparwyd gan Estyn, Medi 2020

Nôl ym mis Rhagfyr 2018, rhybuddiodd y Prif Arolygydd nad yw ysgolion sy'n peri pryder yn cael eu canfod yn ddigon buan a bod angen gwneud rhywbeth ar frys' am yr ysgolion hyn, yn enwedig ysgolion uwchradd. Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Chwefror 2020 (PDF) bod Llywodraeth Cymru yn treialu dull aml-asiantaeth i ysgolion sy'n peri pryder, gyda'r nod o gael 'partneriaethau cryf ar draws yr haen ganol', gan gynnwys awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac Estyn. Mae'r cynllun peilot yn cynnwys wyth ysgol uwchradd: dwy ym mhob un o'r pedwar rhanbarth.

'Nid yw'r "bwlch tlodi" wedi lleihau' ac 'mae fel arfer yn lledu wrth i ddysgwyr fynd yn hŷn'

Dyma ganfyddiad llwm arall o adroddiad blynyddol 2018/19 y Prif Arolygydd, yn seiliedig ar arsylwadau Estyn o'r hyn sydd wedi digwydd i'r bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM) a'u cyfoedion dros y degawd diwethaf.

  • Gostyngodd y bwlch rhwng cyfran y disgyblion eFSM a disgyblion eraill a gyflawnodd drothwy cynwysedig Lefel 2 (5 neu fwy o raddau TGAU A*-C, gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg, neu'r cymhwyster cyfwerth galwedigaethol) dim ond ychydig yn is o 31.9 pwynt canran yn 2009 i 31.3 pwynt canran yn 2016. Y rheswm am hyn yw bod cyrhaeddiad disgyblion eFSM a disgyblion nad ydynt yn rhai eFSM wedi codi ar gyfradd weddol debyg. (StatsCymru)
  • Ers 2017, pan oedd newidiadau i'r ffordd y cyfrifir mesurau perfformiad, mae'r bwlch yng nghyrhaeddiad trothwy cynwysedig Lefel 2 wedi aros fwy neu lai yr un fath: o 32.3 pwynt canran yn 2017 i 32.2 pwynt canran yn 2019. (StatsCymru)
  • Y bwlch yng nghyfran y disgyblion eFSM a disgyblion eraill a gyflawnodd y canlyniad disgwyliedig mewn Cymraeg/Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 (11 oed) yn 2019 oedd 15.5 pwynt canran. Y bwlch ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (14 oed) oedd 19.9 pwynt canran, tra bod y bwlch trothwy cynwysedig Lefel 2 ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4 (16 oed) yn 32.2 pwynt canran. Felly, mae'r bwlch cyrhaeddiad prydau ysgol am ddim yn ehangach ymhlith carfanau hŷn. (StatsCymru)

Mae diffyg cynnydd o ran lleihau'r bwlch rhwng disgyblion eFSM a disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim er bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £475 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion ers 2012. Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn ategu cyllidebau ysgolion ar sail eu cyfrif eFSM. Dywed Estyn mai dwy ran o dair o ysgolion sy'n defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion yn effeithiol i liniaru effaith tlodi.

Prif Arolygydd hefyd wedi dweud efallai fod ysgolion, mewn cyd-destun cynni, wedi bod yn rhedeg i gadw yn eu hunfan. Yn ogystal, mae canlyniadau PISA 2018 yn nodi bod y bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru rhwng disgyblion sydd o dan anfantais oherwydd tlodi, a'u cyfoedion, yn llai yng Nghymru na chyfartaledd yr OECD a’r bwlch yn Lloegr.

Beth sy'n digwydd i fesurau atebolrwydd a pherfformiad ysgolion?

Un nodwedd gynyddol o ddull Llywodraeth Cymru o wella ysgolion yw hunanarfarnu. Caiff hyn ei ysgogi gan arsylwadau OECD bod hunanarfarnu effeithiol gan ysgolion yn nodwedd amlwg o systemau addysg sy'n perfformio'n dda ledled y byd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud newidiadau i'r wybodaeth a gaiff ei chyhoeddi a'i hadrodd ynghylch perfformiad ysgolion. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog yn pwysleisio (PDF 588KB) nad yw'n ceisio 'cuddio data' a'r nod yw cael atebolrwydd doethach nid llai. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n newid, gweler ein Blog ym mis Hydref 2019.

Cafodd y materion hyn eu codi gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gyda'r Gweinidog a chyda Estyn yn gynharach eleni.

Pryd y bydd adroddiad yr OECD ar gael a phryd y bydd Aelodau'r Senedd yn trafod ei ganfyddiadau?

Bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud datganiad ac yn ateb cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth (6 Hydref) ynghylch adolygiad yr OECD. Caiff hwn ei ddarlledu ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan y Cofnod o Drafodion y Senedd.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru