Delwedd addurniadol: menyw hŷn a menyw iau yn cerdded gyda'i gilydd y tu allan

Delwedd addurniadol: menyw hŷn a menyw iau yn cerdded gyda'i gilydd y tu allan

Newid y sgwrs am iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 27/04/2023   |   Amser darllen munud

Ar ddechrau’r Chweched Senedd, gwnaeth ein herthygl materion o bwys nodi’r prif heriau a chyfleoedd ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Un o’r negeseuon allweddol oedd y ffaith nad yw ‘iechyd meddwl’ yn dod o dan ymbarél y GIG yn unig; mae’n fater iechyd cyhoeddus sydd â phwysigrwydd ehangach o lawer. Mae angen gwella gwasanaethau iechyd meddwl, ond mae angen inni edrych y tu hwnt i’r gwasanaethau hynny hefyd.

Penderfynyddion iechyd meddwl

Mae ein hiechyd meddwl, i raddau helaeth, wedi’i ffurfio gan yr amgylcheddau cymdeithasol, economaidd a ffisegol yr ydym yn byw ynddynt. Er y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, mae rhai grwpiau o bobl yn wynebu lefel anghymesur o risg. Mae hyn yn aml yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â nodweddion gwarchodedig a ffactorau eraill megis incwm, tai, mynediad at addysg a chyflogaeth. Roedd yr erthygl a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2022 yn canolbwyntio ar dlodi, gan ei fod yn un o’r ffactorau allweddol sy’n cyfrannu at iechyd meddwl gwael.

Ar gyfer iechyd meddwl da, rhaid diwallu anghenion 'perthynol' pobl (h.y. cael perthynas ddiogel a chefnogol gyda theulu, ffrindiau, a chymunedau) hefyd. Mae cysylltiad ac ymdeimlad o berthyn yn hanfodol. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol sy’n eu hatal rhag cael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau pob dydd. Mae effaith unigrwydd ac unigedd yn bryder cynyddol ym maes iechyd cyhoeddus.

Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad ynghylch mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl. Roedd yr adroddiad hwnnw’n galw am naratif mwy clir a chydlynol ynghylch iechyd meddwl, a’r ffaith ei fod yn golygu mwy na phresenoldeb neu absenoldeb salwch meddwl. Mae angen llawer mwy o ffocws ar y pethau sy’n achosi iechyd meddwl gwael, a sut mae mynd ati i sicrhau llesiant meddyliol. Daw’r adroddiad i’r casgliad na fydd iechyd meddwl y boblogaeth yn gwella (ac y bydd yn parhau i ddirywio) oni bai bod camau gweithredu effeithiol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael ag effaith trawma, ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas a phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl:

Rhaid i'r neges hon, ynghyd ag uchelgais glir i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl, fod yn ganolog i strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn, mae ei hymateb i’r argymhelliad allweddol hwn yn gryno iawn, ac nid yw’n glir i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn rhannu’r uchelgais a fynegir yn adroddiad y Pwyllgor. Mae Platfform, elusen sy’n hyrwyddo iechyd meddwl a newid cymdeithasol, o’r farn bod hwn yn gyfle wedi’i golli:

This could have been another bold watershed moment in our country, to set a new direction in public services and beyond. Instead, it feels like the depth of the report, and the implications for Wales, were missed. We need clear vision and leadership to drive the shift needed here.

Bu grŵp cynghori ag ystod o brofiadau byw yn gweithio ochr yn ochr â’r Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwn. Mynegodd y grŵp hwnnw siom hefyd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod diffyg eglurder, ymrwymiad, a dealltwriaeth ynghylch y problemau y mae pobl sy’n destun anghydraddoldebau iechyd meddwl yn eu hwynebu.

Model meddygol

Wrth roi tystiolaeth yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor, disgrifiodd rhanddeiliaid fodel hen ffasiwn ar gyfer iechyd meddwl nad yw’n gallu ymdopi ag anghenion ehangach pobl. Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn tueddu i fod yn seiliedig ar fodel meddygol o salwch. Mae’r diagnosis a roddir yn arwain y cymorth/triniaeth a ddarperir, ond mae’r anghenion dynol sy’n sail i anawsterau iechyd meddwl unigolyn yn aml yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru.

Gall pobl sydd â chyflyrau sy'n cyd-ddigwydd, neu sydd â 'diagnosis deuol', ei chael hi'n anodd iawn sicrhau mynediad at gymorth. Gall hyn fod yn broblem benodol i bobl niwrowahanol, neu bobl sydd ag anableddau dysgu, a phobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae’r elusen niwroamrywiaeth ADHD Foundation, er enghraifft, yn nodi bod gwasanaethau cwnsela yn cael eu gwrthod i rai plant sy'n cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS), gan gynnwys mewn achosion o hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, neu geisio cyflawni hunanladdiad, a hynny gan fod eu problemau’n cael eu priodoli i anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys 27 o argymhellion eang eu cwmpas, gan gynnwys y camau gweithredu a ganlyn:

  • gwella hygyrchedd gwasanaethau;
  • datblygu capasiti’r gweithlu iechyd meddwl a’r gweithlu ehangach er mwyn diwallu anghenion amrywiol;
  • datblygu presgripsiynu cymdeithasol;
  • cryfhau’r ddarpariaeth ar gyfer pobl niwrowahanol, pobl sy’n wynebu rhwystrau iaith/cyfathrebu, a phobl sydd â salwch meddwl difrifol.

Pwerau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl

Er mwyn deall yn union pa mor bell y gall Llywodraeth Cymru fynd wrth geisio gwella iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth, gofynnodd y Pwyllgor am ‘arfarniad gonest’ o ba ysgogiadau polisi, deddfwriaethol ac ariannol ar gyfer mynd i’r afael â thlodi a phenderfynyddion cymdeithasol eraill iechyd meddwl sydd o fewn rheolaeth Lywodraeth Cymru.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi bod ei gallu i drechu tlodi yn gyfyngedig: “Er mwyn lleihau lefelau tlodi yn sylweddol, byddai angen i Lywodraeth y DU newid ei dull gweithredu mewn ffordd radical.” Fodd bynnag, nid yw'r ymateb yn cyfeirio at benderfynyddion iechyd meddwl eraill, gan gynnwys y rhai y mae gan y Llywodraeth fwy o reolaeth drostynt (megis tai, trafnidiaeth, cydlyniant cymunedol, mynediad at addysg a chyflogaeth).

Mae gweithredu yn hanfodol

Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor, gwnaeth rhanddeiliaid ddisgrifio Cymru fel gwlad sy’n arwain y ffordd o ran ei deddfwriaeth ynghylch cenedlaethau'r dyfodol a’i dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol.

Mae nifer o fframweithiau perthnasol hefyd wedi'u sefydlu, neu wrthi'n cael eu datblygu, gan gynnwys fframwaith sy’n ystyriol o drawma, y fframwaith NYTH (adnodd cynllunio ar gyfer datblygu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl i blant), a fframwaith presgripsiynu cymdeithasol. Mae rhanddeiliaid wedi croesawu’r fframweithiau hyn, ond maent yn galw am eglurder ynghylch sut y byddant yn arwain at newidiadau ystyrlon ar lawr gwlad.

At ddibenion mynd i'r afael â rhai o'r pryderon ynghylch y 'bwlch gweithredu', bwriad nifer o argymhellion y Pwyllgor yw gwella monitro ac atebolrwydd mewn perthynas â’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl – er enghraifft, drwy ddatblygu ffyrdd o fesur canlyniadau ac adrodd yn rheolaidd ar gynnydd.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd ymgynghoriad ynghylch y strategaeth a fydd yn olynu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd 2023. Disgwylir i’r strategaeth newydd fod yn gynhwysfawr, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd lleihau anghydraddoldebau iechyd meddwl yn un o’r “egwyddorion sylfaenol”. Serch hynny, mae rhanddeiliaid yn cwestiynu a fydd strategaeth iechyd meddwl ar ei phen ei hun yn ddigon i wyrdroi’r lefel gynyddol o salwch meddwl sydd i’w gweld ymhlith y boblogaeth. Fel sydd wedi’i nodi yn adroddiad y Pwyllgor, yr hyn sydd ei angen yw dull trawslywodraethol o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, gan greu’r amodau i bobl ffynnu, a’r strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd i sicrhau bod newid system gyfan yn cael ei roi ar waith.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddydd Mercher 3 Mai 2023. Gallwch wylio’r ddadl hon ar Senedd.tv.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru