O law mân i ddilyw mawr: darogan y tywydd a llifogydd

Cyhoeddwyd 10/04/2025   |   Amser darllen munudau

Mae Cymru wedi’i cherfio gan wynt a glaw, ond weithiau gall y tywydd fod yn ddinistriol.

Tua diwedd 2024, dangosodd stormydd Bert a Darragh unwaith eto botensial y tywydd i ddinistrio cymunedau. Mae’r rhai sy’n darogan y tywydd a llifogydd yn ceisio rhagweld tywydd garw cyn iddo daro, gan roi amser i gymunedau baratoi.

Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025, gwnaeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd waith craffu ar ymateb Cymru i stormydd, gan gynnwys systemau darogan, parodrwydd a rhybuddio.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar y ffyrdd presennol o ddarogan y tywydd a llifogydd, ac yn defnyddio ymchwiliad y Pwyllgor i nodi bylchau a datblygiadau yn y dyfodol.

Cwrdd â’r cyrff darogan

Tri phrif gorff sy’n rhan o fframwaith darogan tywydd a llifogydd Cymru:

Mae'r tri ohonynt yn defnyddio cyfuniad o arsylwadau a modelau cyfrifiadurol i geisio rhagweld tywydd aflonyddgar.

Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd yn darparu’r Gwasanaeth Tywydd Cyhoeddus a'r Gwasanaeth Rhybuddion Tywydd Garw Cenedlaethol. Mae’n eiddo i Lywodraeth y DU.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion tywydd melyn, ambr, a choch pan gaiff tywydd aflonyddgar ei ddarogan. Cafwyd rhybuddion melyn ac ambr, yn y drefn honno, cyn stormydd Bert a Darragh. Gellir cyhoeddi rhybuddion ar gyfer wyth math o dywydd gwahanol, yn seiliedig ar gyfuniad o debygolrwydd ac effaith bosibl digwyddiad, gan ddefnyddio'r matrics effaith isod.

Matrics rhybuddion y Swyddfa Dywydd

Grid pedwar wrth bedwar sy'n dweud 'effaith' ar yr echelin lorweddol a 'tebygolrwydd' ar yr echelin fertigol. Gan symud o waelod chwith i dde uchaf y grid, mae'r lliwiau'n mynd o wyn, i felyn, i ambr, i goch, gan ddangos lliw cyfatebol y rhybudd tywydd a gyhoeddir gan y Swyddfa Dywydd.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Dywydd

Y Ganolfan Darogan Llifogydd

Mae'r Ganolfan Darogan Llifogydd yn rhagweld y tebygolrwydd o lifogydd afonydd yng Nghymru a Lloegr gan ddefnyddio modelau hydrolegol a rhagolygon glaw y Swyddfa Dywydd. Mae'n rhaglen ar y cyd rhwng y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd (y corff yn Lloegr sy'n cyfateb i CNC), ond mae ei gweithrediadau yng Nghymru yn cael eu cynnal o ganolfan ranbarthol yng Nghaerdydd. Dywedodd llefarydd CNC fod "perthynas agos iawn" rhwng y corff a’r Ganolfan Darogan Llifogydd.

Nid yw’r Ganolfan Darogan Llifogydd yn ymdrin â’r cyhoedd, ond mae’n darparu data, rhagolygon a gwybodaeth am lifogydd i CNC a sefydliadau sy’n ymateb iddynt. Cyhoeddir ei Datganiad Canllaw Llifogydd pum diwrnod i ymatebwyr lleol, ac mae’n defnyddio matrics tebygolrwydd ac effaith risg tebyg i un y Swyddfa Dywydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae CNC yn monitro lefelau afonydd mewn amser real ac yn cyhoeddi tair haen o rybuddion llifogydd pan fydd perygl llifogydd, fel y dangosir isod.

Rhybuddion llifogydd CNC

Tri thriongl gydag ysgrifen oddi tano yn cynrychioli haenau rhybuddion llifogydd CNC. O'r chwith i'r dde: rhybudd llifogydd, mae llifogydd yn bosibl; rhybuddion llifogydd, angen gweithredu ar unwaith; a rhybudd llifogydd difrifol, perygl i fywyd.

 

Ffynhonnell: Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae CNC yn gweithio gyda’r Ganolfan Darogan Llifogydd i fodelu perygl llifogydd. Dywedodd llefarydd CNC wrth y Pwyllgor fod CNC yn edrych ar berygl llifogydd ac yn cyhoeddi rhybuddion ar lefel gymunedol neu leol, tra bod y Ganolfan Darogan Llifogydd yn edrych ar y perygl ar lefel sirol.

Pryderon am y fframwaith presennol

Achosodd Storm Bert ddifrod sylweddol ledled Cymru. Yn sgil y difrod hwnnw, cafodd cyrff darogan eu beirniadu gan wleidyddion yn y Senedd, a oedd yn teimlo bod y rhybuddion yn annigonol ac yn rhy araf. Nod ymchwiliad y Pwyllgor oedd nodi pam mai dyna a ddigwyddodd.

Twf yn y bylchau darogan llifogydd rhwng Cymru a Lloegr

Tynnodd y Swyddfa Dywydd a’r Ganolfan Darogan Llifogydd sylw at wahaniaethau rhwng sut y caiff stormydd eu darogan yng Nghymru a Lloegr. Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan Darogan Llifogydd wrth y Pwyllgor:

Whilst we started on common ground, the service is diverging as the needs diverge and investment levels diverge as well. So, it’s fair to say there’s a gap at the moment, and that gap potentially is growing in terms of the service that's provided.

Dywedodd fod darogan yn Lloegr wedi’i ysgogi gan ddiddordeb mewn digwyddiadau tywydd eithafol, amseroedd arwain hirach, a ffocws ar lifogydd dŵr wyneb. Mae gan Loegr ddull cyfrifiannol o brosesu data rhagolygon i ragweld perygl llifogydd, tra bod CNC yn prosesu'r un data yn fwy â llaw, yn ôl llefarydd.

Dim rhagolygon ar gyfer llifogydd dŵr wyneb

Dim rhagolygon ar gyfer llifogydd dŵr wyneb

Mae bron 145,000 o adeiladau yng Nghymru mewn perygl o lifogydd 'dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach', o gymharu â 106,000 sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, a 91,000 sydd mewn perygl o lifogydd o'r môr. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ragolygon llifogydd dŵr wyneb ar hyn o bryd yng Nghymru na Lloegr. Dywedodd llefarydd y Swyddfa Dywydd wrth y Pwyllgor y byddai gwasanaeth arbrofol ar gyfer darogan llifogydd dŵr wyneb yn rhedeg yn nhymor yr haf 2025.

Dim digon o bobl wedi cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd

Dywed CNC nad yw lefelau cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd “mor uchel ag y byddem yn hoffi”. Tynnodd sylw at ymdrechion yn y gorffennol i gynyddu'r niferoedd sydd wedi cofrestru ar gyfer ei wasanaeth rhybuddion llifogydd.

Dywedodd 36% o’r bobl yng Nghymru a ymatebodd i arolwg y Groes Goch Brydeinig yn 2024 eu bod heb gofrestru ar gyfer rhybuddion oherwydd nad oeddent yn gwybod sut i wneud hynny neu heb glywed amdanynt. Canfu adroddiad y Groes Goch yn 2024 mai dim ond 9% o'r aelwydydd incwm isaf ar draws y DU oedd wedi cofrestru ar gyfer rhybuddion, o gymharu â 31% yn yr ardaloedd incwm uchaf.

Cyrff darogan yn ymwybodol o beidio â chodi ofnau’n ddiangen

Dywedodd y cyrff darogan wrth y Pwyllgor eu bod yn ymwybodol o beidio â chyhoeddi gormod o rybuddion. Dywedodd CNC y gallai gormod o rybuddion llifogydd olygu bod pobl yn dechrau colli ffydd yn ei systemau.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion tywydd melyn ar gyfer senarios tebygolrwydd isel, effaith uchel (gan gynnwys Storm Bert); a senarios tebygolrwydd uchel, effaith isel, fel ei gilydd. Yn fuan, bydd y Swyddfa Dywydd yn adolygu sut mae’n cyhoeddi rhybuddion melyn effaith canolig ac uchel, gan ddweud fod pobl, mewn gwirionedd, yn gweithredu ar rybuddion ambr a choch.

Nid yw pob ardal rhybudd llifogydd wedi'i hategu gan fodelau

Dywedodd CNC fod tua 84% o ardaloedd sydd â rhybuddion llifogydd afonydd wedi'u hategu gan fodelau wedi'u teilwra o berygl llifogydd, ond hoffai gynyddu hyn i 100% yn y dyfodol. Yn yr ardaloedd sy’n weddill, caiff rhybuddion eu cyhoeddi gan ddefnyddio data a arsylwir a chofnodion hanesyddol. Mae CNC yn bwriadu cyflwyno gwasanaeth darogan yn Nhregatwg, Bro Morgannwg, ac ar afonydd Gwy a Dyfrdwy, ond mae bylchau yn nalgylchoedd Ebwy a Sirhywi yn ne Cymru, ardal Llanelli, a rhai ardaloedd yng ngogledd Cymru. Mewn rhai ardaloedd anghysbell, nid oes unrhyw rybuddion llifogydd o gwbl.

Bylchau signal radar

Mae radar yn bwysig ar gyfer olrhain glawiad amser real, sy'n llywio perygl llifogydd tymor byr. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn dalgylchoedd cul, ag ochrau serth, fel cymoedd de Cymru. Dywedodd CNC wrth y Pwyllgor am fylchau signal radar yn ne a gogledd Cymru, ac mae’n dweud ei fod yn ystyried buddsoddiad radar ychwanegol ochr yn ochr â'r Swyddfa Dywydd a'r Ganolfan Darogan Llifogydd.

Darogan yn y dyfodol: haul ar y gorwel?

Yn ogystal â chraffu ar waith presennol y cyrff darogan, clywodd y Pwyllgor am ddatblygiadau posibl yn y dyfodol.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud, yn y dyfodol, y gallai defnyddio modelau llifogydd 'ensemble' roi mesuriad gwell o’r ansicrwydd ynghylch rhagolygon meteorolegol, hydrolegol ac effaith, ac yna rhybuddion yn y pen draw. Mae modelau ensemble yn cynhyrchu rhagolygon mwy dibynadwy na modelau 'penderfyniaethol' traddodiadol, ac maent eisoes yn cael eu defnyddio'n helaeth wrth ddarogan y tywydd.

Mae cyrff darogan hefyd yn datblygu fframwaith rhybuddio cyffredin, sy'n ceisio cadw cysondeb o ran iaith ac asesiad perygl rhwng gwahanol gyrff darogan.

Mae digwyddiadau tywydd eithafol yn cael effaith seicolegol ac ariannol ddofn ar ddioddefwyr, fel yr amlygwyd gan yr adroddiad ymgysylltu â'r cyhoedd gan y Pwyllgor. Gyda newid hinsawdd, mae disgwyl i ddigwyddiadau o’r fath godi’n fwy aml a bod yn fwy dwys yn ystod y ganrif hon, gan danlinellu pwysigrwydd gwaith darogan dibynadwy i helpu cymunedau ac unigolion i baratoi ar gyfer yr heriau sydd o’u blaenau.


Erthygl gan Dr Matt Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru