Llun: o Wicipedia Flikr gan .Martin. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Tynnodd y dystiolaeth sylw at y gwahaniaethau rhwng meddyginiaethau a thechnolegau. Fel rhan o unrhyw broses arfarnu newydd, byddai'n rhaid sicrhau'r arbenigedd angenrheidiol, ystyried natur amrywiol technolegau, y sail dystiolaeth wannach a ffactorau fel defnyddioldeb ac effaith ar y llwybr gofal.
Un o argymhellion arwyddocaol eraill y Pwyllgor yw y dylid sefydlu ffordd mwy strategol o gomisiynu technolegau meddygol yng Nghymru, yn enwedig o ystyried yr effaith 'sefydliadol' ehangach y gall mabwysiadu technoleg benodol ei chael. Byddai'n rhaid cysylltu hynny â phroses arfarnu gadarn. Clywodd y Pwyllgor fod prosesau comisiynu'n wan ar hyn o bryd: mae penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn sawl lle, gallant fod yn hirwyntog ac nid yw'r broses yn dryloyw. Er bod cefnogaeth i'r syniad o gael corff comisiynu cenedlaethol i helpu i sicrhau mynediad teg a phrydlon at driniaethau ar gyfer cleifion ledled Cymru, pwysleisiwyd yr angen am gydbwysedd priodol rhwng prosesau comisiynu lleol a chenedlaethol, er mwyn rhoi ystyriaeth i anghenion a blaenoriaethau lleol.
Prif argymhelliad y Pwyllgor yw y dylai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r angen am ddull gweithredu mwy strategol, cydgysylltiedig a syml o ran mabwysiadu technolegau meddygol sy'n:
- cael ei arwain gan angen clinigol ac anghenion y boblogaeth;
- sicrhau buddsoddiad effeithiol mewn technolegau newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ochr yn ochr â rhaglen o ddadfuddsoddi mewn offer aneffeithiol sydd wedi dyddio;
- sicrhau mynediad cyfartal i driniaethau priodol newydd i gleifion yng Nghymru; ac sy'n
- hwyluso ymgysylltiad pob rhanddeiliad, gan gynnwys clinigwyr, cleifion, y diwydiant a phartneriaid ymchwil.
Wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer dull cenedlaethol o arfarnu a mabwysiadu technoleg cymerir i ystyriaeth sut y bydd yn cysylltu gyda’r gwasanaethau comisiynu a chaffael, fel y bydd y llwybr priodol i fabwysiadu’r dechnoleg yn cael ei wneud yn gliriach ac yn cael ei ddilyn yn gyson ar draws Cymru. Bydd hyn hefyd yn ei gwneud yn bosibl datgomisiynu a gwaredu technoleg mewn ffordd fwy cydlynol, lle bo hynny’n briodol.
Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.