Cymerodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus dystiolaeth yn ddiweddar gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall, am ei gynlluniau ar gyfer y sefydliad a newidiadau i strwythur yr uwch arweinwyr. Yr Ysgrifennydd Parhaol yw’r gwas sifil uchaf yn Llywodraeth Cymru, a dyma oedd ei ail ymddangosiad gerbron y Pwyllgor ers iddo gael ei benodi y llynedd.
Mae'r erthygl hon yn rhoi cyflwyniad i drefniadaeth Llywodraeth Cymru a rôl yr Ysgrifennydd Parhaol, a throsolwg o'r newidiadau.
Gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn ffurfiol. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Gweinidogion Cymru sy'n arfer pwerau a swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yw'r sefydliad sy'n gwasanaethu Gweinidogion Cymru. Mae ganddo oddeutu 5500 o staff parhaol a 400 o staff dros dro. Mae staff Llywodraeth Cymru yn rhan o Wasanaeth Sifil y DU ac yn ddarostyngedig i God y Gwasanaeth Sifil.
Tra bod Llywodraeth y DU yn nodi’r ystod cyflog ar gyfer yr Uwch Wasanaeth Sifil, Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r tâl a’r amodau ar gyfer y rhan fwyaf o’i staff (gradd 6 ac is). Mae gan yr Ysgrifennydd Parhaol gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo gan y Prif Weinidog dros hyn, ynghyd â swyddogaethau personél eraill.
Yr Ysgrifennydd Parhaol
Mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn gweithredu fel:
- pennaeth Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru a chadeirydd Bwrdd Llywodraeth Cymru;
- prif swyddog cyfrifyddu Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am reolaeth ariannol dros £20 biliwn mewn cyllid blynyddol a dangos gwerth am arian; a’r
- prif gynghorydd polisi i'r Prif Weinidog a'r Cabinet, gan fynychu'r Cabinet i gefnogi'r Prif Weinidog.
Prif Weinidog y DU, fel Gweinidog y Gwasanaeth Sifil, sydd â’r pŵer i benodi’r ysgrifennydd parhaol yn ffurfiol. Fodd bynnag, mae bellach yn gonfensiwn i'r Prif Weinidog wneud y penodiad mewn cytundeb gydag Ysgrifennydd y Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Sifil yn Llywodraeth y DU. Comisiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n rheoleiddio’r broses benodi i sicrhau bod y gystadleuaeth yn deg ac yn agored.
Mae mwy nag un ffordd i Ysgrifennydd Parhaol gael ei benodi:
- Yn gyffredinol, Prif Weinidog y DU sydd â’r pŵer i reoli’r Gwasanaeth Sifil, a hynny yn rhinwedd ei rôl fel Gweinidog y Gwasanaeth Sifil. Mae hyn yn cynnwys y pŵer i benodi gweision sifil. Gall Prif Weinidog y DU ddirprwyo'r pŵer hwn, er enghraifft i Ysgrifennydd y Cabinet fel Pennaeth y Gwasanaeth Sifil neu i Weinidogion Cymru.
- Mae gan Weinidogion Cymru hefyd y pŵer i benodi personau i fod yn aelodau o staff Llywodraeth Cymru.
Ac yntau’n gyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus a Phrif Weithredwr GIG Cymru, cafodd Dr Andrew Goodall ei benodi fel yr Ysgrifennydd Parhaol newydd ym mis Medi 2021. Mae'r penodiad am gyfnod o bum mlynedd.
Uwch strwythur newydd
Mae'r Ysgrifennydd Parhaol yn arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth tîm o gyfarwyddwyr cyffredinol.
Ym mis Mawrth 2022, ysgrifennodd Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd i nodi newidiadau i uwch strwythur Llywodraeth Cymru. Daeth y newidiadau i rym drannoeth. Cyhoeddwyd siart sefydliad newydd ar 6 Mai.
Yn y llythyr at y Pwyllgor, dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol ei fod yn gobeithio y byddai'r ailstrwythuro'n “caniatáu i wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth mwy uniongyrchol ar lefel uchel iawn i’r portffolios Gweinidogol ac i gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu”.
Mae'r strwythur newydd yn newid swyddogaethau cyfarwyddwyr cyffredinol ac yn cynyddu eu nifer o bedwar i chwech, gan gynnwys Prif Swyddog Gweithredu newydd. Mae rôl y Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol yn benodiad dros dro, a’r disgwyl yw y bydd yn dod i ben yn 2023. Bydd pob cyfarwyddwr cyffredinol yn arwain grŵp neu adran o Lywodraeth Cymru.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ailstrwythuriadau ar lefel uwch i Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cynyddu nifer y cyfarwyddwyr cyffredinol i’r lefel uchaf ers 2015.
Gofynnodd y Pwyllgor i’r Ysgrifennydd Parhaol am oblygiadau ariannol y strwythur newydd ar gyfer y cyfarwyddwr cyffredinol. Dywedodd, gan nad yw rôl y Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol yn barhaol, ei fod yn disgwyl i’r unig gost ychwanegol ymwneud â swydd y prif swyddog gweithredu. Hysbysebwyd y rôl newydd hon gyda chyflog o c. £120,000.
Ailstrwythuro blaenorol Llywodraeth Cymru
|
Mae'r ailstrwythuro ar lefel uwch yn dilyn cynnydd o £19.7 miliwn (neu bron 10 y cant) yn llinell y gyllideb ar gyfer costau staff yn Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Defnyddiwyd y cyllid ychwanegol hwn i recriwtio tua 20 o uwch weision sifil ychwanegol ar lefel dirprwy gyfarwyddwr, ymhlith pethau eraill.
Alinio cyfarwyddiaethau a phortffolios gweinidogion
Mae'r strwythur newydd yn alinio rolau cyfarwyddwyr cyffredinol â phortffolios gweinidogion. I'r gwrthwyneb, yn uwch strwythur blaenorol Llywodraeth Cymru, nid oedd unrhyw aliniad ffurfiol rhwng rolau cyfarwyddwyr cyffredinol a phortffolios gweinidogion.
Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi dweud y disgwylir yn awr i bob cyfarwyddwr cyffredinol gefnogi tri gweinidog ar y mwyaf. O dan y strwythur blaenorol, roedd cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol wedi cefnogi saith neu wyth o weinidogion. Dywedodd Dr Goodall ei fod yn gobeithio y byddai'r ailstrwythuro yn galluogi'r gwasanaeth sifil i "ddarparu set fwy cytbwys o gyfrifoldebau i Gyfarwyddwyr Cyffredinol”, a thrwy hynny gefnogi gwydnwch a llesiant.
Gofynnodd y Pwyllgor i Dr Goodall sut y byddai'r strwythur newydd yn parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau trawslywodraethol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol fod hyn yn un o egwyddorion allweddol y strwythurau newydd a’i fod wedi gofyn i Fwrdd Llywodraeth Cymru barhau i adolygu hyn.
Prif Swyddog Gweithredu newydd
Mewn newid sylweddol i gyfrifoldebau ar frig Llywodraeth Cymru, mae'r uwch strwythur newydd yn cyflwyno rôl Prif Swyddog Gweithredu. Bydd y Prif Swyddog Gweithredu’n gyfrifol am gynnig arweinyddiaeth i gyfarwyddiaethau gan gynnwys pobl a lleoedd, cyllid a gwasanaethau digidol a dadansoddi. Cyhoeddwyd penodiad i'r swydd ar 1 Mehefin.
Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn parhau i arwain Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Bydd hefyd yn arwain Grŵp yr Ysgrifennydd Parhaol, gan gynnwys Swyddfa’r Prif Weinidog, Uned y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a phriodoldeb a moeseg.
Roedd creu rôl y Prif Swyddog Gweithredu wedi bod yn uchelgais i'r Prif Weinidog ers o leiaf ddechrau'r Chweched Senedd. Ym mis Mai 2021, dywedodd wrth y Senedd y byddai penodi Prif Swyddog Gweithredu yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Parhaol "helpu i sicrhau bod y rhaglen lywodraethu'n llwyddo”.
Y camau nesaf
Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn parhau i oruchwylio'r gwaith o weinyddu Llywodraeth Cymru ac yn ystyried sut mae'r newidiadau diweddar hyn ar gyfer staff uwch yn gweithio'n ymarferol. Gallwch ddysgu mwy am waith y Pwyllgor a'i ddull ar gyfer craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus ar wefan y Senedd.
Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru