Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

O bandemig i ymosodiad seiber: Comisiynydd y Gymraeg yn adrodd ar flwyddyn eithriadol

Cyhoeddwyd 22/11/2021   |   Amser darllen munud

Mae ail Adroddiad Blynyddol Aled Roberts fel Comisiynydd y Gymraeg yn ymdrin â blwyddyn eithriadol. Roedd ei allu i gyflawni ei ddyletswyddau statudol yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus yn ddigon anodd, ond roedd yn anoddach fyth wedi i ymosodiad seiber ddinistrio ei systemau TG. Ond er gwaethaf yr heriau, y themâu a oedd yn amlwg cyn y pandemig sy’n parhau – er enghraifft, rhwystredigaeth â’r cynnydd a wnaed o ran rheoliadau safonau’r Gymraeg, neu’r ffaith bod newidiadau yn y sector addysg Gymraeg yn digwydd mor araf.

Mae'r themâu hyn wedi'u cynnwys yn Adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd ar Sefyllfa'r Gymraeg, sy’n cofnodi datblygiadau dros y pum mlynedd diwethaf er mwyn gwella’r broses datblygu polisi yng Nghymru i’r dyfodol.

Rhwystredigaeth â’r broses o gyflwyno safonau newydd ar gyfer y Gymraeg

Nid oes dim rheoliadau newydd wedi’u cyflwyno mewn perthynas â safonau’r Gymraeg ers 2018. Y set ddiwethaf o reoliadau oedd y rhai a oedd yn berthnasol i'r sector iechyd sylfaenol. Galwodd y Comisiynydd ar Lywodraeth newydd Cymru i “gyhoeddi rhaglen ar gyfer cyflwyno safonau’r Gymraeg i ragor o sefydliadau a sectorau”. Yn ôl y Comisiynydd, mae “profiadau siaradwyr Cymraeg yn dal yn anghyson”, ac mae “siaradwyr Cymraeg yn haeddu gwell na hyn”.

O ran y sefydliadau sy'n ddarostyngedig i’r safonau ar hyn o bryd, rhoddodd y pandemig bwysau sylweddol ar eu gwasanaethau. Dewisodd y Comisiynydd ohirio ymchwiliadau i fyrddau iechyd “hyd nes y byddai’r argyfwng wedi pasio”. Rhoddwyd hyblygrwydd hefyd i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru o ran ymateb i ymchwiliadau, ac ailddechreuodd y rhain yn llawn ym mis Awst 2020.

I helpu sefydliadau i gydymffurfio â'r safonau, aeth y Comisiynydd ati i ddrafftio pedwar cod ymarfer ac i ymgynghori yn eu cylch. Byddai'r codau'n berthnasol i nifer o sefydliadau cyhoeddus, colegau a phrifysgolion, heddluoedd a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Roedd y Comisiynydd eisoes wedi cyhoeddi cod ymarfer ar gyfer awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru.

Yr heriau sy’n wynebu’r sector addysg Gymraeg

Maes arall sy'n parhau i beri pryder i'r Comisiynydd yw addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r sector addysg yn ganolog i Strategaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Cyhoeddodd y Comisiynydd nodyn briffio ym mis Awst 2020 a oedd yn argymell datblygu “strategaeth gweithlu addysg tymor hir”. Roedd hefyd yn argymell trefnu cyrsiau Cymraeg dwys i ddarpar athrawon.

Mae'r Comisiynydd yn credu bod angen “ymyrraeth sylweddol a newid meddylfryd yn llwyr” o ran polisi addysg Gymraeg. Mae’n mynd rhagddo i ddweud “oni bai bod strategaeth a gweithredoedd y Llywodraeth yn adlewyrchu maint yr her sydd yn ein hwynebu…ni chaiff amcanion strategaeth Cymraeg 2050 eu cyflawni”.

Ymosodiad seiber dinistriol

Er i’r Comisiynydd fynd i’r afael â’r anawsterau a oedd yn deillio o’r pandemig, cafodd systemau TG y Comisiynydd eu taro gan fath gwahanol o argyfwng ym mis Rhagfyr 2020. Mae’r adroddiad blynyddol yn nodi bod chwarter olaf y cyfnod adrodd wedi bod yn un “tu hwnt o heriol” wrth i swyddogion ymateb i sgil effeithiau ymosodiad seiber.

Yn ystod sesiwn graffu gyda'r Comisiynydd yn ddiweddar, dywedodd y Comisiynydd “mi wnaeth yr ymosodiad chwalu ein systemau ni yn llwyr”. Mae gan y Comisiynydd systemau TG newydd erbyn hyn, gan gynnwys gwefan newydd a lansiwyd ym mis Awst 2021.

Dulliau newydd o hyrwyddo'r Gymraeg

Daliodd y Comisiynydd ati i hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ymhlith busnesau ac elusennau yn ystod 2020-21. Nid yw'r sectorau hyn yn ddarostyngedig i ddyletswyddau statudol yng nghyd-destun y Gymraeg.

Mae darpariaeth gwasanaeth Cymraeg ar gael yn aml wrth ymwneud â busnesau ac elusennau, ond nid yw bob amser yn weladwy nac yn hygyrch. Er mwyn rhoi “eglurder i'r cyhoedd” ynghylch y gwasanaethau a gynigir, lansiodd y Comisiynydd 'Y Cynnig Cymraeg'. Mae'r cynllun yn cydnabod ymrwymiad sefydliadau i ddefnyddio'r Gymraeg yn gynyddol ac i ddatblygu a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg.

Yn ogystal â hyn, lansiodd y Comisiynydd gronfa farchnata’r ‘Cynnig Cymraeg,’ a oedd yn cynnig hyd at £500 i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg.

Sefydlogrwydd ariannol yn ystod cyfnod ansicr

Dyrannodd Gweinidogion Cymru £3.2 miliwn o gyllid refeniw a £277,000 o gyllid cyfalaf i'r Comisiynydd ar gyfer 2020-21. Gwariant net y Comisiynydd dros y cyfnod adrodd oedd £3.28 miliwn, sy'n cynnwys £119,000 o wariant cyfalaf i uwchraddio systemau TG y Comisiynydd.

Fel llawer o sefydliadau, mae'r Comisiynydd wedi gwneud arbedion mewn rhai meysydd oherwydd cyfyngiadau amrywiol, ond roedd costau annisgwyl mewn meysydd eraill.

Dim ond £2,000 o’r £80,000 o’r gwariant rhagamcanol a wariwyd ar deithio a chynhaliaeth yn 2020-21 a chafodd gwariant ar brosiectau bron a’i haneru. Oherwydd yr ymosodiad seiber, gwariwyd £25,000 ychwanegol ar arbenigedd allanol i adfer data a gollwyd, ac roedd y ffioedd cyfreithiol yn uwch na'r disgwyl.

Gwelwyd cynnydd o £195,000 yng nghronfeydd wrth gefn cyffredinol y Comisiynydd rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2021 (hyd at £697,000). Lefel waelodol y gronfa wrth gefn, sef swm y gronfa wrth gefn sydd ar gael i’r Comisiynydd i ddiogelu rhag gorwario posibl yn y dyfodol, oedd £413,000 (2019-20: £255,000).

Dywed y Comisiynydd fod “y gronfa wrth gefn wedi cynyddu i lefel sy’n uwch na’r hyn ystyrir gan y Comisiynydd i fod yn ddarbodus”. Gellir cymeradwyo prosiectau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol hon i “leihau lefel y gronfa wrth gefn i lefel cynaliadwy”.

Adroddiad 5-mlynedd ar Sefyllfa’r Gymraeg 2016-20

Mae Adroddiad 5-mlynedd y Comisiynydd ar Sefyllfa'r Gymraeg, yr ail adroddiad o'i fath, yn gyfle i bwyso a mesur cyflwr yr iaith dros y cyfnod hwnnw. Cyhoeddwyd yr adroddiad 5-mlynedd cyntaf yn 2016.

Mae'r Comisiynydd yn nodi y gwelwyd datblygiadau sylweddol, yn wleidyddol ac yn ddeddfwriaethol, yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn yn cynnwys strategaeth “uchelgeisiol” Llywodraeth Cymru - Cymraeg 2050 a'i darged o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, a sefydlu Prosiect 2050 o fewn Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r Comisiynydd yn nodi mai'r datblygiad mwyaf arwyddocaol, ochr yn ochr â strategaeth Cymraeg 2050, yw'r “hawliau newydd a ddaeth i ran siaradwyr Cymraeg wrth i’r safonau iaith cyntaf ddod yn weithredol”:

Gyda’i gilydd – ac o’u gweithredu i’r eithaf – mae gan y ddau ddatblygiad hyn botensial i weddnewid sefyllfa’r Gymraeg dros y pum mlynedd nesaf ac am genedlaethau i ddod.

Ymhlith y digwyddiadau pellgyrhaeddol eraill a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod adrodd mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, a phandemig COVID-19 wrth gwrs. Efallai na fydd effaith y ddau ddigwyddiad ar yr iaith i’w gweld am gryn amser, ond mae'r Comisiynydd yn glir y dylai'r iaith fod “wrth wraidd y cynlluniau adfer”.

Mae'r adroddiad wedi’i groesawu gan Dyfodol i'r Iaith, gan nodi ei fod yn “hoelio’r heriau sy’n wynebu’r iaith ar hyn o bryd a thua’r dyfodol”. Yn y Crynodeb Gweithredol, mae'r Comisiynydd yn tynnu sylw at rai o'r heriau sydd o'n blaenau:

  • Sicrhau bod gwasanaethau ar draws y sectorau ar gael yn Gymraeg ac yn cael eu hyrwyddo'n effeithiol i helpu i gynyddu'r defnydd dyddiol o'r iaith;
  • Pwysigrwydd trosglwyddo iaith yn y cartref, gan helpu i fagu hyder a’r defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau;
  • Pan nad oes modd trosglwyddo’r iaith yn y cartref, mae’n bwysig trochi plant yn y Gymraeg pan fyddant yn ifanc er mwyn datblygu siaradwyr rhugl a hyderus;
  • Ymyrryd mewn cymunedau lle nad y Gymraeg yw’r brif iaith, ac yn yr un modd, diogelu’r cymunedau hynny sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg; a
  • Cwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol ac ym maes technoleg.

Mae rhai materion arwyddocaol i fynd i'r afael â nhw dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, o feithrin y gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i ddatblygu technoleg sy'n hybu’r defnydd o’r iaith. Os yw Cymraeg 2050 am lwyddo, fodd bynnag, ac os yw Llywodraeth Cymru “o ddifrif” ynglŷn â chyrraedd y targedau, mae angen i amcanion Cymraeg 2050 a’i hysbryd “fod yn greiddiol i bob datganiad, polisi a deddf”.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru