cy

cy

Newidiadau ar y brig: uwch strwythur newydd i Lywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 06/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/07/2022   |   Amser darllen munudau

Cymerodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus dystiolaeth yn ddiweddar gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall, am ei gynlluniau ar gyfer y sefydliad a newidiadau i strwythur yr uwch arweinwyr. Yr Ysgrifennydd Parhaol yw’r gwas sifil uchaf yn Llywodraeth Cymru, a dyma oedd ei ail ymddangosiad gerbron y Pwyllgor ers iddo gael ei benodi y llynedd.

Mae'r erthygl hon yn rhoi cyflwyniad i drefniadaeth Llywodraeth Cymru a rôl yr Ysgrifennydd Parhaol, a throsolwg o'r newidiadau.

Gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn ffurfiol. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Gweinidogion Cymru sy'n arfer pwerau a swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yw'r sefydliad sy'n gwasanaethu Gweinidogion Cymru. Mae ganddo oddeutu 5500 o staff parhaol a 400 o staff dros dro. Mae staff Llywodraeth Cymru yn rhan o Wasanaeth Sifil y DU ac yn ddarostyngedig i God y Gwasanaeth Sifil.

Tra bod Llywodraeth y DU yn nodi’r ystod cyflog ar gyfer yr Uwch Wasanaeth Sifil, Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r tâl a’r amodau ar gyfer y rhan fwyaf o’i staff (gradd 6 ac is). Mae gan yr Ysgrifennydd Parhaol gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo gan y Prif Weinidog dros hyn, ynghyd â swyddogaethau personél eraill.

Yr Ysgrifennydd Parhaol

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn gweithredu fel:

  • pennaeth Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru a chadeirydd Bwrdd Llywodraeth Cymru;
  • prif swyddog cyfrifyddu Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am reolaeth ariannol dros £20 biliwn mewn cyllid blynyddol a dangos gwerth am arian; a’r
  • prif gynghorydd polisi i'r Prif Weinidog a'r Cabinet, gan fynychu'r Cabinet i gefnogi'r Prif Weinidog.

Prif Weinidog y DU, fel Gweinidog y Gwasanaeth Sifil, sydd â’r pŵer i benodi’r ysgrifennydd parhaol yn ffurfiol. Fodd bynnag, mae bellach yn gonfensiwn i'r Prif Weinidog wneud y penodiad mewn cytundeb gydag Ysgrifennydd y Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Sifil yn Llywodraeth y DU. Comisiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n rheoleiddio’r broses benodi i sicrhau bod y gystadleuaeth yn deg ac yn agored.

Mae mwy nag un ffordd i Ysgrifennydd Parhaol gael ei benodi:

Ac yntau’n gyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus a Phrif Weithredwr GIG Cymru, cafodd Dr Andrew Goodall ei benodi fel yr Ysgrifennydd Parhaol newydd ym mis Medi 2021. Mae'r penodiad am gyfnod o bum mlynedd.

Uwch strwythur newydd

Mae'r Ysgrifennydd Parhaol yn arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth tîm o gyfarwyddwyr cyffredinol.

Ym mis Mawrth 2022, ysgrifennodd Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd i nodi newidiadau i uwch strwythur Llywodraeth Cymru. Daeth y newidiadau i rym drannoeth. Cyhoeddwyd siart sefydliad newydd ar 6 Mai.

Yn y llythyr at y Pwyllgor, dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol ei fod yn gobeithio y byddai'r ailstrwythuro'n “caniatáu i wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth mwy uniongyrchol ar lefel uchel iawn i’r portffolios Gweinidogol ac i gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu”.

Mae'r strwythur newydd yn newid swyddogaethau cyfarwyddwyr cyffredinol ac yn cynyddu eu nifer o bedwar i chwech, gan gynnwys Prif Swyddog Gweithredu newydd. Mae rôl y Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol yn benodiad dros dro, a’r disgwyl yw y bydd yn dod i ben yn 2023. Bydd pob cyfarwyddwr cyffredinol yn arwain grŵp neu adran o Lywodraeth Cymru.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ailstrwythuriadau ar lefel uwch i Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cynyddu nifer y cyfarwyddwyr cyffredinol i’r lefel uchaf ers 2015.

Gofynnodd y Pwyllgor i’r Ysgrifennydd Parhaol am oblygiadau ariannol y strwythur newydd ar gyfer y cyfarwyddwr cyffredinol. Dywedodd, gan nad yw rôl y Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol yn barhaol, ei fod yn disgwyl i’r unig gost ychwanegol ymwneud â swydd y prif swyddog gweithredu. Hysbysebwyd y rôl newydd hon gyda chyflog o c. £120,000.

Ailstrwythuro blaenorol Llywodraeth Cymru

  • Cyn 2015, roedd yr Ysgrifennydd Parhaol yn arwain tîm o chwe chyfarwyddwr cyffredinol, gyda phob un yn arwain adran o fewn y llywodraeth..
  • Yn 2015, disodlodd Syr Derek Jones, yr Ysgrifennydd Parhaol ar y pryd, y strwythur adrannol hwn gyda phedwar grŵp, dan ei arweiniad ef, dau ddirprwy ysgrifennydd parhaol, ac un cyfarwyddwr cyffredinol. Dywedodd Syr Derek bod hyn yn fwy darbodus, yn rhoi cyfeiriad cliriach, ac yn galluogi mwy o gydweithio ar flaenoriaethau'r Llywodraeth.
  • Yn 2018, cyflwynodd y Fonesig Shan Morgan strwythur pum grŵp, gan greu grwpiau dan ei harweiniad hi a phedwar cyfarwyddwr cyffredinol, a dileu teitl y dirprwy ysgrifennydd parhaol. Y bwriad yn wreiddiol oedd i rôl y cyfarwyddwr cyffredinol ychwanegol fod yn swydd dros dro i reoli effaith Brexit.

Mae'r ailstrwythuro ar lefel uwch yn dilyn cynnydd o £19.7 miliwn (neu bron 10 y cant) yn llinell y gyllideb ar gyfer costau staff yn Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Defnyddiwyd y cyllid ychwanegol hwn i recriwtio tua 20 o uwch weision sifil ychwanegol ar lefel dirprwy gyfarwyddwr, ymhlith pethau eraill.

Alinio cyfarwyddiaethau a phortffolios gweinidogion

Mae'r strwythur newydd yn alinio rolau cyfarwyddwyr cyffredinol â phortffolios gweinidogion. I'r gwrthwyneb, yn uwch strwythur blaenorol Llywodraeth Cymru, nid oedd unrhyw aliniad ffurfiol rhwng rolau cyfarwyddwyr cyffredinol a phortffolios gweinidogion.

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi dweud y disgwylir yn awr i bob cyfarwyddwr cyffredinol gefnogi tri gweinidog ar y mwyaf. O dan y strwythur blaenorol, roedd cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol wedi cefnogi saith neu wyth o weinidogion. Dywedodd Dr Goodall ei fod yn gobeithio y byddai'r ailstrwythuro yn galluogi'r gwasanaeth sifil i "ddarparu set fwy cytbwys o gyfrifoldebau i Gyfarwyddwyr Cyffredinol”, a thrwy hynny gefnogi gwydnwch a llesiant.

Gofynnodd y Pwyllgor i Dr Goodall sut y byddai'r strwythur newydd yn parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau trawslywodraethol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol fod hyn yn un o egwyddorion allweddol y strwythurau newydd a’i fod wedi gofyn i Fwrdd Llywodraeth Cymru barhau i adolygu hyn.

Prif Swyddog Gweithredu newydd

Mewn newid sylweddol i gyfrifoldebau ar frig Llywodraeth Cymru, mae'r uwch strwythur newydd yn cyflwyno rôl Prif Swyddog Gweithredu. Bydd y Prif Swyddog Gweithredu’n gyfrifol am gynnig arweinyddiaeth i gyfarwyddiaethau gan gynnwys pobl a lleoedd, cyllid a gwasanaethau digidol a dadansoddi. Cyhoeddwyd  penodiad i'r swydd ar 1 Mehefin.

Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn parhau i arwain Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Bydd hefyd yn arwain Grŵp yr Ysgrifennydd Parhaol, gan gynnwys Swyddfa’r Prif Weinidog, Uned y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a phriodoldeb a moeseg.

Roedd creu rôl y Prif Swyddog Gweithredu wedi bod yn uchelgais i'r Prif Weinidog ers o leiaf ddechrau'r Chweched Senedd. Ym mis Mai 2021, dywedodd wrth y Senedd y byddai penodi Prif Swyddog Gweithredu yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Parhaol "helpu i sicrhau bod y rhaglen lywodraethu'n llwyddo”.

Y camau nesaf

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn parhau i oruchwylio'r gwaith o weinyddu Llywodraeth Cymru ac yn ystyried sut mae'r newidiadau diweddar hyn ar gyfer staff uwch yn gweithio'n ymarferol. Gallwch ddysgu mwy am waith y Pwyllgor a'i ddull ar gyfer craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus ar wefan y Senedd.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru