Cyhoeddwyd 15/06/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
15 Mehefin 2016
Erthygl gan Rebekah James, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
[caption id="attachment_5635" align="alignnone" width="682"]

Llun o Pixabay dan drwydded Creative Commons[/caption]
A hithau’n wynebu epidemig gordewdra, a fydd Llywodraeth newydd Cymru yn barod i fynd i'r afael ag un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf ein hoes, ynteu a yw’n faes rhy gymhleth?
Mae gordewdra yn
un o brif achosion marwolaethau y gellir eu hatal yng Nghymru. Ynghyd â'r cyflyrau iechyd sy’n dod law yn llaw â gordewdra, mae'n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau iechyd ac yn costio £73 miliwn y flwyddyn i
GIG Cymru. Mae’r ffigur hwn yn codi i bron £86 miliwn os caiff pobl dros bwysau eu cynnwys hefyd.
Mae
gordewdra yn cynyddu’r risg o gael clefyd y galon a gall gyfrannu at gyflyrau cronig fel diabetes math 2, rhai mathau o ganser, pwysedd gwaed uchel, dystroffi’r cyhyrau ac iselder. Gall
gordewdra effeithio ar les unigolion, ar ansawdd bywyd ac ar y gallu i ennill cyflog. Gall
plant gordew gael problemau iechyd ac maent yn fwy tebygol wedyn o fod yn oedolion gordew.
Er bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cymryd camau i geisio mynd i'r afael â'r cyflwr, nid yw lefelau gordewdra
i’w gweld yn gostwng ar hyn o bryd. Mae deiet gwael a diffyg ymarfer corff yn ffactorau pwysig, ond mae cysylltiad hefyd
rhwng gordewdra ac amddifadedd: mae lefelau gordewdra yn
uwch mewn ardaloedd difreintiedig gan gynnwys Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot.
Nifer yr achosion o ordewdra
Yn ôl
Arolwg Iechyd Cymru 2014, roedd
22% o oedolion yng Nghymru yn cael eu hystyried yn ordew a
58% o oedolion yn cael eu hystyried dros bwysau neu'n ordew. Mae hyn yn uwch na'r ffigur o 54% pan gyhoeddwyd yr arolwg cyntaf yn 2003/04.
Mae nifer yr oedolion sydd dros bwysau ac yn ordew yn codi o 53% yn yr
ardaloedd lleiaf difreintiedig i 61% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae'r darlun ymhlith plant Cymru yr un mor heriol. Dengys
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2013/14 bod
27.3% o blant dros bwysau neu'n ordew.
Mae nifer yr achosion hyn yn codi yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd, o 22.2% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig i 28.5% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Y ffigur ar gyfer plant blwyddyn derbyn (4-5 oed) yng Nghymru oedd 26.5% – sy’n uwch nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr, lle'r oedd y nifer uchaf o achosion yn 24%.
Mynd i’r afael â'r broblem
Yn 2010 lansiodd Llywodraeth Cymru
Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan, yn nodi sut y byddai’n ceisio atal a thrin gordewdra ymhlith plant ac oedolion:

Mae achosion gordewdra yn gymhleth, a gall gynnwys ffactorau meddygol, cymdeithasol ac economaidd. Ceisiodd Llywodraeth flaenorol Cymru fynd i'r afael â'r gwahanol ffactorau gydag amrywiaeth o bolisïau a deddfwriaeth, gan ganolbwyntio ar fwyta’n iach a gweithgarwch corfforol. Roedd y rhain yn cynnwys:
Ein Dyfodol Iach;
Newid am Oes;
MEND;
Deddf Teithio Llesol Cymru (2013);
Creu Cymru Egnïol;
Blas am Oes a
Dringo'n Uwch.
Mae camau diweddar sydd wedi’u crybwyll gan wleidyddion a gweithwyr iechyd fel atebion posibl yn cynnwys
treth ar ddiodydd llawn siwgr a
gwahardd hysbysebion bwyd a diod sy'n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr. Yn 2016 lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru
restr 10 cam i fynd i'r afael â gordewdra ymysg plant.
Pryderon am y cynnydd
Mae pobl wedi beirniadu’r Llwybr Gordewdra, gan honni nad yw wedi cael ei weithredu’n gyflawn a bod diffyg gwasanaethau lefel 3. Bu galwadau hefyd am arweiniad cenedlaethol cliriach i fynd i’r afael â’r broblem.
Cynhaliodd pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliadau i
wasanaethau bariatrig a
gordewdra ymysg plant. Cododd y ddau ymchwiliad bryderon am lwyddiant y Llwybr Gordewdra a’r diffyg cysondeb wrth roi hwnnw ar waith. Yn 2014, canfu
adolygiad o’r Llwybr bod holl fyrddau iechyd Cymru yn darparu gwasanaethau lefel 1 a 2, ond mai anghyson oedd darpariaeth lefel 3. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gwneud mwy ac y byddai angen i'r Pumed Cynulliad sicrhau bod y pryderon hyn yn cael sylw.
Nid yw rhai meysydd lle y gellid gweithredu wedi'u datganoli'n llawn. Er enghraifft, cyfyngedig yw gallu Cymru i ddylanwadu ar y diwydiant bwyd a diod, ac efallai bod angen dull mwy cydlynol ar lefel y DU a'r UE i achub ar bob cyfle i fynd i'r afael â gordewdra.
Ystyriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad
Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar ordewdra, gan gynnwys amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Mae pryderon hefyd bod gennym
ddiwylliant o 'normaleiddio' gordewdra. Mae rhai’n awgrymu bod angen mwy o arweiniad cenedlaethol a bod angen i adrannau Llywodraeth Cymru weithio’n well â’i gilydd, yn enwedig o ran hyrwyddo bwyta'n iach ac ymarfer corff.
Nid yw rhai o’r camau a gymerwyd ers tro i leihau gordewdra yng Nghymru wedi
cael unrhyw effaith. Bydd angen i Aelodau'r Pumed Cynulliad a Llywodraeth Cymru benderfynu pam nad oes digon o gynnydd, ac efallai ystyried dulliau newydd o geisio datrys y broblem.
Ers cyhoeddi'r erthygl uchod yn '
Materion Allweddol ar gyfer y Pumed Cynulliad', mae prif ganlyniadau cychwynnol
Arolwg Iechyd Cymru 2015 wedi cael eu cyhoeddi. Mae canlyniadau 2015 yn dangos bod lefelau gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu: 24% o oedolion sy'n ordew a 59% o oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew. Hefyd, gwelwyd cynnydd yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu sy'n ordew yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig; 54% yw'r ffigur yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a 63% yw'r ffigur yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Ffynonellau allweddol