Un o flaenoriaethau allweddol y Prif Weinidog am weddill y Chweched Senedd yw swyddi a thwf gwyrdd.
Cyn dadl y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr economi werdd, mae'r erthygl hon yn trafod pa gynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn y flaenoriaeth hon. Rydym wedi canolbwyntio ar sgiliau gwyrdd mewn erthygl ar wahân sydd hefyd wedi'i chyhoeddi heddiw.
Beth yw’r cyfleoedd economaidd posibl o ddatgarboneiddio, a sut cânt eu datblygu?
Yn 2023, roedd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cynrychioli 53% o ddefnydd trydan Cymru. Oherwydd y galw cynyddol am drydan, bydd angen i gynhyrchu adnewyddadwy gynyddu bedair gwaith erbyn 2035 er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru bod 100% o ddefnydd trydan yn dod o ynni adnewyddadwy.
Mae RenewableUK Cymru, Ynni Morol Cymru a Solar Energy UK yn honni y bydd y sector ynni adnewyddadwy yn darparu swyddi a thwf gwyrdd ar raddfa nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen. Mae eu hadroddiad diweddar yn tynnu sylw at y ffaith bod swyddi yn y sectorau ynni adnewyddadwy yn talu 26% yn uwch na chyflog cyfartalog Cymru, ac yn dweud y gall y sector gyflawni cynnydd twf Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) blynyddol sydd, yn nôl nhw, yn cyfateb i 68% o’r twf real blynyddol a welwyd yn economi Cymru dros y degawd diwethaf.
Mae Ystad y Goron yng nghamau olaf ei rownd prydlesu ynni gwynt ar y môr ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr, a disgwylir iddo ddyfarnu hawliau'r haf hwn ar gyfer tair fferm wynt alltraeth arnofiol newydd yn y Môr Celtaidd. Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Ystad y Goron yn dweud y gallai'r ffermydd gwynt newydd hyn gefnogi creu dros 5,000 o swyddi, a rhoi hwb i'r Gwerth Ychwanegol Gros hyd at £1.4 biliwn. Bydd penderfyniadau ynghylch y porthladdoedd a ddefnyddir gan y cynigwyr llwyddiannus yn allweddol i sicrhau bod Cymru’n gweld swyddi a thwf o’r ffermydd gwynt hyn – mae Ystad y Goron yn dweud bod yna botensial cryf i Bort Talbot a/neu Borthladd Bryste chwarae rhan allweddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru i “gysoni rheolaeth o asedau'r Goron [fel prosiectau ynni adnewyddadwy] yng Nghymru yn well ag anghenion dinasyddion Cymru”, ond nid yw Llywodraeth y DU yn cefnogi hyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfran ecwiti o £8 miliwn yn ddiweddar ym mhrosiect ynni llanw Morlais Menter Môn, a fydd yn weithredol o 2026. Ar ôl iddo gael ei gwblhau, dyma fydd y prosiect ynni llanw mwyaf sydd wedi cael cydsyniad yn Ewrop, a bydd yn cynhyrchu ynni ar gyfer hyd at 180,000 o aelwydydd.
Pa gamau sydd eu hangen i wneud y mwyaf o’r manteision posibl?
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal uwchgynhadledd buddsoddi yn ddiweddarach eleni, a fydd, yn ôl nhw, yn “dod â buddsoddwyr i Gymru yn yr economi wyrddach honno, bydd yn cyflwyno'r cyfleoedd sydd gan y wlad hon i'w cynnig a'r trawsnewidiad ynni sydd eisoes wedi dechrau”.
Fodd bynnag, mae’r sector ynni adnewyddadwy yn dweud bod y newid i ynni adnewyddadwy yng Nghymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU. Mae’n awyddus i Lywodraeth Cymru wneud y canlynol:
- Mabwysiadu dull ‘Gwneud y Mwyaf o Ynni Adnewyddadwy’ ar gyfer datblygu;
- Gosod targedau gofynnol ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy;
- Creu fframwaith rheoleiddio a pholisi gwell;
- Cyflymu cynnydd ar gytundeb sector.
Dywed Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru “wneud y mwyaf o’i phŵer dylanwadu” er mwyn annog Llywodraeth y DU i gefnogi datblygiad economi Cymru drwy ei strategaeth ddiwydiannol arfaethedig a'r Gronfa Gyfoeth Wladol. Fodd bynnag, mae Diwydiant Sero Net Cymru yn dadlau nad yw Cymru ar hyn o bryd yn cael ei chyfran deg o gyllid gan Drysorlys y DU i ddatgarboneiddio’r economi. Mae’n galw am ddull mwy pendant gan Gymru o sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y DU.
Er mwyn sicrhau mwy o fuddion i gymunedau o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy, mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi galw am greu Cronfa Gyfoeth Cymru. Mae M-Sparc wedi galw am fwy o feddwl strategol ynghylch cyllido buddion cymunedol, lle mae angen dull mwy uchelgeisiol. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chanllawiau i sicrhau bod cymunedau sy'n cynnal y cyfoeth yn cael ei gadw, tra bod Llywodraeth y DU wrthi'n ymgynghori ar gynigion i'w gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy ledled Prydain Fawr dalu i gronfeydd budd cymunedol.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyllid cychwynnol o £300 miliwn i gefnogi cadwyn gyflenwi ynni gwynt ar y môr trwy Great British Energy. Mae hefyd wedi dyrannu £544 miliwn ar gyfer ei Bonws Diwydiant Glân, a fydd yn rhoi cymhelliant i ddatblygwyr ynni gwynt ar y môr fuddsoddi yn y rhanbarthau lle mae angen y mwyaf o fuddsoddiad.
Er mwyn cefnogi cynhyrchu ynni cymunedol, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Ynni Cymru, ac wedi gosod targed bod 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy yn eiddo lleol erbyn 2035, er bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi galw am ddyblu hyn.
Beth yw'r prif rwystrau i gyflawni, a beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â nhw?
Mynegwyd pryderon eang ynghylch pa mor gyflym y gwneir penderfyniadau cynllunio a chydsynio ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am roi cydsyniad ar gyfer pob ynni gwynt ar y tir uwchlaw 10MW, a phrosiectau sy'n defnyddio technolegau eraill rhwng 10 a 350MW, gyda Llywodraeth y DU yn gyfrifol am ddatblygiadau mwy. Dywedodd RenewableUK Cymru:
Consenting and planning delays pose significant risk to our renewable energy and net zero ambitions in Wales – which will inevitably impact related economic opportunities.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i alluogi sefydliadau i gyflogi mwy o staff i ymateb i geisiadau cynllunio a chydsynio, a deddfu drwy Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024. Dros y misoedd nesaf bydd yn gliriach pa effaith fydd hyn yn ei chael.
Mae datblygwyr hefyd wedi codi heriau o ran cael cysylltiadau grid, gyda Statkraft yn disgrifio hyn fel rhwystr sylweddol i wneud y mwyaf o fanteision yr economi werdd. Mae’r National Energy System Operator wedi cael cynlluniau i flaenoriaethu prosiectau ynni glân ar gyfer cysylltiadau grid wedi’u cymeradwyo gan Ofgem.
Mae ein herthygl ar sgiliau gwyrdd yn nodi'r heriau sgiliau y mae Cymru yn eu hwynebu, a sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r rhain.
Pa heriau economaidd y mae datgarboneiddio yn eu cyflwyno, a sut gellir mynd i'r afael â'r rhain drwy gyfnod pontio cyfiawn?
Bydd y newid i economi net-sero yn cael effaith anwastad ar draws cymunedau. Dywed Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru er y gallai diwydiannau a gwasanaethau newydd ddatblygu yng nghefn gwlad Cymru o ganlyniad i’r newid, mae darlun llai optimistaidd ar gyfer ardaloedd diwydiannol.
Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, bu galwadau eang am ‘gyfnod pontio cyfiawn’. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod angen cymorth sgiliau ac ailhyfforddi wedi'i dargedu, seilwaith da, a chysylltiadau trafnidiaeth, ynghyd â chymhellion i fusnesau leoli yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt. Mae TUC Cymru wedi nodi pum egwyddor ar gyfer cyfnod pontio cyfiawn – llwybr clir ac wedi’i ariannu at economi net-sero; llais y gweithiwr wrth lunio’r newid; amddiffyniadau cyflogaeth cryf; cyflogwyr yn blaenoriaethu eu gweithlu; ac ariannu ailhyfforddi.
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, sef corff statudol sy'n cynghori Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ar newid hinsawdd, yn dweud bod angen dysgu gwersi o'r newid yng ngwaith dur Port Talbot. Mae'n dweud bod yr heriau ym Mhort Talbot yn hysbys, a dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fod wedi gweithredu'n rhagweithiol i fynd i'r afael â nhw. Er enghraifft, drwy ei gwneud hi'n fwy deniadol buddsoddi mewn dur gwyrdd, sicrhau bod rhaglenni ailhyfforddi ar waith ymhell cyn i'r ffwrneisi chwyth gau, a datblygu strategaeth ddiwydiannol leol.
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau pontio cyfiawn i gefnogi'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n andwyol gan y newid i sero net.
Beth sydd nesaf?
O ystyried faint o flaenoriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i'r agenda hon, bydd diddordeb brwd yn ymdrechion Llywodraeth Cymru i greu “swyddi gwyrdd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur, gan sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill”.
Gallwch wylio'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn fyw ar Senedd TV ar 11 Mehefin.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru