Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain: Aelodau'r Cynulliad i drafod adroddiad y Pwyllgor Deisebau.

Cyhoeddwyd 01/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Ar 6 Chwefror 2019, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar wella mynediad at addysg a gwasanaethau yn Iaith Arwyddion Prydain [PDF 441KB]. Cyflwynwyd y ddeiseb, a gafodd 1,162 o lofnodion, gan Deffo!, sef fforwm i bobl ifanc Fyddar. Galwodd y ddeiseb ar i Lywodraeth Cymru wella mynediad at addysg a gwasanaethau yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl fyddar o bob oedran.

Mae BSL yn iaith weledol, ofodol a chanddi ei gramadeg a'i chystrawen ei hun. Nid yw BSL fel iaith yn ddibynnol ar Saesneg llafar, ac nid oes ganddi gysylltiad cryf â Saesneg llafar. Yn ôl Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain mae tua 7,200 yn defnyddio BSL yng Nghymru, ac mae 4,000 o'r rheini yn F/fyddar. Cydnabu Llywodraeth Cymru BSL fel iaith ynddi ei hun ym mis Ionawr 2004.

Beth sydd ar y Deisebwyr ei eisiau?

Mae'r ddeiseb yn galw am:

  • well mynediad fel y gall teuluoedd ddysgu Iaith Arwyddion Prydain;
  • i BSL gael ei chynnwys yn y Cwricwlwm Cenedlaethol;
  • well mynediad at addysg yn BSL i blant a phobl ifanc F/fyddar; ac
  • i wasanaethau ac adnoddau fod ar gael yn hygyrch yn BSL i bobl ifanc F/fyddar:

Dysgu BSL

Yn eu tystiolaeth, pwysleisiodd y Deisebwyr bwysigrwydd i blant F/fyddar ddysgu BSL yn gynnar. Roeddent hefyd yn dadlau y dylid darparu gwersi BSL rhad ac am ddim neu â chymhorthdal i rieni sy’n clywed ond sydd â phlant B/byddar a hefyd i siblingiaid y plant hynny. Mae'r Deisebwyr am i Lywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith leiafrifol ac i awdurdodau lleol ei thrin fel iaith gyntaf llawer o bobl ifanc F/fyddar a thrwm eu clyw.

BSL yn y cwricwlwm

Dywedodd y Deisebwyr wrth y Pwyllgor nad oes gan fwyafrif o blant B/byddar sy'n mynd i ysgol brif ffrwd fynediad at Iaith Arwyddion Prydain; yn hytrach fe ddysgir Saesneg â Chymorth Arwyddion (SSE) iddynt. Dywedwyd nad yw SSE yn trosglwyddo'n ehangach a bod yn rhaid i blant B/byddar ddysgu BSL serch hynny er mwyn cyfathrebu ag eraill yn y gymuned honno. Yn ôl y Deisebwyr, byddai cynnwys BSL yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn caniatáu i ddysgwyr eraill gyfathrebu â phobl F/fyddar neu drwm eu clyw wrth gymdeithasu a dysgu, ac mewn cyd-destunau eraill, a byddai hefyd o fudd i ddysgwyr B/byddar neu drwm eu clyw.

Gwella mynediad at addysg

Dywedodd y Deisebwyr nad oes gan lawer o Athrawon Plant Byddar (athro cymwysedig sydd â chymwysterau ychwanegol i addysgu plant byddar) gymhwyster BSL penodol a bod cynorthwywyr addysgu yn cael eu defnyddio yn lle llawer o'r athrawon hyn. Nodwyd y disgwylir y bydd llawer o Athrawon Plant Byddar yn ymddeol o fewn 15 mlynedd.

Yn ôl y Deisebwyr, gan nad oes meincnodau na safonau cenedlaethol, mae anghysondeb yn yr addysg a ddarperir i ddysgwyr B/byddar neu drwm eu clyw.

Gwasanaethau ac adnoddau BSL i bobl ifanc F/fyddar

Mae'r Deisebwyr am i ddefnyddwyr BSL allu cael gwybodaeth yn eu dewis iaith am y gwasanaethau maent yn eu defnyddio, megis addysg, gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd y Deisebwyr eu bod yn 'digalonni' am nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau o'r fath.

Argymhellion y Pwyllgor

Gwnaeth y Pwyllgor bedwar argymhelliad.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol, ac annog awdurdodau lleol i'w chydnabod fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc F/fyddar wrth ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth;
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau;
  • Dylai pob plentyn ar bob lefel o addysg gael cyfle i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain, a dylai Llywodraeth Cymru barhau i ystyried creu cymhwyster TGAU BSL iaith gyntaf;
  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gynllunio'r gweithlu, gan ganolbwyntio'n benodol ar athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc F/fyddar a thrwm eu clyw.

Yn ei hymateb, derbyniodd Llywodraeth Cymru dri o'r argymhellion. Cydnabu Llywodraeth Cymru fod aelodau'r gymuned F/fyddar yng Nghymru yn wynebu nifer o faterion mewn perthynas â BSL. Dywedodd y byddai'n adolygu darpariaeth BSL ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ystyried datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc F/fyddar a’u teuluoedd.

Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddwyd yr adroddiad Data am weithlu gwasanaethau arbenigol yr awdurdodau lleol ym maes anghenion addysgol arbennig[PDF 726 KB]. Mae'r adroddiad yn cynnwys data am arbenigwyr ym maes nam ar y clyw.

Cafodd yr argymhelliad yn ymwneud â'r cwricwlwm ei dderbyn mewn egwyddor. Wrth i'r Ddeiseb gael ei hystyried, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion a wnaed yn adolygiad yr Athro Graham Donald o'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, Dyfodol Llwyddiannus (Chwefror 2015, PDF 2MB] (mae rhagor o wybodaeth am y cwricwlwm newydd yn ein blog dyddiedig 23 Ionawr 2019). Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd Ieithoedd Rhyngwladol yn rhan o Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ym Maes Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm newydd. Byddai hyn yn cynnwys ieithoedd tramor modern, ieithoedd cymunedol, ieithoedd clasurol a BSL. Fodd bynnag, mater i bob ysgol unigol fyddai penderfynu ar yr iaith ryngwladol a ddysgid ganddi.

Pryderon y Comisiynydd Plant

Yn ei Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2016-17 [PDF 2.54MB], mynegodd Comisiynydd Plant Cymru ei phryderon ynghylch mynediad i gyfleoedd dysgu drwy BSL i blant B/byddar a'u teuluoedd; y diffyg cymorth mewn addysg brif ffrwd; diffyg modelau rôl cadarnhaol i blant B/byddar; a diffyg cydraddoldeb yn y safonau o ran y cymwysterau iaith sydd eu hangen i ddysgu plant B/byddar.

Argymhellodd y Comisiynydd Plant y dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sicrhau cefnogaeth wladwriaethol briodol at gyfer anghenion cyfathrebu plant a phobl ifanc sy'n F/fyddar neu sydd â nam ar eu clyw ac i'w teuluoedd, gan gynnwys cyfleoedd dysgu BSL hygyrch a fforddiadwy ar ystod o lefelau. Argymhellodd y dylid cyflogi staff mewn ysgolion sy'n rhugl yn BSL, i ddiwallu anghenion unigolion. Derbyniodd Llywodraeth Cymru [PDF 537KB] yr argymhelliad hwn ym mis Tachwedd 2017.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad, Siaradwch fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus , [PDF 1.23MB] ym mis Ebrill 2018. Yn yr adroddiad, ymchwiliwyd i sut y mae cyrff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen yn darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer BSL ac ieithoedd eraill. Gwnaeth argymhelliad y dylai cyrff cyhoeddus adolygu yn rheolaidd hygyrchedd eu gwasanaethau i bobl nad y Gymraeg na'r Saesneg yw eu prif iaith, gan gynnwys pobl F/fyddar sy'n defnyddio iaith arwyddion. Gwnaeth yr Archwilydd Cyffredinol argymhellion hefyd ynghylch cyflenwad a chymwysterau cyfieithwyr ar y pryd.


Erthygl gan Siân Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru