Adeilad Senedd Cymru

Adeilad Senedd Cymru

O 60 i 96: sut gallai'r Senedd nesaf fod yn fwy effeithiol?

Cyhoeddwyd 15/05/2025   |   Amser darllen munudau

Dyna'r cwestiwn y mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi bod yn ymgodymu ag ef dros y chwe mis diwethaf.

Gall y ffordd y mae senedd yn trefnu ei busnes a'r rheolau ynghylch pwy all siarad neu bleidleisio ymddangos yn hynafaidd, ond gallant gael effaith fawr ar sut caiff llywodraeth ei dwyn i gyfrif.

Bydd y Senedd yn cynyddu mewn maint i 96 o Aelodau ar ôl yr etholiad y flwyddyn nesaf. Mae Pwyllgor Senedd y Dyfodol wedi bod yn edrych ar sut y gallai Senedd fwy o faint wella gwaith craffu, cryfhau atebolrwydd ac ehangu cynrychiolaeth.

Cyfle unigryw ar gyfer newid

Un o'r prif yrwyr a gyflwynwyd o blaid ehangu'r Senedd oedd rhoi digon o gapasiti i'r sefydliad gyflawni ei gyfrifoldebau polisi, deddfwriaethol a chraffu.

Ers cytuno ar y cynnydd hwn yn nifer yr aelodau, y cwestiwn nawr yw sut i ddefnyddio'r capasiti ychwanegol hwn i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.

Sefydlwyd Pwyllgor Senedd y Dyfodol i geisio dod o hyd i'r atebion. Mae'r Pwyllgor wedi bod yn casglu barn Aelodau presennol a chyn-Aelodau o'r Senedd, yn ogystal ag edrych ar waith ymchwil academaidd ar drefniadaeth busnes seneddol.

Ar 9 Mai 2025, cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Pwyllgor, gan wneud cyfres o argymhellion i Bwyllgor Busnes y Senedd. Dyma'r corff sy'n gyfrifol am drefnu busnes y Senedd, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r pleidiau gwleidyddol yn y Senedd, a chaiff ei gadeirio gan y Llywydd.

Ffordd newydd o drefnu busnes y Senedd

Un o'r ffyrdd y gellid defnyddio'r capasiti ychwanegol yw drwy gynyddu'r amser y mae'r Senedd yn eistedd mewn Cyfarfod Llawn neu mewn pwyllgorau. Mae'r Pwyllgor yn glir yn ei adroddiad nad yw'r sefyllfa bresennol, lle mae'r Senedd yn cwrdd ddwywaith yr wythnos ar gyfer y Cyfarfod Llawn, yn fodel y dylid ei ystyried ar gyfer y dyfodol.

Mae'n dweud y bydd angen mwy o amser i’r Cyfarfod Llawn mewn Senedd fwy. Gallai hyn gynnig cyfleoedd pellach i graffu ar ddeddfwriaeth, dwyn gweinidogion y llywodraeth i gyfrif neu drafod materion sy'n bwysig i aelodau a phwyllgorau unigol.

Mae'n awgrymu y gellid gwneud hyn drwy gynnal Cyfarfod Llawn am ddiwrnod ychwanegol bob wythnos neu fel rhan o amserlen 'aml-wythnos' o ddwy neu dair wythnos.

Beth yw model aml-wythnos?

Modelau aml-wythnos yw lle mae busnes mewn senedd yn canolbwyntio ar wahanol weithgareddau seneddol ar draws gwahanol wythnosau. Er enghraifft, gallai’r wythnos gyntaf o fusnes ganolbwyntio ar y Cyfarfod Llawn, gyda’r wythnosau eraill yn rhoi mwy o bwyslais ar waith y pwyllgorau neu gyfuniad o'r ddau.

Mae modelau aml-wythnos yn gyffredin mewn llawer o ddeddfwrfeydd eraill, fel Senedd Ewrop a’r Landtag yn Baden-Württemberg yn yr Almaen. Cynhaliodd Ymchwil y Senedd ddadansoddiad cymharol o seneddau eraill â maint a system etholiadol debyg i’r Senedd ar ôl 2026 i gefnogi gwaith y Pwyllgor.

Cytunodd y Pwyllgor ar set o egwyddorion y dylid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ynghylch trefnu busnes y Senedd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Dylai amseroedd gorffen ar gyfer cyfarfodydd y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau fod mor rhagweladwy â phosibl.
  • Rhaid i'r Cyfarfod Llawn gwrdd bob wythnos ar gyfer eitemau busnes hanfodol fel cwestiynau i'r Prif Weinidog.
  • Rhaid cael digon o amser yn y Cyfarfod Llawn i gynnal gwaith craffu effeithiol, a dwyn y llywodraeth i gyfrif, er mwyn i fusnes y llywodraeth gael ei gyflawni’n effeithlon, a thrafod Biliau Aelodau.
  • Rhaid rhoi amser a hyblygrwydd i bwyllgorau gwrdd i ffwrdd o Fae Caerdydd.

Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd drafod a fyddai modd gwneud unrhyw newidiadau i sut mae pwyllgorau'r Senedd yn gweithredu. Daeth i'r casgliad ei bod yn debygol mai dim ond rhywfaint o hyblygrwydd y bydd y nifer ychwanegol o Aelodau yn ei roi i ehangu nifer y pwyllgorau sydd gan y Senedd neu eu maint.

Mae hefyd yn debygol y bydd yn rhaid i’r Aelodau barhau i eistedd ar fwy nag un Pwyllgor. Ar hyn o bryd, mae Aelodau’r meinciau cefn a’r gwrthbleidiau yn aml yn eistedd ar fwy nag un Pwyllgor, yn wahanol i’w cymheiriaid mewn deddfwrfeydd eraill sy’n fwy o faint, fel Tŷ’r Cyffredin yn Senedd y DU.

Mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu y gallai hyn effeithio ar lwythi gwaith yr Aelodau ac felly effeithio ar eu gallu i flaenoriaethu gwaith pwyllgor ymhlith amryw ofynion eraill ar eu hamser.

O ystyried bod creu mwy o gapasiti ar gyfer gwaith craffu pwyllgorau yn rheswm allweddol dros ehangu'r Senedd, mae'r Pwyllgor wedi awgrymu y dylid monitro effaith trefniadau newydd ar yr amser sydd gan yr Aelodau i baratoi ar gyfer gwaith pwyllgor, ac a yw hyn yn arwain at ganlyniadau gwell o ran gwaith craffu.

Mae diwylliant cadarnhaol yr un mor bwysig

Er y gall strwythur busnes y Senedd helpu i wneud gwaith craffu yn fwy effeithiol, mae'r Pwyllgor yn dod i'r casgliad bod y ffordd y mae'r Aelodau’n gwneud y gwaith hwn yr un mor bwysig.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at dystiolaeth sy'n dangos mai’r seneddau sy'n perfformio'n dda yw'r rhai lle mae Aelodau'n gosod disgwyliadau uchel o'i gilydd o ran cyflawni eu rolau. Mae hyn yn arbennig o wir am bwyllgorau.

Dywed y Pwyllgor y dylid cymryd camau i sicrhau bod ymddygiadau seneddol cadarnhaol sydd eisoes wedi'u datblygu yn y Senedd yn cael eu hymgorffori yn nhymor nesaf y Senedd.

Senedd fwy cynrychioliadol

Rhan allweddol o wneud y Senedd yn fwy effeithiol fydd sicrhau ei bod yn cynrychioli holl bobl Cymru.

Archwiliodd y Pwyllgor waith sydd eisoes wedi'i wneud ar y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio swydd etholedig yng Nghymru a ledled y DU.

Roedd yn cydnabod y bydd angen gweithredu y tu mewn a'r tu allan i'r Senedd i fynd i'r afael â'r mater hwn yn llawn. Mae'r Pwyllgor yn awgrymu nifer o gamau ymarferol y gallai'r Senedd eu cymryd i fynd i'r afael â rhwystrau, gan gynnwys:

  • gwella'r cymorth a ddarperir i Aelodau newydd pan fyddant yn dechrau yn eu rolau newydd;
  • darparu gwell rhagweladwyedd ar gyfer amseroedd cychwyn a gorffen i gefnogi Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu; a
  • sefydlu meithrinfa ar y safle i’r Aelodau a defnyddwyr eraill yr ystâd.

Mae'r Pwyllgor yn dweud y dylai cyfranogiad o bell mewn trafodion barhau yn y dyfodol oherwydd y gall hyn gefnogi Aelodau sy'n gorfod rheoli ffactorau fel cyfrifoldebau gofalu a chyflyrau iechyd.

Llawer o benderfyniadau ar y gorwel

Gyda llai na blwyddyn tan yr etholiad, mae angen gwneud lawer o benderfyniadau o hyd i baratoi ar gyfer y Senedd nesaf.

Pwyllgor Busnes y Senedd hon fydd yn gorfod ystyried llawer o argymhellion yr adroddiad hwn.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid aros tan ar ôl yr etholiad cyn gwneud penderfyniadau terfynol ynghylch nifer a maint y pwyllgorau a threfniadau amserlennu. Yn y pen draw, Aelodau newydd y Seithfed Senedd fydd yn gyfrifol am benderfynu ar y ffordd ymlaen.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru