Mae nifer y bobl yng Nghymru sy’n byw gyda chyflwr iechyd cronig yn cynyddu, gan roi pwysau cynyddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan straen.
Erbyn hyn mae’n rhaid i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a ddatblygwyd yn wreiddiol i drin salwch acíwt ac a gynlluniwyd yn hanesyddol o amgylch clefydau neu organau unigol, addasu i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol y mae angen gofal parhaus ar gyfer un neu fwy o gyflyrau hirdymor arni.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad ar gyflyrau cronig ym mis Ionawr 2025, yn dilyn ymchwiliad dau gam. Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan y rhai sy'n darparu triniaeth a chymorth i'r rhai â chyflyrau cronig. Clywsant hefyd gan bobl sy’n byw gyda chyflyrau cronig, a rannodd eu profiadau o gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt i fyw yn dda.
Yn ogystal ag ystyried yr heriau hirdymor sy’n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, nododd y Pwyllgor welliannau y gellid eu gwneud nawr i roi gwell cymorth i bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd cronig ar hyn o bryd.
Gwella gofal ar gyfer pobl sy’n byw gyda chyflyrau cronig
Mae nifer gynyddol o bobl yn byw gyda mwy nag un cyflwr cronig, a elwir weithiau yn “amlafiachedd”. Mae hyn yn her i systemau meddygol traddodiadol. Gallai cleifion fod yn cymryd mwy nag un feddyginiaeth a gweld mwy nag un arbenigwr a allai fethu â gweld y darlun cyffredinol o'u hiechyd.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda byrddau iechyd lleol i ddatblygu gwasanaethau sy’n rhoi gofal ‘cofleidiol’ i gleifion, gan ddarparu model ‘siop un stop’ sy’n dod â gwahanol wasanaethau iechyd a gweithwyr proffesiynol ynghyd.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan egluro, er bod clinigau ‘siop un stop’ yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth ddatblygu gwasanaethau, eu bod ar hyn o bryd wedi’u cynllunio yn bennaf i wella diagnosis ar sail symptomau, fel ymchwilio i symptomau’r llwybr wrinol neu ddiffyg anadl yn hytrach na rheoli amlafiachedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod pobl sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ar gyfartaledd, yn treulio tua naw mlynedd ychwanegol yn byw ag iechyd nad yw’n dda o gymharu â’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae data o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2023 yn dangos bod oedolion sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt salwch hirsefydlog sy’n cyfyngu arnynt.
I fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector, i gysylltu gwahanol ffynonellau cymorth yn well a mynd i’r afael â materion y tu hwnt i ofal iechyd, gan gynnwys tai, dyled a chyflogaeth.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, a dywedodd fod gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddyletswydd i gydweithredu wrth gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau i bobl ag anghenion gofal a chymorth, wedi’i hwyluso drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Un o ganfyddiadau allweddol yr ymchwiliad oedd yr angen i wella cymorth iechyd meddwl i’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau cronig ar sawl lefel drwy wneud y canlynol:
- Cynnig cymorth gwell i wella lles y rhai sy’n byw gyda chyflyrau cronig, hyd yn oed os nad oes ganddynt ddiagnosis o gyflwr iechyd meddwl;
- Sicrhau gwell dealltwriaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a mwy o gyfathrebu ac integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol, i'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol;
- Cynyddu’r archwiliadau iechyd corfforol sydd ar gael i bobl â salwch meddwl difrifol, er mwyn mynd i’r afael â’r canlyniadau gwaeth o ran iechyd corfforol.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy nodi bod y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol sydd ar ddod yn cydnabod effaith byw gyda chyflwr iechyd corfforol hirdymor ar iechyd meddwl ac yn mabwysiadu dull ymyrraeth gynnar i roi gwybodaeth am gymorth yn gynharach.
A yw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gynaliadwy?
Mae’r nifer gynyddol o bobl sy’n byw gyda chyflyrau cronig yn codi cwestiynau am gynaliadwyedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol. Gyda'r galw'n cynyddu a gofal yn dod yn fwyfwy cymhleth, a all y system addasu i gadw i fyny?
Dywedodd yr Athro Jim McManus, Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth y Pwyllgor:
we have significant and ongoing rising prevalence of long-term conditions, most of which are preventable (…) We also talk about the significant rise in diabetes, so that we may have one in 11 people by 2035. If that continues for all long-term conditions, we won't have a sustainable health and care system and it will impact significantly on the workforce and the economy.
Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod y GIG yn gwario 10% o'i gyllideb ar ddiabetes. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, cynyddodd nifer yr oedolion sy’n byw gyda diabetes 40% rhwng 2009/10 a 2021/22. Maent yn amcangyfrif y bydd cynnydd pellach o 22% erbyn 2035/36.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud rhagfynegiadau tebyg am nifer o glefydau anhrosglwyddadwy eraill. Mae nifer yr achosion o sawl cyflwr cronig, gan gynnwys methiant y galon, strôc ac asthma, wedi codi dros y degawd diwethaf. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio “os na fydd unrhyw beth yn newid, megis cyflwyno ymyriad iechyd neu bolisi, rydym yn rhagamcanu y bydd pob clefyd a nifer yr achosion o ganser ymhlith y ddau ryw yn parhau i gynyddu”.
Newid gwasanaethau i ganolbwyntio ar atal
Clywodd y Pwyllgor fod newid i ganolbwyntio ar atal er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r ffactorau risg allweddol ar gyfer datblygu cyflyrau cronig yn hanfodol i wneud gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gynaliadwy.
Mae Cymru Iachach, sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn nodi y bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar atal dros y deng mlynedd nesaf. Y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru set o gamau wedi'u hadnewyddu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Cymru Iachach gydag “ataliol” fel egwyddor graidd.
Mae sawl rhaglen ataliol eisoes ar waith, fel y Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, a mentrau fel Pwysau Iach: Cymru Iach a Cymru Ddi-fwg.
Fodd bynnag, daeth adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft 2025-26 i’r casgliad ei bod yn “siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi dangos newid sylweddol eto mewn dyraniadau gwariant iechyd tuag at atal, er gwaethaf ei nodi fel blaenoriaeth.”
Amser a ddengys a oes digon yn cael ei wneud i droi'r fantol tuag at atal. Os na, efallai y bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ei chael yn anodd ateb y galw yn y dyfodol. Yn y cyfamser, mae adroddiad y Pwyllgor yn amlinellu camau y gallai Llywodraeth Cymru a’r GIG eu cymryd nawr i wella bywydau pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd cronig ar hyn o bryd.
Bydd argymhellion y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Ebrill.
Erthygl gan Angharad Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru