Dyn a chi yn cysgu allan ar stryd fawr brysur, wlyb. Mae'r ci yn cael ei gysgodi rhag y glaw gan ymbarél.

Dyn a chi yn cysgu allan ar stryd fawr brysur, wlyb. Mae'r ci yn cael ei gysgodi rhag y glaw gan ymbarél.

Mynd i’r afael â digartrefedd: “mynydd sy'n gallu teimlo'n amhosib ei ddringo”

Cyhoeddwyd 15/05/2023   |   Amser darllen munud

Pan darodd Covid-19 ym mis Mawrth 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru agwedd 'neb heb help' tuag at ddigartrefedd gyda'r nod o roi lloches i bawb oedd ei angen. Tra'r oedd yr agwedd hon yn cael ei chroesawu gan y sector digartrefedd a’i chefnogi’n gyffredinol gan randdeiliaid, mae awdurdodau lleol, ers hynny, wedi mynegi pryderon i'r Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd am ymarferoldeb a chynaliadwyedd y dull gweithredu.

Mae’r system gymorth digartrefedd, a ddisgrifiwyd gan Fyddin yr Iachawdwriaeth fel mynydd sy'n gallu teimlo'n amhosib ei ddringo, o dan bwysau. Mae’r costau byw cynyddol, ynghyd â'r argyfwng yn Wcráin, yn parhau i gynyddu'r pwysau hwn. Mewn ymchwiliad diweddar i ddigartrefedd, clywodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd sut mae'r galw'n uwch na’r cyflenwad, ac y caiff hyn ei waethygu gan brinder eiddo yn y sector rhentu preifat, a materion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi wrth adeiladu tai newydd.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 17 Mai. Mae pob argymhelliad wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Llety dros dro, problemau hirdymor

Dengys data diweddaraf Llywodraeth Cymru bod dros 33,600 o bobl wedi cael cymorth i lety dros dro brys, rhwng dechrau'r pandemig a diwedd mis Chwefror 2023. Mae awdurdodau lleol o dan bwysau parhaus i gartrefu pobl ddigartref, ac mae cyflwyno'r agwedd "neb heb help" wedi golygu bod awdurdodau lleol yn chwilio am ba bynnag lety y gallant ddod o hyd iddo - o unedau a hosteli pwrpasol, i westai a llety gwely a brecwast.

Clywodd y Pwyllgor fod safon llety dros dro yn amrywio. Gall llety â chymorth a llety â staff fod o fudd mawr, gan roi ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen, fel pobl sy'n gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol a dioddefwyr cam-fanteisio rhywiol. Gall llety llai addas, fodd bynnag, gael effaith andwyol ar unigolion, gan waethygu sefyllfa sydd eisoes yn drawmatig.

Mae tystiolaeth gan Tai Pawb yn dangos mai yn y mathau lleiaf addas, gan gynnwys gwestai a llety gwely a brecwast y bu’r cynnydd mwyaf yn y defnydd o lety dros dro. . Gall problemau logistaidd fod yn gysylltiedig â llety o’r fath, gan gynnwys teuluoedd yn rhannu un ystafell, diffyg lle i blant chwarae, rhannu cyfleusterau ystafell ymolchi, a diffyg adnoddau coginio. Yn aml iawn mae cysylltiad y llety dros dro â’r rhyngrwyd yn wael, neu nid oes dim cysylltiad o gwbl, gan roi trigolion o dan anfantais gan na allant wneud cais am fudd-daliadau, defnyddio bancio ar-lein, neu gofrestru am wasanaethau cymorth.

Esboniodd yr elusen ddigartrefedd genedlaethol, Crisis, fod pwysau i gartrefu pobl yn gyflym yn gallu arwain at roi pobl mewn llety nad yw'n addas i'w hanghenion (fel cartrefu pobl sy'n gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol gyda defnyddwyr gweithredol). Mae nifer o'r rhai mewn llety dros dro yn dweud eu bod yn teimlo’n agored i niwed, gyda rhai yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy diogel yn cysgu ar y stryd. Mae preswylwyr hefyd yn aml yn dweud eu bod yn teimlo’n ynysig oddi wrth ffrindiau a theulu, ac yn gallu teimlo eu bod wedi colli eu rhyddid os bydd cyrffyw wedi’i osod a methu rheoli gwres a dŵr poeth.

Atal digartrefedd fel gwasanaeth cyhoeddus ar y cyd

Mae pobl sy'n chwilio am gymorth ar gyfer digartrefedd eisoes mewn cyflwr o argyfwng. Er mwyn ysgafnhau'r baich ar wasanaethau, dywedodd rhanddeiliaid sy'n cynnwys CLlLC, awdurdodau lleol a Shelter Cymru wrth y Pwyllgor bod yn rhaid dilyn dull ataliol. Byddai hyn yn caniatáu rhoi cymorth cyn y byddai rhywun yn wynebu digartrefedd. Awgrymodd Shelter Cymru y dylid cyfuno arbenigedd ar draws awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector er mwyn canolbwyntio ar ddull aml-asiantaeth.

Mae'r rhai sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunian ac yn byw ynddynt, hefyd mewn perygl o ddod yn ddigartref oherwydd costau morgais cynyddol. Mewn ymateb mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i sut y gall gefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda phwysau ariannol i aros yn eu cartrefi, ac mae wedi dyrannu cyllid Cyfalaf Trafodiadau Ariannol am y ddwy flynedd nesaf i’r diben hwn.

Iechyd meddwl a llesiant staff

Mae'r llwyth gwaith emosiynol sy'n ymwneud â gweithio gyda digartrefedd yn arwain at salwch o ran staff. Mewn adroddiad Sefydliad Siartredig Tai Cymru ar staff digartrefedd, roedd 75 y cant o'r ymatebwyr yn teimlo bod eu llesiant meddyliol wedi gostwng ers mis Ionawr 2020, gan nodi pwysau llwyth gwaith fel ffactor allweddol. Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio amodau gwaith y rhai yn y sector fel rhan o'r Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru.

Materion yn y sector rhentu preifat

Rhes o dai teras yng nghymoedd De Cymru yn dangos arwyddion 'ar osod'.Clywodd y Pwyllgor bod cael mynediad i'r sector rhentu preifat yn anos nag erioed. Cyfeiriodd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl at ddiffyg sylweddol o ran cydweddu rhwng y cyflenwad a'r galw am dai rhent preifat. Er bod Llywodraeth Cymru a Rhentu Doeth Cymru, yn dweud bod nifer y landlordiaid yn cynyddu, mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl a rhanddeiliaid eraill wedi codi pryderon ynghylch nifer y landlordiaid sy'n gadael y sector rhentu preifat, gan gyfeirio at y gost o gynnal eiddo, y prisiau uchel presennol yn y farchnad eiddo a chynnydd yn y ddeddfwriaeth (fel y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru)).

Mae elusennau cymorth tai ac awdurdodau lleol wedi galw am ddata sy’n awgrymu faint o landlordiaid sy'n gadael y sector ac i bwy y caiff yr eiddo eu gwerthu - boed yn berchennog-feddiannwyr, landlordiaid eraill, neu ar osod am dymor byr.

Mae’r bwlch rhwng rhenti’r farchnad a Lwfans Tai Lleol Llywodraeth y DU (LHA) (y gyfradd y cyfrifir budd-dal tai) yn cynyddu - ac mae hyn yn sefyllfa sydd, yn ôl cynrychiolydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn cyrraedd pwynt o argyfwng. Os yw rhent preifat yn uwch na’r Lwfans Tai Lleol, bydd diffyg gan y rhentwyr. Canfu adroddiad yn 2022 gan CIH Cymru bod gan 69 y cant o rentwyr preifat a dderbyniodd fudd-dal tai yng Nghymru ddiffyg yn eu rhent.

Yn ôl Sefydliad Bevan, dim ond 24 eiddo ledled Cymru oedd ar gael ar gyfraddau lwfans tai lleol ym mis Gorffennaf 2022, ac nid oedd gan 15 awdurdod lleol ddim eiddo ar gael. Er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i godi'r gyfradd lwfans tai lleol i'r 50fed canradd o renti preifat, mae Crisis hefyd wedi galw am ymdrechion i sefydlogi prisiau rhent, fel eu cysylltu â thwf cyflog.

Rhagor o dai iawn yn y llefydd iawn ar gyfer y bobl iawn

Mae heriau sylweddol wrth adeiladu cartrefi newydd, gan gynnwys argaeledd tir y gellir ei ddefnyddio, costau cynyddol y deunyddiau, trafferthion o ran y gadwyn gyflenwi, prinder sgiliau, a diffyg capasiti o fewn rhai swyddogaethau cynghorau a chwmnïau cyfleustodau. Mae targedau diweddar a osodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau lefelau ffosffad mewn rhai afonydd hefyd yn golygu bod cynllunio ar gyfer rhai cartrefi newydd mewn ardaloedd fel Wrecsam wedi cael ei atal am y tro.

Mae'r diffyg cydweddu rhwng angen ac argaeledd yn arbennig o ddyrys ar gyfer cartrefi un person, gan fod datblygwyr yn aml yn dewis adeiladu cartrefi teulu, fflatiau moethus, neu lety myfyrwyr yn hytrach na thai un-person oherwydd hyfywedd masnachol. O'r 1000 o gartrefi sy'n cael eu dywyn yn ôl i ddefnydd gan Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Llety Dros Dro, bydd 390 o eiddo un stafell wely ar gael.

Ar hyn o bryd, dim ond 6 y cant o gartrefi Cymru a gaiff eu rhentu gan awdurdodau lleol, yn ôl darparwr gwasanaeth cymorth digartrefedd Cymorth. Er bod rhai awdurdodau lleol, fel Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Penfro, yn ceisio 'prynu eiddo yn ôl' i gynyddu stoc, mae rhanddeiliaid, sy’n cynnwys Cymorth, Tai Pawb a Crisis wedi annog awdurdodau lleol i ystyried prynu eiddo sy'n cael eu gwerthu gan landlordiaid preifat sy'n gadael y sector.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar ddiwygio deddfwriaeth digartrefedd yn ddiweddarach yn 2023. Yn ôl y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, bydd y Papur Gwyn ar ddigartrefedd yn Fil sylweddol a chymhleth yn ail-lunio'r holl ddeddfwriaeth a'r fframwaith polisi yng Nghymru.


Erthygl gan Nyle Bevan-Clark, intern PhD, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru