O garreg y drws i'r ddesg: beth sy'n digwydd o ran teithio gan ddysgwyr yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 21/03/2025   |   Amser darllen munudau

Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddyletswydd i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol statudol (rhwng 5 ac 16 oed) rhwng eu cartref a’u hysgol addas agosaf, cyn belled â’u bod yn byw y tu hwnt i’r pellteroedd a nodir yn y ddeddfwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal nifer o adolygiadau ynghylch darpariaethau teithio i ddysgwyr dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod teithio gan ddysgwyr ddydd Mawrth 25 Mawrth.

Pwy sy'n gymwys i gael cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol?

Diweddarodd Llywodraeth Cymru y ddeddfwriaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn ystod y cyfnod datganoli. Cafodd y ddeddfwriaeth honno ei gwneud ym 1996, er bod y darpariaethau wedi bod ar waith, i raddau helaeth, ers 1944.

Yn sgil Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, ehangwyd yr hawl i gludiant am ddim i’r ysgol ar gyfer plant ysgol gynradd sy’n byw dwy filltir neu ymhellach i ffwrdd o’r ysgol, sef y pellter a elwir yn bellter cerdded. Cyn y Mesur, dwy filltir oedd y pellter cerdded i blant dan wyth oed, a thair milltir i blant wyth oed a hŷn.

Mae’r Mesur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, mae gan awdurdodau lleol bwerau dewisol i ddarparu cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol i ddisgyblion eraill, megis dysgwyr ôl-16, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt sicrhau bod darpariaeth ddewisol o’r fath ar gael i bawb, yn hytrach nag i rai unigolion yn unig.

Mae gwybodaeth am hawliau dysgwyr ar gael yn ein canllaw i etholwyr (2022), ac yng Nghanllawiau Gweithredol Llywodraeth Cymru ar Deithio gan Ddysgwyr (2014).

Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i adolygu cludiant o’r cartref i’r ysgol?

Lansiodd Llywodraeth Cymru adolygiad o drefniadau teithio gan ddysgwyr yn 2019. Bwriad gwreiddiol yr adolygiad hwn oedd trafod materion a oedd ymwneud â chludiant ar gyfer dysgwyr ôl-16 a “sut i'w datrys mewn ffordd gost-effeithiol a chynaliadwy”. Cafwyd yr adolygiad hwn yn sgil pryderon a fynegwyd gan y Comisiynydd Plant ar y pryd, ymhlith eraill.

Bu tarfu ar gynnydd yr adolygiad yn sgil pandemig COVID-19, ac yn 2020, penderfynodd Llywodraeth Cymru y dylid ehangu cwmpas yr adolygiad i gynnwys y grŵp oedran 4–16 mlwydd oed, ac i ystyried y trothwyon milltiredd o ran cymhwystra ar gyfer hawlio cludiant am ddim.

Ar 31 Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn, sef Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru. Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglen ehangach o waith a fyddai’n cynnwys ystyried adolygiad cyflawn o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr.

Ar yr un pryd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adolygiad a gafodd ei lansio yn 2019 a’i ehangu yn 2020. Canfu hynny fod angen diweddaru'r canllawiau er mwyn sicrhau mwy o gysondeb, adolygu'r Cod ymddygiad teithio, a rhoi mwy o eglurder ynghylch cyfrifoldeb rhieni, darpariaeth ar draws ffiniau, ac achosion lle mae gan blant breswyliad deuol.

Canfu’r adolygiad fod materion ehangach y tu hwnt i’r rhai a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth bresennol, gan gynnwys cludiant ar gyfer dysgwyr hŷn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r rhai mewn colegau addysg bellach. Canfu hefyd nad oedd y rhwydweithiau, y ddarpariaeth a’r seilwaith ysgolion yn addas ar gyfer ymdopi â chynnydd yn y ddarpariaeth orfodol.

Er iddo gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2022, cafodd yr adolygiad ei gwblhau ychydig cyn etholiad diwethaf y Senedd yn 2021. Nododd yr adolygiad, er bod problemau gyda’r Mesur, nad oedd digon o amser yn y Bumed Senedd i ddechrau proses ffurfiol i’w newid.

Gwnaed gwaith dadansoddi a gwerthuso mewnol ynghylch teithio gan ddysgwyr gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod 2023. O ystyried y diwygiadau arfaethedig ar gyfer strwythur y diwydiant bysiau, a’r heriau sylweddol sy’n bodoli o ran pwysau ar gyllidebau, dywedodd yr adroddiad cysylltiedig:

…na ddylid mynd ati ar hyn o bryd i ddiwygio'r ddeddfwriaeth sy'n sail i Deithio gan Ddysgwyr yng Nghymru.

Un o argymhellion yr adolygiad oedd diweddaru Canllawiau Gweithredol 2014. Ym mis Mawrth 2024, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y pryd y byddai hyn yn destun ymgynghoriad.

Pa faterion eraill sydd wedi’u codi?

Mae materion sy’n ymwneud â theithio gan ddysgwyr wedi cael eu codi gan lawer o bobl, gan gynnwys rhieni, plant a phobl ifanc, a’r cyrff sy’n eu cefnogi. Mae Comisiynwyr Plant olynol wedi mynegi pryderon ers blynyddoedd lawer. Mae'r rhain wedi cynnwys hyd pellteroedd cerdded ac addasrwydd llwybrau cerdded. Er bod rhaid i awdurdodau lleol asesu diogelwch llwybrau cerdded i ysgolion, nid oes dyletswydd arnynt i asesu diogelwch y llwybrau y mae rhaid i ddysgwyr eu defnyddio er mwyn dal bws i’r ysgol. Mae Rocio Cifuentes, y Comisiynydd Plant, hefyd wedi mynegi pryder ynghylch y diffyg cludiant ysgol neu gludiant coleg ar gyfer dysgwyr ôl-16, ac ynghylch materion sy’n ymwneud â chludiant ar gyfer y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn ei hymateb i adroddiad argymhellion Llywodraeth Cymru ynghylch Teithio gan Ddysgwyr, dywedodd y Comisiynydd Plant fod yr adolygiad o’r Mesur:

…yn gwbl annigonol, gan fethu â nodi unrhyw newid ystyrlon i’r canllawiau neu’r ddeddfwriaeth gyfredol, a newidiadau ystyrlon i brofiadau plant.

Yn ogystal, mynegodd Comisiynydd y Gymraeg siom gyda chanlyniad yr adolygiad, gan nodi bod cludiant ysgol i addysg cyfrwng Cymraeg yn un o’r materion mwyaf cyson y mae rhieni yn ei godi â’i swyddfa.

Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd adroddiad, sef A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y materion ymarferol y mae dysgwyr ag anableddau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yn eu hwynebu wrth ddefnyddio cludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Clywodd yr Aelodau fod y canllawiau presennol yn cael eu cymhwyso mewn modd anghyson gan wahanol awdurdodau lleol.

Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r gwaith o adolygu a chyhoeddi canllawiau teithio i ddysgwyr. Mewn ymateb (30 Medi 2024), cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod adolygiad o’r canllawiau ar y gweill, a’i bod yn disgwyl ei gyhoeddi erbyn tymor yr haf 2025. Roedd hefyd yn cytuno â'r cysyniad bod angen gwella cysondeb. Fodd bynnag, o ystyried y gwahanol anghenion, daearyddiaeth a blaenoriaethau sydd i’w hystyried, mater i awdurdodau lleol yw gwneud eu penderfyniadau eu hunain o fewn y fframwaith statudol.

Yn ystod ei ymchwiliad i Absenoldebau Disgyblion (Ebrill 2022), clywodd y Pwyllgor fod cost cludiant rhwng y cartref a'r ysgol wedi effeithio ar allu dysgwyr i fynd i’r ysgol. Yn yr un modd, mae adroddiad Estyn, ‘Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd’ (Ionawr 2024), yn nodi bod diffyg hawl i gludiant ysgol am ddim wedi cael effaith ar bresenoldeb yn yr ysgol, yn enwedig ymhlith y disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Codwyd y mater hwn hefyd yn ystod y gwaith craffu ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)..

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Er bod cytundeb eang ymhlith teuluoedd, comisiynwyr a Llywodraeth Cymru ynghylch y ffaith bod problemau gyda’r fframwaith deddfwriaethol cyfredol, nid oes unrhyw gynlluniau i newid y Mesur ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y gallai’r Bil Bysiau sydd ar ddod arwain at welliannau. Disgwylir i’r Bil hwn gael ei gyhoeddi yn ystod tymor y gwanwyn 2025.

Ar 22 Ionawr 2025, dywedodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y bydd hi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn arwain uwchgynhadledd teithio i ddysgwyr yn y gwanwyn. Dywedodd hefyd fod gwaith bron wedi ei gwblhau ar ddiweddaru’r canllawiau statudol sy’n cyd-fynd â’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr, gydag ymgynghoriad yn dechrau yn yr wythnosau i ddod. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r canllawiau newydd erbyn mis Medi 2025.

Efallai y bydd mwy yn cael ei ddatgelu yn ystod dadl y Senedd ar Deithio gan Ddysgwyr, a gaiff ei chynnal ddydd Mawrth 25 Mawrth 2025. Gallwch wylio’r ddadl ar Senedd TV, a bydd trawsgrifiad yn cael ei gyhoeddi tua 24 awr yn ddiweddarach.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru