N/A

N/A

Oes modd cyrraedd y targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

Cyhoeddwyd 21/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/06/2021   |   Amser darllen munud

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Ar ddechrau'r Bumed Senedd, cymerodd Llywodraeth flaenorol Cymru y cam dewr o gyhoeddi'r nod uchelgeisiol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gyda tharged i bron ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, roedd yn nodi newid dramatig i gyfeiriad polisi.

Cymraeg 2050 – strategaeth ar gyfer cenhedlaeth

Mae Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr yn strategaeth sy’n rhychwantu cenhedlaeth, ac mae’n cynnwys tair thema allweddol:

  • cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg;
  • cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg; a
  • creu amodau addas ac amgylchedd lle gall y Gymraeg a'i siaradwyr ffynnu.

Canfu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Bumed Senedd bod cefnogaeth eang i'r targed 2050 a'r nodau o fewn y strategaeth i'w gyflawni. Er mwyn i’r strategaeth lwyddo, fe nododd y byddai angen “adnoddau ychwanegol sylweddol a thargedau clir”.

A yw'r niferoedd yn mynd i'r cyfeiriad cywir?

Ni wnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru gilio rhag y rôl ganolog y byddai gan y system addysg wrth greu'r swmp o siaradwyr Cymraeg newydd. Wedi'r cyfan, canfu'r Data arolwg defnydd iaith: 2013 i 2015 fod 4 o bob 5 plentyn rhwng 3 a 15 oed yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol neu'r feithrinfa yn bennaf. 

Gosododd y strategaeth dargedau heriol ar gyfer yr hirdymor a'r tymor byr. Mae'r rhain yn cynnwys cynyddu cyfran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg a chynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r data'n dangos cynnydd cyfyngedig hyd yma – er bod nifer yr athrawon ysgol uwchradd sy'n gallu addysgu yn Gymraeg wedi parhau’n weddol gyson rhwng 2016 a 2020, mae nifer yr athrawon ysgol gynradd sy'n gallu addysgu yn Gymraeg wedi lleihau ychydig.

Nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg (ysgol gynradd ac uwchradd)

Ffynhonnell: Strategaeth y Gymraeg: adroddiad blynyddol 2019 i 2020 a Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg

Canran y dysgwyr Blwyddyn 2 (saith oed) a aseswyd yn Gymraeg fel iaith gyntaf neu sy'n dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf (data Cyfrifiad Ysgol – CYBLD)

Ffynhonnell: Strategaeth y Gymraeg: adroddiad blynyddol 2019 i 2020 a Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg

Mae’r cynnydd wedi bod yn well o ran y nod i greu 40 o Gylchoedd Meithrin newydd (cylchoedd chwarae cyfrwng Cymraeg) erbyn 2021. Ym mis Chwefror 2021, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog y Gymraeg blaenorol "erbyn diwedd y flwyddyn yma [2021], rŷn ni'n gobeithio bydd 46 [Cylch Meithrin], felly byddwn ni wedi mynd tu hwnt i'n targed ni ar hwnna”. 

Ochr yn ochr â'r cynnydd yn nifer y Cylchoedd Meithrin, cafwyd cynnydd yn nifer y plant sy'n eu mynychu – sef, 10,724 yn 2015-16 ac 11,544 yn 2019-20. Mae tuedd gadarnhaol hefyd yng nghanran y plant sy'n symud o leoliadau blynyddoedd cynnar i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg (86 y cant yn 2015-16 i 90 y cant yn 2018-19).  Fodd bynnag, dim ond cynnydd bychan yw’r canrannau hyn, ac ni fyddant yn cyflawni’r cynnydd y mae Cymraeg 2050 yn ceisio ei gyflawni ar eu pennau eu hunain. 

Ar ben arall y sbectrwm addysgol, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyflym o fewn prifysgolion, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio yn Gymraeg. Mae’r Coleg bellach yn ceisio gwneud yr un peth yn y sector ôl-16. Mae'r Coleg Cymraeg, yn ei Gynllun Gweithredu ar Addysg Bellach a Phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn nodi’r canlynol: “ni fu’r un buddsoddiad a phwyslais strategol ar wneud cynnydd yn y sectorau ôl-orfodol o gymharu, er enghraifft, â’r sector Addysg Uwch”.

Yn dilyn galwadau am fuddsoddiad i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16, rhoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru £800,000 ychwanegol i'r Coleg Cymraeg ar gyfer 2021-22. Mae'n debygol y bydd angen buddsoddiad pellach yn y dyfodol er mwyn cyrraedd targedau Cymraeg 2050.

Beth am y defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd?

Mae Cymraeg 2050 yn ceisio dyblu canran y bobl sy'n siarad Cymraeg yn ddyddiol o 10 y cant (Data arolwg defnydd iaith: 2013 i 2015) i 20 y cant erbyn 2050. Gallai defnydd cynyddol fod yn llawer mwy dylanwadol i dwf iaith na'r niferoedd sy'n ei siarad. Er mwyn i iaith ffynnu, rhaid iddi gael ei defnyddio'n rheolaidd - boed hynny yn y cartref, y swyddfa, yn y siop leol, neu gyda ffrindiau yn y dafarn.

Mae darparu mannau a chyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig yn eu hardal leol a'u gweithle, yn ganolog i'w hyfywedd a'i thwf. Mae helpu'r rhwydwaith o sefydliadau sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r iaith mewn cymunedau mor bwysig ag erioed.

Mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar waith y rhwydwaith hwn. Canfu arolwg ar effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg fod y mwyafrif llethol (68 y cant) o weithgareddau rheolaidd wedi dod i ben ar ôl cyhoeddi'r cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020. Addasodd rhai eu gweithgareddau i fformatau digidol, gan ddarparu cyfleoedd i ymgysylltu'n wahanol â chyfranogwyr, ac estyn allan at gynulleidfa ehangach.

Cefnogi'r iaith i dyfu?

Mae angen ymyriadau, adnoddau a syniadau arloesol amrywiol i helpu'r rhai sy'n dysgu'r iaith ac i annog ei defnydd bob dydd. Gall y rhain amrywio o bolisïau sy'n cefnogi twf swyddi mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, i ddatblygiad y proffesiwn cyfieithu. Mae Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth flaenorol Cymru yn cefnogi datblygiadau technoleg arloesol i gynorthwyo a galluogi pobl i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Buddsoddwyd hefyd mewn datblygu deallusrwydd artiffisial i ganiatáu i'r Gymraeg gael ei defnyddio gyda 'botiau', er enghraifft. Y gobaith yw y bydd siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol yn gallu defnyddio'r Gymraeg gyda'u cynorthwywyr llais, fel Siri ac Alexa.

Ym mis Mawrth 2021, lansiodd Llywodraeth flaenorol Cymru ymgynghoriad ar Bolisi cenedlaethol seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Mae'r cynigion yn ceisio cydlynu a'i gwneud yn haws i bobl ddefnyddio adnoddau Cymraeg. Gall hyn gynnwys datblygu geiriaduron a therminoleg, neu greu porth canolog i’w cyrchu. Bydd y ffordd y mae hynny'n cael ei ddatblygu yn dibynnu i raddau helaeth ar Lywodraeth newydd Cymru.        

A fydd prif ffrydio'r iaith yn helpu?

Er mwyn i Gymraeg 2050 lwyddo, bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru ymgorffori’r Gymraeg ar draws yr holl bortffolios polisi. Un feirniadaeth a godwyd yn gyson yn ystod y Bumed Senedd oedd bod diffyg 'dylanwad' yn y gwasanaeth sifil gan Uned Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Argymhellodd ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Bumed Senedd ar Gefnogi a hybu’r Gymraeg y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru geisio gwella statws a rôl Uned Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru… Dylai fod gan yr Uned hefyd rôl draws-lywodraethol ehangach, gan sicrhau bod trefniadau mewnol ar gyfer gweithredu Cymraeg 2050 yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ar draws adrannau'r llywodraeth.

Mae dadl hefyd ynghylch ble y dylai goruchwyliaeth genedlaethol o’r polisi o ran y Gymraeg fod o fewn Llywodraeth Cymru. Fel y nododd y Gweinidog blaenorol yn ystod sesiwn graffu:

I would suggest that actually, rather than just holding me to account when it comes to the budget… that actually you ask the other Ministers, who've got huge amounts of money, what they're doing within their budgets in relation to the Welsh language.

Mae £38 miliwn yng Nghyllideb y Gymraeg ar hyn o bryd ar gyfer cefnogi ac hyrwyddo'r iaith, sy’n fach iawn o’i chymharu â chyllidebau adrannol eraill. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ers tro ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo 1 y cant o gyfanswm ei chyllideb i hyrwyddo'r iaith. Y ffigur ar gyfer 2021-22 yw 0.19 y cant.

Pawb yn edrych ar Gyfrifiad 2021!

Mae cynllunio ieithyddol yn gymhleth. Mae'n gofyn am ddulliau ac adnoddau systematig ac arloesol, ac yn bwysicaf oll, sicrhau cefnogaeth barhaus pobl Cymru.

Cyn bo hir, bydd pawb yn edrych tuag at ganlyniadau Cyfrifiad 2021, sy’n cael ei ystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol ar nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Y Cyfrifiad yw'r ffon fesur a fydd yn cael ei defnyddio i gadarnhau cynnydd ar dargedau Cymraeg 2050 dros y degawdau nesaf. Ynghyd â data o'r Arolwg defnydd iaith: 2013 i 2015, Arolwg Cenedlaethol Cymru a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, bydd yn rhoi data hanfodol i Lywodraeth nesaf Cymru ynghylch cyflwr yr iaith.

Os yw data Cyfrifiad 2021 yn dangos cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg, bydd yn rhoi rhywfaint o gyfiawnhad dros yr uchelgais a'r targedau a osodwyd yn Cymraeg 2050. Byddai lleihad yn nifer y siaradwyr ond yn dwysáu'r pwysau ar Lywodraeth nesaf Cymru i ystyried dull gwahanol. 

Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru