Mae'r rheilffyrdd wedi dominyddu'r newyddion yr haf hwn drwy streiciau parhaus. Ond y tu ôl i'r penawdau mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiwygio'r ffordd y maent yn gweithio.
Mae Llywodraeth y DU wedi disgrifio ei chynlluniau fel y diwygiad mwyaf i'r rheilffordd ers tri degawd. Yn y cyfamser, mae’r RMT ac ASLEF, sef dau o’r undebau mwyaf y tu ôl i’r streiciau, wedi galw'r cynlluniau yn gyfle a gollwyd.
Ond pam mae angen newidiadau, beth sy'n cael ei gynnig, a beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?
Rhwydwaith o draciau yn erbyn trenau
Mae system reilffyrdd Prydain Fawr yn gymhleth. Network Rail sy'n berchen ar y rhan fwyaf o seilwaith rheilffyrdd ac yn ei weithredu, ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU neu’r awdurdodau datganoledig sy’n gyfrifol am reoli'r gwasanaethau sy'n rhedeg ar y seilwaith hwnnw. Mae'r system reilffyrdd yn ei chyfanrwydd wedi'i neilltuo i San Steffan, gyda phwerau gweithredol mewn rhai meysydd wedi'u datganoli i Gymru a'r Alban.
O dan y model masnachfreinio presennol, mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu rhedeg gan gwmnïau gweithredu trenau preifat fel arfer. Mae'r awdurdod masnachfreinio yn nodi manyleb y mae cwmniau gweithredu trenau yn gwneud cais i'w weithredu. Gall y cwmniau hyn osod amserlenni ac maent yn gwneud elw o refeniw tocynnau, ond maent hefyd yn ysgwyddo’r risg - mater a amlygwyd i’r eithaf gan bandemig Covid-19.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am osod Masnachfraint Cymru a'r Gororau, a ddyfarnwyd yn 2018 drwy Trafnidiaeth Cymru.
Ar wahân i Linellau Craidd y Cymoedd, a drosglwyddodd i berchnogaeth Llywodraeth Cymru yn 2020, nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli yng Nghymru (yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Yr Alban).
Mae Llywodraeth Cymru ac eraill wedi dadlau o blaid datganoli seilwaith rheilffyrdd ers amser maith. Mae dadleuon yn ymwneud â thanariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi cael eu hailadrodd droeon hefyd. Nid aeth Adolygiad Cysylltedd yr Undeb gan Peter Hendy mor bell ag argymell datganoli seilwaith rheilffyrdd, ond fe wnaeth argymell bod Llywodraeth y DU yn gwella seilwaith rheilffyrdd i wella cysylltedd i mewn i Gymru ac allan ohoni.
Y pandemig yn cyflymu'r cynlluniau
Roedd effaith y pandemig ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ddigynsail. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bu gostyngiad o 95 y cant yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn nyddiau cynnar y pandemig o'i gymharu â'r defnydd yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Hyd yn oed ddwy flynedd yn ddiweddarach nid yw nifer y teithwyr wedi’i adfer yn llawn. Clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith amrywiaeth o dystiolaeth yn ystod ei ymchwiliad diweddar i deithio ar fysiau a’r rheilffordd bod nifer y teithwyr yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig.
Achosodd y gostyngiad enfawr mewn teithwyr yn 2020 i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu.
Cyflwynodd Llywodraeth y DU fesurau brys ar gyfer y masnachfreintiau rheilffordd y mae'n eu goruchwylio, tra yng Nghymru cymerodd Trafnidiaeth Cymru reolaeth gyhoeddus uniongyrchol o wasanaethau rheilffordd fel "gweithredwr pan fetha popeth arall". Disgwylir i’r trefniant hwn bara o leiaf bum mlynedd .
Mae Llywodraeth y DU ei hun wedi derbyn bod y system masnachfreinio mewn trafferthion hyd yn oed cyn y pandemig. Roedd masnachfreintiau yn Lloegr wedi methu ac roedd eraill yn mynd ar yr un trywydd. Roedd eisoes wedi dechrau adolygiad trwyadl o'r rheilffyrdd – Adolygiad Williams - ac roedd ar fin cyhoeddi Papur Gwyn yn 2020 pan darodd y pandemig.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin, eglurodd y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth fod yr angen am fesurau brys wedi "disodli" llawer o argymhellion adolygiad Williams. Dywedodd:
Coronavirus…has changed the picture, because we have now ended up holding the entire network in our hands…It has potentially speeded things up.
Newid trenau - Diwygiad Llywodraeth y DU
Yn 2021 cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Williams-Shapps ar gyfer y rheilffyrdd ac fe’i disgrifiodd fel y diwygiad mwyaf i'r rheilffordd ers tri degawd.
O dan y cynlluniau, bydd ‘meddwl arweiniol’ canolog newydd – Great British Railways (GBR) – yn integreiddio traciau a threnau gan ddod â'r system gyfan at ei gilydd yn hytrach na'r dull tameidiog presennol. Y nôd ar gyfer GBR yw:
.…run and plan the rail network, own the infrastructure, and receive the fare revenue. It will procure passenger services and set most fares and timetables.
Sefydlwyd tîm pontio GBR ac mae hwnnw wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu Cynllun Strategol 30 mlynedd ar gyfer y Diwydiant Cyfan. Mae’r broses o ddewis lleoliad ar gyfer pencadlys GBR hefyd ar y gweill a datgelwyd y brandio.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnig rhoi terfyn ar fasnachfreinio, gan symud at ddull consesiynau sy'n seiliedig ar ffioedd. Byddai GBR yn nodi pethau fel brandio ac amserlenni ac yn caffael gweithredwr i ddarparu'r gwasanaeth yn unol â’i ofynion trwy Gontractau Gwasanaeth Teithwyr. O dan y model hwn, y sector cyhoeddus fyddai'n ysgwyddo’r risg refeniw i raddau helaeth.
Yn Araith y Frenhines yn 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gyflwyno Bil Trafnidiaeth a fyddai'n cynnwys darpariaethau i roi i GBR y pwerau statudol sydd eu hangen arno. Mae eisoes wedi dechrau ar ei hymgynghoriad.
Signalau i Gymru
Dywed Cynllun Williams-Shapps y bydd yr awdurdodau datganoledig yn parhau i arfer eu pwerau presennol fel dyfarnu contractau a phennu prisiau tocynnau. Mae hefyd yn dweud yr ymchwilir i gytundeb cydweithio rhwng Trafnidiaeth Cymru a GBR.
Y tu hwnt i hyn, nid oes llawer o fanylion ynghylch sut y bydd y cynllun yn effeithio ar reilffyrdd datganoledig.
Yn gynharach yn 2022, dywedodd arweinydd tîm pontio GBR wrth Bwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin eu bod yn ymroddedig iawn i GBR fod yn endid sydd wedi'i ddatganoli'n fawr. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn pryderu:
…the new GBR will be solely answerable to the UK Government, including over the operation and performance of all rail services into and out of Wales…
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud nad yw GBR yn dangos llawer o arwydd o fod yn drefniant cydweithredol.
Gofynnwyd hefyd a fyddai Cymru yn elwa o'r cynlluniau ai peidio.
Wrth roi tystiolaethi Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, dywedodd Transport Focus nad oedd yn glir sut y byddai integreiddio fertigol o draciau a threnau, sef un o fanteision allweddol y dull arfaethedig, yn berthnasol pe bai Trafnidiaeth Cymru yn caffael gwasanaethau Cymru. Yn ôl yr Athro Mark Barry, er bod y cynllun yn cyflwyno cynigion synhwyrol iawn, y mater allweddol i Gymru yw nad yw'n mynd i'r afael â thanfuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Awgrymodd:
The issue for Wales is not whether it's vertically integrated or not, it's whether we've got enough money to invest in our network, to expand the network capability, so we can operate more services.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi mynegi pryderon. Mae ei Brif Weithredwr, James Price, wedi awgrymu y byddai tâl yn cael ei godi ar Drafnidiaeth Cymru na fyddai o reidrwydd yn ddewisol. Defnyddiwyd tocynnau fel enghraifft lle nad yw systemau ar lefel y DU yn gwneud yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru am iddynt ei wneud.
Mynegodd Trafnidiaeth Cymru bryder bod GBR yn ymwneud yn llwyr â'r rheilffyrdd, lle mae angen dull aml-foddol o gynllunio'r rhwydwaith. Caiff y meddyliau hyn eu hategu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn enwedig yn sgil cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau bysiau a'r angen i integreiddio.
Amser a ddengys beth yw goblygiadau llawn diwygiadau'r DU i Gymru, ond mae'n ymddangos fel bod llawer o brif ofynion Llywodraeth Cymru o ddechrau'r broses ddiwygio yn dal heb adael yr orsaf.
Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru