Fersiynau printiedig o Filiau’r Senedd wedi’u pentyrru ar ben bwrdd

Fersiynau printiedig o Filiau’r Senedd wedi’u pentyrru ar ben bwrdd

Nod Bil newydd gan y Senedd yw gwella hygyrchedd cyfraith Cymru

Cyhoeddwyd 24/10/2024   |   Amser darllen munud

Yr wythnos hon, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).

Mae’r Bil yn canolbwyntio ar wella hygyrchedd y gyfraith ac yn gwneud rhai addasiadau pwysig i’r dull o gyhoeddi deddfwriaeth a chraffu arni.

Mae’r Bil yn gwneud pedwar peth:

  • Codeiddio gweithdrefnau’r Senedd ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth;
  • Ffurfioli’r ffordd y caiff deddfwriaeth Cymru ei chyhoeddi;
  • Diddymu deddfau nad ydynt “o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd” mwyach; a
  • Gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

Gwella Hygyrchedd y Gyfraith

Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhaglen ar ddechrau pob tymor o’r Senedd. Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau i:

  • gyfrannu at gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;
  • cynnal ffurf cyfraith Cymru;
  • hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru; a
  • hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

Gall hefyd gynnwys cydweithio â Chomisiwn y Gyfraith ac unrhyw faterion eraill y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Dyfodol cyfraith Cymru, sy’n nodi’r camau y byddai’n eu cymryd yn ystod tymor y Senedd hon i wella hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru. Y Bil hwn yw’r rhan ddiweddaraf o’r rhaglen waith hon.

Byddai’r newidiadau a wneir gan Rannau 1 a 2 o’r Bil yn dod i rym fel Rhannau newydd o Ddeddf 2019 ac Atodlenni newydd iddi.

Codeiddio gwaith y Senedd o graffu ar is-ddeddfwriaeth

Daw llawer o’r gyfraith a wneir yng Nghymru ar ffurf is-ddeddfwriaeth. Fel arfer, gwneir is-ddeddfwriaeth ar ffurf ‘Offeryn Statudol’.

Mae deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau’r Senedd neu Ddeddfau Senedd y DU) yn aml yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth. Gall hyn gynnwys rheoliadau neu orchmynion. Yn gyffredinol, gadewir i is-ddeddfwriaeth fanylu ynghylch sut y bydd deddfau’n gweithredu.

Mae’r gweithdrefnau i’r Senedd graffu ar y ddeddfwriaeth hon yn tarddu o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, sy’n rhagflaenu datganoli. Er bod sawl gweithdrefn yn bodoli, dim ond un y mae Deddf 1946 yn ei nodi – sef y weithdrefn negyddol. Mae’r ddwy weithdrefn gyffredin arall (y weithdrefn gadarnhaol ddrafft a’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’) wedi datblygu drwy arfer a thraddodiad.

Mae Rhan 1 o’r Bil yn ceisio newid hyn drwy ffurfioli’r gweithdrefnau hyn yn dair gweithdrefn newydd i’r Senedd:

  • Byddai Gweithdrefn Gymeradwyo’r Senedd yn disodli’r weithdrefn ‘gadarnhaol ddrafft’ sy’n golygu mai dim ond os caiff yr offeryn statudol ei gymeradwyo drwy bleidlais yn y Senedd y gallai gael ei ddeddfu;
  • Byddai Gweithdrefn Gadarnhau’r Senedd yn disodli’r weithdrefn ‘gadarnhaol gwnaed’ sy’n golygu y byddai’r offeryn statudol yn cael ei ddeddfu pan gaiff ei wneud, ond na all aros mewn grym oni chaiff ei gadarnhau mewn pleidlais gan y Senedd o fewn cyfnod penodol; a
  • Byddai Gweithdrefn Annilysu’r Senedd yn disodli’r ‘weithdrefn negyddol’ sy’n golygu y byddai’r offeryn statudol yn cael ei ddeddfu pan gaiff ei wneud ond y gall y Senedd ei annilysu hyd at 40 niwrnod ar ôl iddo gael ei osod.

Ffurfioli cyhoeddi deddfwriaeth Cymru

Mae’r holl ddeddfwriaeth a wneir gan Senedd y DU a deddfwrfeydd datganoledig yn cael ei chyhoeddi’n ffurfiol. Y Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus sy’n gwneud hyn yn rhinwedd ei swydd fel Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, Argraffydd Llywodraeth Gogledd Iwerddon, ac Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban.

O dan y trefniadau presennol, nid oes sail gyfreithiol i’r Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus (sy’n gweithredu fel Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin) gyhoeddi Deddfau’r Senedd. Mae memorandwm esboniadol y Bil yn nodi bod Argraffydd y Brenin yn cyflawni’r swyddogaeth hon “yn ymarferol”.

Mae Rhan 2 o’r Bil yn ceisio newid hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i Argraffydd y Brenin gyhoeddi Deddfau’r Senedd, gan gynnwys proses fwy ffurfiol ar gyfer eu rhifo.

Mae’r Bil hefyd yn ceisio gwneud newidiadau i’r ffordd y caiff is-ddeddfwriaeth Cymru ei chyhoeddi a’i chofnodi. Ar hyn o bryd, nid oes cysyniad cyfreithiol o ‘Offeryn Statudol Cymru’ mewn ffordd debyg i is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion yr Alban neu Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Yn hytrach, mae is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn rhan o is-set o offerynnau statudol y DU. Mae’r Bil yn ceisio newid hyn drwy ddarparu sail gyfreithiol i’r cysyniad o ‘Offeryn Statudol Cymru’.

‘Tacluso’ y llyfr statud

Mae Rhan 3 o’r Bil yn ceisio cael gwared ar ddeddfau diangen y mae’r memorandwm esboniadol yn nodi nad ydynt “o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach”. Mae Biliau Diddymu o’r math hwn yn gyffredin yn Senedd y DU, ac yn aml maent wedi’u datblygu mewn cydweithrediad â Chomisiwn y Gyfraith. Mae memorandwm esboniadol y Bil yn nodi bod Biliau diddymu yn helpu i:

wella hygyrchedd cyfraith Cymru drwy foderneiddio a symleiddio’r gyfraith, gan leihau maint y llyfr statud a’i wneud yn haws ei ddefnyddio

Mae’r Rhan hon o’r Bil yn cyflwyno Atodlen sy’n diddymu rhannau o 60 darn gwahanol o ddeddfwriaeth. Mae llawer o’r ddeddfwriaeth hon yn ymwneud â chyfraith gynllunio y mae Llywodraeth Cymru’n ystyried ei bod yn “ddiangen”, yn ogystal â chyrff darfodedig fel Byrddau Datblygu Gwledig ac Awdurdod Datblygu Cymru.

Byddai’r Bil hefyd yn diddymu dau ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan y Senedd yn ei gyfanrwydd. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad oes angen y cyntaf o’r rhain – Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 - mwyach oherwydd bod gan Weinidogion Cymru y pŵer erbyn hyn i wneud newidiadau cyfatebol drwy ddiwygio Rheoliadau Adeiladu. Nid oedd yr ail – Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 – ond yn gymwys i gyfnod penodol sydd wedi mynd heibio erbyn hyn, felly mae’r Ddeddf “wedi ei disbyddu yn llwyr”.

Yn 2022, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y rhan fwyaf o’r cynigion ar gyfer diddymu mewn fersiwn ddrafft o’r Bil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru).

Diwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Mae Rhan 4 o’r Bil yn gwneud diwygiadau (a amlinellir yn Atodlen 2 i’r Bil) i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 o ganlyniad i adolygiad o’r Ddeddf a gynhaliodd Llywodraeth Cymru y llynedd. Canfu’r adolygiad hwn y gallai fod yn werth egluro rhai agweddau ar Ran 2 o Ddeddf 2019, yn enwedig o ganlyniad i brofiad Llywodraeth Cymru o ddrafftio Biliau cydgrynhoi. Mae mân ddiwygiadau hefyd yn cael eu gwneud i Ddeddf 2019 o ganlyniad i’r newidiadau a gynigir gan y Bil hwn.

Gwaith craffu’r Senedd ar y Bil

Bydd y Bil yn ddarostyngedig i broses ddeddfwriaethol arferol y Senedd, a bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gyfrifol am graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

Bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf, cyn cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Mae rhagor o wybodaeth am waith craffu’r Pwyllgor ar y Bil ar gael ar wefan y Senedd.


Erthygl gan Josh Hayman ac Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru