Nod addasu hinsawdd yw lleihau’r risgiau y mae newid hinsawdd yn eu gosod, ac elwa o unrhyw gyfleoedd cysylltiedig lle bo hynny’n bosibl. Dyma yw un o ddau brif ymateb polisi i newid hinsawdd, ochr yn ochr â lliniaru (lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr). Mae’r ddau ymateb yn angenrheidiol oherwydd, hyd yn oed os bydd allyriadau’n gostwng yn sylweddol, ystyrir bod cynhesu pellach yn anochel. Bydd angen addasu i ymdrin â newidiadau hinsoddol sydd eisoes ar waith.
Ar 9 Awst 2021, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) ei adroddiad asesu diweddaraf. Cafodd yr adroddiad sylw ar draws y byd. Galwodd y Cenhedloedd Unedig yr adroddiad yn “god coch” ar gyfer dynoliaeth, gan nodi bod dylanwad dynol yn bendant wedi cynhesu’r atmosffer, y cefnfor a’r tir a
The scale of recent changes across the climate system as a whole and the present state of many aspects of the climate system are unprecedented over many centuries to many thousands of years.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys tystiolaeth glir. Amlygodd, er enghraifft, mai’r pum mlynedd diwethaf yw’r poethaf a gofnodwyd ers 1850, bod y gyfradd ddiweddar yng nghodiad lefel y môr bron wedi treblu o’i gymharu â 1901-1971, a bod hi’n 90% sicr mai dylanwad dynol yw prif sbardun y ciliad mewn rhewlifoedd a gostyngiad yn rhew môr yr Arctig.
Mae ein cyhoeddiad newydd yn edrych ar y cyd-destun byd-eang ar gyfer addasu hinsawdd, yn amlinellu cynnydd yng Nghymru a’r DU, ac yn esbonio’r fframwaith yng Nghymru. Mae’n edrych ar adroddiadau diweddar gan yr IPCC a’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, cynllun addasu hinsawdd Llywodraeth Cymru, a risgiau y mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu hachosi i Gymru.
Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru