O Baris i Marrakech – COP22 yn trafod gweithredu ar sail fyd-eang i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

Cyhoeddwyd 14/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

14 Tachwedd 2016 Erthygl gan Sean Evans Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Rhwng 7 Tachwedd a 18 Tachwedd 2016, mae Marrakech yn gartref i ail sesiwn flynyddol ar hugain Cynhadledd y Partïon (COP) i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC), sef COP 22. Mae COP 22 yn dwyn ynghyd arweinwyr a chynrychiolwyr Partïon i’r Confensiwn a Sylwedydd-wladwriaethau i wneud cynnydd o ran ‘Cytundeb Paris’ ac i hyrwyddo’r gwaith o gydlynu camau byd-eang i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. [caption id="attachment_6453" align="alignright" width="286"]COP 22 website social networks press kit COP 22 website social networks press kit[/caption] Bydd cynrychiolwyr hefyd yn cymryd rhan yn neuddegfed sesiwn flynyddol y Partïon i’r Protocol Kyoto (CMP 12) a chyfarfod cyntaf y Partïon i’r Cytundeb Paris, a ddaeth i rym ar 4 Tachwedd 2016. Serch yr ymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd hyd yma, mae’r rhagolygon yn adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn rhybuddio y bydd parhau i allyrru nwyon tŷ gwydr yn achosi cynhesu pellach a newidiadau i holl elfennau’r hinsawdd. Dywed yr adroddiad fod y dystiolaeth o newid yn yr hinsawdd yn ddigynsail ac yn ddiamwys. Bydd cyfyngu ar newid yn yr hinsawdd yn gofyn am ostyngiadau sylweddol a pharhaus mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae cyfarfodydd COP yn chwarae rhan bwysig yn yr ymdrechion parhaol i gryfhau’r camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ar lwyfan byd-eang. Cyflwyniad cryno i’r UNFCCC a chytundebau hyd yma Cynhaliwyd Cynhadledd Gyntaf y Byd ar Hinsawdd yng Ngenefa ym 1979 gan Sefydliad Feteorolegol y Byd (WMO) a Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP) mewn partneriaeth â Chyngor Rhyngwladol yr Undebau Gwyddonol (ICSU). Roedd hyn yn nodi dechrau rhaglen ymchwil gydlynol fyd-eang ynghylch yr hinsawdd. Daeth yr UNFCCC (y Confensiwn) i rym lawer yn ddiweddarach ar 21 Mawrth 1994 fel un o dri Chonfensiwn a fabwysiadwyd yn ystod ‘Uwchgynhadledd y Ddaear’ yn Rio yn 1992. Cydnabu’r Confensiwn newid yn yr hinsawdd yn ffurfiol fel mater o bwys, gan roi’r cyfrifoldeb ar wledydd datblygedig i arwain y ffordd wrth fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gosod nod o sefydlogi crynodiadau nwyon tŷ gwydr ar lefel a fyddai’n atal ymyrraeth beryglus anthropogenig (a achosir gan bobl) yn system yr hinsawdd. Ym 1997, cafodd Protocol Kyoto ei fabwysiadu yng nghyfarfod COP 3. Roedd gan y protocol hwn y nod o ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr 5 y cant rhwng 2008 a 2012. Cafodd cyfnod cyntaf y Protocol Kyoto ei ymestyn yn ystod sesiwn COP 18 yn Doha drwy welliant a oedd hefyd yn ymrwymo Partïon i ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 18 y cant o dan lefelau 1999. Hyd yma, mae 192 o Bartïon (191 o Wladwriaethau a’r Undeb Ewropeaidd) i Brotocol Kyoto. ‘Cytundeb Paris’ Mae Cytundeb Paris, a wnaed yn ystod sesiwn COP 21, yn datblygu’r Confensiwn creiddiol ac yn dwyn pob cenedl ynghyd gyda’r bwriad cyffredinol o wneud ymdrechion uchelgeisiol i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac addasu i’w effeithiau. Ystyrir bod y Cytundeb yn un hanesyddol oherwydd y cafodd ei fabwysiadu yn unfrydol gan yr holl Bartïon ac y mae’n cynrychioli cyfeiriad newydd uchelgeisiol i’r ymdrech byd-eang ynghylch yr hinsawdd. Mae nodau’r Cytundeb hwn yn fwy uchelgeisiol nag unrhyw ymrwymiadau blaenorol. Maent yn ceisio cryfhau’r ymateb byd-eang i fygythiad newid yn yr hinsawdd drwy gadw’r cynnydd yn nhymheredd y byd y ganrif hon ymhell o dan 2 radd Celsius yn uwch na’r lefelau cyn-ddiwydiannol ac i fynd ar drywydd ymdrechion i gyfyngu ar y cynnydd yn y tymheredd hyd yn oed ymhellach i 1.5 gradd Celsius. Drwy weithredu’r Cytundeb, rhagwelir y bydd economïau byd-eang yn symud tuag at fodelau carbon isel. Mae’r Cytundeb hefyd yn gofyn i bob Parti wneud ei orau drwy gyfraniadau a benderfynir yn genedlaethol ac i adrodd yn ôl yn rheolaidd ar ei allyriadau a’i ymdrechion i roi’r Cytundeb ar waith. Ar 5 Hydref 2016, pasiwyd y trothwy ar gyfer gweithredu Cytundeb Paris a daeth y Cytundeb i rym ar 4 Tachwedd 2016. Hyd yma, mae 105 o Bartïon o’r 197 o Bartïon i’r Confensiwn wedi cadarnhau’r cytundeb, a bydd cyfarfod cyntaf y Partïon i’r Cytundeb Paris (CMA 1) yn cael ei gynnal ym Marrakech ddydd Mawrth 15 Tachwedd. Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth y DU wedi cadarnhau’r Cytundeb Paris heblaw drwy ei haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mewn araith i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ar 20 Medi 2016, dywedodd Theresa May, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig: ‘[the United Kingdom will] continue to play our part in the international effort against climate change ... In a demonstration of our commitment to the agreement reached in Paris, the UK will start its domestic procedures to enable ratification of the Paris agreement and complete these before the end of the year’. Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 dargedau statudol yng Nghymru o ran newid yn yr hinsawdd am y tro cyntaf, gan gynnwys nod hirdymor i ostwng allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Golyga hyn y bydd angen cymryd camau breision pellach, yn ogystal â chamau i liniaru risgiau o ran newid yn yr hinsawdd. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gymryd camau tuag at gadarnhau Cytundeb Paris yn ffurfiol, a ofynnwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Hydref 2016, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: ‘byddaf yn cynrychioli Cymru yn y COP22 ym Marrakech y mis nesaf, ond credaf fod hyn yn sicr yn rhywbeth y gallwn gael trafodaethau yn ei gylch gan ei bod yn bwysig iawn i ni ddangos ein bod yn fwy na pharod i chwarae ein rhan’. Beth sy’n digwydd yn COP 22 a beth yw nodau’r gynhadledd? Mae COP 22 yn anelu at ddatblygu Cytundeb Paris drwy ganolbwyntio ar gamau gweithredu i gyflawni blaenoriaethau’r Cytundeb, yn enwedig ynghylch elfennau hanfodol fel addasu, tryloywder, trosglwyddo technoleg a mesurau lliniaru (gweler y Crynodeb o Gytundeb Paris am fanylion pellach ar yr elfennau hanfodol hyn). Bydd y rhaglen Weithred Fyd-eang ar yr Hinsawdd sy’n cael ei thrafod yn COP 22 yn ymgorffori cyfres o ddyddiau thematig sydd wedi’u trefnu i ymgysylltu, symbylu a chryfhau gweithred ar yr hinsawdd rhwng rhanddeiliaid, byddant yn Bartïon neu beidio, gan arwain at Ddigwyddiad Lefel Uchel ar Gyflymu Gweithred ar yr Hinsawdd ar 17 Tachwedd. Bydd holl lofnodwyr Cytundeb Paris yn ymgynnull yn CMA 1 gyda’r dasg o gryfhau gallu gwledydd i ymdrin ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Hefyd, bydd Uwchgynhadledd ar yr Hinsawdd ar gyfer Arweinwyr Lleol a Rhanbarthol yn cael ei chynnal ar 14 Tachwedd a fydd yn cynnwys sesiynau ar lywodraethau lleol a rhanbarthol fel pencampwyr camau i roi Cytundeb Paris ar waith yn llwyddiannus a sicrhau llesiant poblogaethau lleol.