Mynediad i bob ardal neu wedi colli’r bws? Monitro effaith COVID-19 ar wasanaethau bysiau Cymru

Cyhoeddwyd 07/04/2022   |   Amser darllen munud

Mae academyddion ym Mhrifysgol De Cymru, a ariennir gan WISERD, wedi edrych ar sut mae’r pandemig wedi effeithio ar lefelau gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae eu herthygl wadd yn trafod sut mae’r ardaloedd mwyaf difreintiedig – lle mae pobl yn dibynnu fwyaf ar wasanaethau bws – wedi cael eu taro galetaf.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i lawer o bobl er mwyn cael mynediad at wasanaethau, ac eto mae llawer o Gymru wedi dioddef dirywiad mewn gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig oherwydd bod llwybrau wedi’u tynnu’n ôl, a’u bod yn rhedeg yn llai aml ar hyd llwybrau, neu oherwydd y cafwyd gwared ar arosfannau bysiau.

Cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru bapur i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith sy’n nodi nad oes gan tua 13% o aelwydydd Cymru gar, a bod 25% o ddefnyddwyr bysiau yn anabl neu â salwch hirdymor. Mewn dadl ddiweddar yn y Senedd ar drafnidiaeth wledig tynnodd cyfranwyr sylw hefyd at rôl gwasanaethau trafnidiaeth wrth fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Mae pandemig COVID-19 wedi tarfu’n ddifrifol ar batrymau symudedd gyda gofynion ‘gweithio gartref’ a chadw pellter cymdeithasol yn effeithio ar y galw am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Er gwaethaf cefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaethau bysiau drwy’r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau, tynnwyd rhai gwasanaethau yn ôl, a lleihawyd eraill yn sylweddol.

I asesu effaith y pandemig rydym wedi cymharu data ar wasanaethau bysiau Cymru rhwng Awst 2019 ac Awst 2021, ac edrychwyd ar ddata ar seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae ein dadansoddiad yn awgrymu y cafwyd gwared â 690 o arosfannau bysiau (tua 3%) ledled Cymru. Yn ogystal, roedd 150 yn llai o lwybrau bysiau yn gweithredu (colled o bron i 15%), gydag amlder gwasanaethau ar y llwybrau eraill yn gostwng 22%. Yn gyffredinol, gostyngodd y cyfleoedd i ddal bws (unrhyw fws, yn cyrraedd unrhyw safle bws, ar unrhyw adeg) o 1.875 miliwn i 1.446 miliwn yr wythnos.

Mae ymchwil gan Brifysgol De Cymru, a ariennir gan fenter Sefydliad Ymchwil a Data Economaidd-Gymdeithasol Cymru (WISERD) ESRC, wedi ystyried goblygiadau ehangach y newidiadau hyn. Yn benodol, edrychwyd ar sut yr oeddent yn effeithio ar allu grwpiau sy’n ddifreintiedig o ran trafnidiaeth a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd heb lawer o boblogaeth i gael mynediad at wasanaethau allweddol, fel llyfrgelloedd, canghennau banc, lleoedd nyrsio a gofal preswyl a chyfleusterau chwaraeon.

Mae ein canfyddiadau’n amlygu pwysigrwydd gwasanaethau bws i aelodau bregus o’r gymuned sydd yn aml heb fynediad at gludiant preifat.

Datblygu Dangosydd Mynediad i Fysiau Cymru

Gall data trafnidiaeth gyhoeddus cenedlaethol guddio amrywiadau rhanbarthol y gellir eu datgelu drwy ddadansoddi darpariaeth leol.

Yn ddiweddar datblygodd Senedd yr Alban Ddangosydd Mynediad i Fysiau’r Alban (SABI) fel mesur gwrthrychol o fynediad lleol i wasanaethau bws. Gwnaeth gwaith dadansoddi cyn y pandemig ddangos bod mwy o hygyrchedd yn y dengraddau mwyaf difreintiedig yn gysylltiedig â Mynegai Amddifadedd Lluosog yr Alban.

Mae ein gwaith ymchwil yn addasu SABI i Ddangosydd Mynediad i Fws Cymru (WABI) cyfatebol. Cyfrifwyd nifer cyfartalog y bysiau yr awr (6am i 10pm) mewn arosfannau bysiau o fewn pellter cerdded o 400m i bob Ardal Gynnyrch canolog (ardaloedd daearyddol bach yn cynnwys tua 125 o aelwydydd), yna cyfunwyd y rhain i ardaloedd daearyddol mwy (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is) gan ddefnyddio cyfartaleddu wedi’i bwysoli gan y boblogaeth.

Beth oedd sefyllfa’r gwasanaethau bysiau yn 2021?

Mae Ffigur 1 yn mapio sgorau WABI ar gyfer mis Awst 2021. Nid yw’n annisgwyl bod patrymau bras yn adlewyrchu’r dosbarthiad poblogaeth sylfaenol, gyda’r sgorau WABI uchaf mewn cytrefi trefol mawr ac o’u cwmpas. Fodd bynnag, mae amrywiadau eraill ochr yn ochr â'r patrymau trechol hyn, sy’n adlewyrchu’r llwybrau penodol ac amlder y gwasanaethau a gynigir gan ddarparwyr gwasanaethau.

Ffigur 1. Hygyrchedd gwasanaethau bws ym mis Awst 2021 (ystyr y symbol â llinellau yw nad oes mynediad wedi’i gofnodi gan ddefnyddio’r metrig hwn a therfyn pellter cerdded o 400m o ganol yr Ardal Gynnyrch)

Dau fap yn dangos hygyrchedd gwasanaethau bws ym mis Awst 2021 Dau fap yn dangos hygyrchedd gwasanaethau bws ym mis Awst 2021

Sut newidiodd y ddarpariaeth gwasanaeth rhwng 2019 a 2021?

Mae ein gwaith ymchwil yn defnyddio data trafnidiaeth ar gyfer Awst 2019 ac Awst 2021. Mae hyn yn ein galluogi i weld y newidiadau mewn gwasanaethau yng Nghymru yn ystod y pandemig diweddar.

Paratowyd mapiau o’r gwahaniaeth absoliwt yn sgôr WABI a newid canrannol, fel y’i cyflwynir yn Ffigur 2.

Er bod rhai Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn dangos cynnydd bach mewn hygyrchedd bysiau, ac eraill heb unrhyw newid, gwelodd y rhan fwyaf o’r ardaloedd (gwledig a threfol) ostyngiad net mewn gwasanaethau bysiau. Roedd y gostyngiadau ar eu huchaf ac wedi'u crynhoi fwyaf yn Rhondda Cynon Taf, er bod clystyrau yn amlwg hefyd yn ardaloedd canol dinasoedd Caerdydd ac Abertawe ac yng Nghwm Nedd. Gwelwyd rhai o’r gostyngiadau mwyaf hefyd mewn pocedi ar hyd arfordir gogledd Cymru. Roedd y tueddiadau’n gyson ar y cyfan rhwng gwasanaethau yn ystod yr wythnos a’r penwythnos.

Roedd gostyngiadau mawr mewn sgoriau absoliwt yn tueddu i ddigwydd mewn ardaloedd trefol gyda rhwydweithiau mwy dwys o wasanaethau bysiau yn adlewyrchu’r crynodiad poblogaeth a wasanaethir. O'i fynegi fel gostyngiad canrannol, roedd ardaloedd gwledig yn aml yn dangos y ffigurau mwyaf oherwydd gall colli dim ond un neu ddau o gyfleoedd gynrychioli cyfran fawr o gyfanswm gwreiddiol bach.

Mae ardaloedd a welodd cynnydd yn y ddarpariaeth yn elwa o gael teithiau’n fwy aml, cyflwyno llwybr newydd, neu ddarparu arosfannau bysiau ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn.

Ffigur 2. Newid yn sgôr WABI, gwasanaethau yn ystod yr wythnos, 2019 – 2021. Mae’r map uchaf yn dangos y gwahaniaethau sgôr absoliwt, a’r map isaf yw'r newid canrannol.

Dau fap yn dangos newidiadau yn sgôr Dangosydd Mynediad i Fysiau Cymru ar gyfer gwasanaethau yn ystod yr wythnos rhwng Awst 2019 ac Awst 2021. Mae’r map uchaf yn dangos y gwahaniaethau sgôr absoliwt, a’r map isaf yw'r newid canrannol.

Dau fap yn dangos newidiadau yn sgôr Dangosydd Mynediad i Fysiau Cymru ar gyfer gwasanaethau yn ystod yr wythnos rhwng Awst 2019 ac Awst 2021. Mae’r map uchaf yn dangos y gwahaniaethau sgôr absoliwt, a’r map isaf yw'r newid canrannol.

Sut mae newidiadau yn ymwneud ag amddifadedd?

Edrychwyd ar amrywiadau mewn gwasanaethau yn erbyn Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), gan gyfrifo sgôr canolrif WABI mewn ardaloedd cynnyrch ehangach is sy’n perthyn i bob degradd MALlC.

Ffigur 3: Sgôr canolrif WABI 2019 a 2021 yn ôl degradd MALlC (uchaf: yn ystod yr wythnos, isaf: penwythnosau) (Degradd MALlC: 1 = mwyaf difreintiedig; 10 = lleiaf difreintiedig)

Dau siart yn dangos sgorau canolrif Dangosyddion Mynediad i Fysiau Cymru yn 2019 a 2021 yn ôl degradd MALlC. Mae’r siart uchaf yn dangos dyddiau’r wythnos, mae’r siart gwaelod yn dangos penwythnosau.

Dau siart yn dangos sgorau canolrif Dangosyddion Mynediad i Fysiau Cymru yn 2019 a 2021 yn ôl degradd MALlC. Mae’r siart uchaf yn dangos dyddiau’r wythnos, mae’r siart gwaelod yn dangos penwythnosau.

Roedd y gostyngiadau ar eu mwyaf ymhlith ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, sy’n awgrymu mai nhw a brofodd y golled fwyaf o ran gwasanaethau bws ar y metrig hwn dros yr amserlen hon (Ffigur 3). Er y gwelwyd gostyngiad ym mhob degradd, gostyngodd maint yn gyson tan y nawfed degradd. Mae’r golled fwy a brofwyd yn negradd 9 yn awgrymu bod rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig hefyd wedi profi gostyngiadau mewn gwasanaethau bysiau. Gallai hyn fod oherwydd bod yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is hyn mewn maestrefi ardaloedd trefol lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn gwasanaethau. Yn fras, roedd yr un proffil yn amlwg ar gyfer gwasanaethau yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau trafnidiaeth gyhoeddus mewn gwaith craffu a pholisi

Mae colli darpariaeth yn cael effaith ganlyniadol ar bawb sy’n byw yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt, ond yn enwedig y rheini sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at, er enghraifft, gwasanaethau manwerthu ac iechyd ac at gysylltiadau cymdeithasol a theuluol. Nodwyd bod adfer gwasanaethau bysiau yn bryder pwysig ar gyfer datblygu polisi trafnidiaeth Cymru.

Byddwn yn cynnal gwaith dadansoddi dilynol, gyda’r nod o fonitro i ba raddau y mae gwasanaethau bysiau cyhoeddus wedi gwella ers mis Awst 2021, neu a yw gostyngiadau dan ddylanwad pandemig wedi parhau yn y tymor hwy.

Rydym yn gobeithio y gall ein gwaith lywio gwaith presennol Pwyllgor Newid Hinsawd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ar ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai’r dadansoddiadau hefyd gefnogi ymdrechion i hyrwyddo dulliau cydgysylltiedig rhwng darparwyr gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a darparu, er enghraifft, cyfleoedd iechyd, manwerthu a chyflogaeth fel sy’n cael eu hyrwyddo yn adroddiad Llywodraeth Cymru ‘Llwybr Newydd’ Strategaeth Drafnidiaeth.

Oni bai bod digon o wasanaethau bysiau ar gael i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, bydd yn anodd cyflawni’r targedau newid moddol uchelgeisiol sydd wedi’u nodi yn Llwybr Newydd. Felly mae’r angen i nodi a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau trafnidiaeth yn debygol o ffurfio thema allweddol mewn cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a chenedlaethol sydd ar y gweill. Bydd hefyd yn hanfodol i lwyddiant cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio bysiau, fel y nodwyd yn y Papur Gwyn diweddar, a hefyd yn Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru. Gellid defnyddio dull o’r fath hefyd i helpu i lywio dadleuon parhaus ynghylch newid yn yr hinsawdd a’r angen i hyrwyddo dewisiadau teithio llesol amgen.


Erthygl gan Dr Mitchel Langford (cyd-gyfarwyddwr WISERD), yr Athro Gary Higgs (cyd-gyfarwyddwr WISERD) a Dr Andrew Price, WISERD, Prifysgol De Cymru