Rwyf am ddechrau drwy ymddiheuro i chi ar ran y GIG lle cawsom eich gofal yn anghywir a lle gwnaethom gam â chi.
(Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol)
Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddar i drafod adroddiad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, sef ‘Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol'. Tynnodd y ddadl hon sylw at y brwydrau y mae rhai menywod sydd â chanser gynaecolegol yn eu hwynebu – achosion lle nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed, a lle mae eu pryderon yn cael eu diystyru.
Dechreuodd Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, ei chyfraniad drwy ymddiheuro i’r menywod a oedd wedi cael cam gan y GIG. Cydnabu: “Er gwaethaf gwaith caled ac ymroddiad pobl, weithiau mae pethau'n mynd o chwith”.
Er bod ymddiheuriad yr Ysgrifennydd Cabinet yn foment o gydnabyddiaeth, tynnodd rhai Aelodau sylw at y ffaith bod profiadau’r menywod a amlygwyd yn adroddiad y Pwyllgor yn adlewyrchu methiannau ehangach, systemig i flaenoriaethu anghenion iechyd menywod.
Er i’r Ysgrifennydd Cabinet dderbyn y rhan fwyaf o’r argymhellion yn yr adroddiad, gwnaeth ei hymateb ddigalonni rhai Aelodau a rhanddeiliaid (gan gynnwys Gofal Canser Tenovus, Marie Curie, a Chymdeithas Canser Gynaecolegol Prydain).
Mae'r erthygl hon yn crynhoi’r ddadl, gan archwilio ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet ac unrhyw newidiadau posibl o ran safbwynt.
“Rydym yn gwrando ar fenywod”
Dywedodd y menywod a rannodd eu hanesion â’r Pwyllgor mewn modd mor ddewr fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi diystyru eu pryderon iechyd yn rheolaidd. Er gwaethaf y ffaith eu bod yn teimlo’n reddfol fod rhywbeth o'i le o ran eu cyrff, roeddent yn cael trafferth cael eu clywed. Yn aml, roedd eu symptomau’n cael eu diystyru neu eu hisraddio, gan wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu hymyleiddio, ac, ar brydiau, eu bod yn niwsans.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod yn gwrando ar leisiau menywod, gan gyfeirio at y datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched, a’r broses barhaus o ddatblygu cynllun iechyd menywod o fewn y GIG. Serch hynny, mae bwlch yn parhau i fodoli (hynny yw, ni fydd y cynllun iechyd menywod sydd ar ddod yng Nghymru yn cynnwys ffocws penodol ar ganserau gynaecolegol).
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn dadlau bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu ei pholisïau a’i chamau gweithredu ym maes canser gynaecolegol yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser a’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser.
Gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gyhoeddi y bydd yn cynnal uwchgynhadledd genedlaethol ym mis Gorffennaf 2024, a hynny er mwyn sicrhau bod y GIG yn canolbwyntio ar wasanaethau gynaecolegol, gan gynnwys canser. Siawns y bydd y fenter hon yn cael ei chroesawu gan randdeiliaid.
“Mae canser gynaecolegol yn flaenoriaeth”
Yn ystod y ddadl, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod gwella gofal canser yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r GIG yng Nghymru. Cydnabu'r angen dybryd i wella amseroedd aros ym maes canser, a sicrhau mynediad cyflymach at ddiagnosis a thriniaeth. Mae'n derbyn bod lefelau perfformiad ar hyn o bryd yn is na'r disgwyliadau.
Ym mis Ebrill, dim ond 32.3 y cant o lwybrau cleifion oedd yn cyrraedd trothwy 62 diwrnod Llywodraeth Cymru o ran ei tharged ar gyfer canser gynaecolegol (y targed yw bod o leiaf 75 y cant o gleifion yn dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth gyntaf o ganser, a hynny heb unrhyw ataliadau.)
Graff 1: Canran y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth gyntaf o ganser (targed 75 y cant)
Ffynhonnell data: Stats Cymru
Mae'r graff yn dangos tanberfformiad clir o ran cyrraedd y trothwy 62 diwrnod ar gyfer dechrau triniaeth ar gyfer canser gynaecolegol.
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi amlinellu mentrau ehangach sydd â'r nod o wella gofal canser, fel sefydlu canolfannau diagnostig cyflym a rhaglenni adfer o ran amseroedd aros. Fodd bynnag, mae diffyg mesurau wedi'u targedu o hyd i fynd i'r afael â'r heriau unigryw y mae menywod â chanserau gynaecolegol yn eu hwynebu.
Gwnaeth yr Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi’n flaenorol y byddai rhaglen adfer genedlaethol gwerth £2 filiwn yn cael ei chreu i ganolbwyntio ar dri math o ganser, gan gynnwys canser gynaecolegol.
Fodd bynnag, ni chafwyd atebion hyd yn hyn i gwestiynau ynghylch dyraniad y cyllid o fewn y rhaglen £2 filiwn, gan gynnwys pa gyfran o'r cyllid sydd wedi'i dyrannu i ganserau gynaecolegol a sut y mae’r arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio.
Er i’r Ysgrifennydd Cabinet dderbyn 24 o argymhellion y Pwyllgor, naill ai yn eu cyfanrwydd neu’n rhannol, nid oedd ei hymateb yn ymrwymo i roi unrhyw gyllid ychwanegol nac i ailddyrannu adnoddau presennol at y diben hwn.
“Nid wyf yn ddiystyriol mewn unrhyw ffordd”
Yn y sylwadau agoriadol a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cabinet mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, dywedodd fod y “mwyafrif helaeth o'r rhai sy'n derbyn gofal canser gynaecolegol yn adrodd lefelau uchel o fodlonrwydd cleifion â gwasanaethau'r GIG yn gyson.” Roedd y geiriau hyn yn seiliedig ar ganfyddiadau arolwg diweddaraf Macmillan Cymru ar brofiadau cleifion canser (a gynhaliwyd gan IQVIA ar ran Rhwydwaith Canser Cymru a Chymorth Canser Macmillan).
Un o ganfyddiadau allweddol yr arolwg yw bod 92 y cant o bobl â chanser yng Nghymru a gafodd driniaeth yn ystod y pandemig wedi rhoi sgôr uchel parthed eu gofal cyffredinol.
Fodd bynnag, dywedodd claf o’r enw Claire O'Shea na ofynnwyd unrhyw gwestiwn ar unrhyw adeg iddi, fel claf, am y lefelau bodlonrwydd yr oedd yn eu teimlo mewn perthynas â’r gwasanaethau a gafodd. Yn yr un modd, dywedodd Sioned Cash, yr oedd tystiolaeth ei mam yn ganolog i'r ymchwiliad, fod gwneud honiad o'r fath ar ddechrau’r ymateb yn creu naws ddiystyriol o ran gweddill yr adroddiad.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, un o Aelodau’r Pwyllgor, fod yr ymchwiliad hwn ‘ymhlith yr ymchwiliadau mwyaf dirdynnol ac emosiynol’ yr oedd wedi bod yn rhan ohonynt, gan ddisgrifio ymateb Llywodraeth Cymru fel ”sgandal”. Aeth ymhellach, gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o ddibwyllo meddygol, sef term sy'n disgrifio sut y mae unigolion yn cael eu cyflyru i amau eu profiadau neu eu canfyddiadau eu hunain. Dywedodd fod y Llywodraeth, drwy haeru bod y mwyafrif yn fodlon â’r gwasanaeth a ddarperir, yn gwaethygu trallod y menywod hyn, a’i bod, i bob pwrpas, yn eu dibwyllo ddwywaith.
Gwnaeth Jenny Rathbone AS adleisio'r pryderon hyn, gan bwysleisio'r angen dybryd i feithrin diwylliant o wrando ar leisiau menywod a chymryd eu pryderon o ddifrif o fewn y system gofal iechyd. Nododd ei bod yn bosibl na fydd gwasanaethau newydd yn ddichonadwy ar unwaith, o ystyried y sefyllfa o ran cyfyngiadau ariannol. Fodd bynnag, pwysleisiodd y ffaith bod blaenoriaethu diwylliant o gredu menywod ac ymateb i’w materion iechyd o fewn ein gafael, gan nodi bod hyn yn hanfodol ar gyfer canfod a thrin canserau gynaecolegol yn gynnar.
Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod yn ei hymateb rai o’r pryderon dan sylw a’r angen am wella gwasanaethau gofal iechyd, ni aeth i’r afael â’r holl gwestiynau a’r pwyntiau penodol a godwyd. Fodd bynnag, mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn mynnu bod newid yn digwydd.
Ymgyrch Claire (Ynghyd â Gofal Canser Tenovus, mae Claire O'Shea wedi lansio Ymgyrch Claire, er mwyn rhoi mwy o lais i fenywod sy'n teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol).
Cymorth a chefnogaeth Gofal Canser Tenovus – Os ydych yn poeni neu os oes gennych gwestiynau am ganser, ffoniwch y Llinell Gymorth yn rhad ac am ddim ar 0808 808 1010. |
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru