Mae cwmnïau dŵr mewn sefyllfa hollbwysig ar gyfer diogelu iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. Mae pryder ynghylch llygredd ein dyfrffyrdd wedi bod yn cynyddu, ac o’r herwydd, mae craffu ar arferion cwmnïau dŵr wedi dod yn fwy llym.
Er gwaethaf buddsoddiad parhaus i wella gwasanaethau, mae perfformiad amgylcheddol ac ariannol Dŵr Cymru – sef cwmni dŵr mwyaf Cymru – wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ddydd Mercher 5 Tachwedd 2025, craffodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ar waith swyddogion gweithredol Dŵr Cymru ar ei raglen drawsnewid fawr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, y cyfeirir ato’n fewnol fel ‘Trawsnewid’.
Mae'r amserlen isod yn amlygu datblygiadau allweddol diweddar o ran perfformiad amgylcheddol ac ariannol Dŵr Cymru, a sut mae rheoleiddwyr a seneddau wedi ymateb.
23 Hydref 2025
Yn ôl Adroddiad Perfformiad Cwmnïau Dŵr Ofwat ar gyfer 2024-25, roedd Dŵr Cymru ‘ar ei hôl hi’ am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Roedd yn perfformio’n waeth na’i darged mewn saith o blith deuddeg categori.
23 Hydref 2025
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal sgôr perfformiad amgylcheddol dwy seren (‘angen gwella’r cwmni’) Dŵr Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol. Dywed fod 2024 wedi gweld ei nifer uchaf o ddigwyddiadau llygredd mewn degawd, er iddo wella ei brosesau adrodd ar ddigwyddiadau a'i gydymffurfiad â gollyngiadau a ganiateir.
11 Medi 2025
Dŵr Cymru yn cyhoeddi’r rhaglen Trawsnewid – “rhaglen drawsnewid” 18-24 mis sy’n cynnwys ailstrwythuro’r cwmni a cholli tua 500 o swyddi.
28 Chwefror 2025
Mae cyflwyniad data Dŵr Cymru ar orlifoedd storm 2024 yn dangos gostyngiad o 7% yng nghyfanswm yr oriau o ollyngiadau o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac mae'n priodoli hyn i lefelau glaw is.
17 a 18 Chwefror 2025
Caiff sgôr credyd Dŵr Cymru ei israddio gan yr asiantaethau graddio Fitch a Moody's.
19 Rhagfyr 2024
>Mae penderfyniad terfynol Ofwat o wariant ar gyfer 2025-30 yn caniatáu i Dŵr Cymru wario £6 biliwn, gan gynnwys mwy nag £1 biliwn i wella gorlifoedd storm.
Bydd y buddsoddiadau hyn yn cael eu hariannu gan filiau cwsmeriaid. O ganlyniad, cododd biliau cyfartalog 27% yn 2025, a byddant yn gweld cynnydd cyffredinol o 42% erbyn 2030.
21 Tachwedd 2024
Ofwat yn ymyrryd i atal Dŵr Cymru rhag defnyddio cronfeydd cwsmeriaid i dalu £163,000 mewn bonysau i swyddogion gweithredol.
23 Gorffennaf 2024
Disgrifiodd Cyfoeth Naturiol Cymru “ddirywiad pellach” ym mherfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru, gyda chynnydd yn nifer y digwyddiadau llygredd difrifol. Fodd bynnag, mae'r cwmni wedi cadw sgôr amgylcheddol dwy seren ('y cwmni angen gwneud gwelliannau').
14 Mawrth 2024
Mewn ymchwiliad gan Ofwat i broblemau a nodwyd, ac a hunan-nodwyd gan Dŵr Cymru, ar ei berfformiad o ran gollyngiadau a data ar y defnydd y pen, canfuwyd bod Dŵr Cymru wedi camarwain cwsmeriaid a rheoleiddwyr a gorchmynnwyd y cwmni i dalu £40 miliwn ar gyfer pecyn gwneud iawn i gwsmeriaid.
29 Chwefror 2024
Anfonwyd Data Monitro Hyd Digwyddiad 2023 (EDM) Dŵr Cymru at Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae'r data yn cofnodi nifer yr amseroedd a hyd yr amseroedd y mae gorlifoedd storm wedi bod yn parhau.
Adroddir bod y data yn dangos 105,943 o orlifoedd, ac roedd 93 y cant ohonynt wedi'u graddio'n "sylweddol", a bod gorlifoedd storm yn gweithredu am dros 916,000 o oriau.
Dywedodd Dŵr Cymru fod y nifer fwy o ollyngiadau o ganlyniad i dywydd gwlyb yn 2023, gan fod gorlifoedd storm wedi'u cynllunio i weithredu pan fydd gormod o ddŵr glaw yn mynd i mewn i'r system.
8 Chwefror 2024
Cyhoeddodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ei Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru. Galwodd ar Dŵr Cymru i:
- egluro sut mae’n cynllunio ar gyfer pwysedd o ran yr hinsawdd yn y dyfodol, er mwyn lliniaru digwyddiadau llygredd difrifol.
- ymrwymo i osod targed mwy ymestynnol ar gyfer lleihau achosion o lygredd erbyn 2030; ac
- ymrwymo i uchelgais o ddim achosion o lygredd yn yr amser byrraf posibl.
Mae Llywodraeth Cymru, Ofwat, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wedi ymateb.
22 Tachwedd 2023
Cafodd Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU ragor o dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i ansawdd dŵr yng Nghymru.
Bu ymgyrchwyr (gan gynnwys yr Athro Peter Hammond), Cyfoeth Naturiol Cymru, Ofwat a Dŵr Cymru yn trafod adroddiadau am ollyngiadau dŵr gwastraff anghyfreithlon heb eu trin a materion eraill.
9 Tachwedd 2023
Clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith dystiolaeth gan Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat am y cynnydd parhaus o ran gorlif carthffosydd yn gweithredu y tu hwnt i amodau eu trwydded.
Craffwyd ar berfformiad amgylcheddol diweddar Dŵr Cymru, ac adroddodd ynghylch dadansoddiad a oedd yn dangos nifer o achosion o dorri amodau trwyddedau ledled Cymru. Craffwyd ar Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch ei ymateb i’r digwyddiadau hynny.
24 Hydref 2023
>Diweddarwyd camau gweithredu Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru i ddangos cynnydd yn erbyn y camau gweithredu.
23 Hydref 2023
Roedd Adroddiad ar Berfformiad Cwmniau Dŵr gan Ofwat yn graddio Dŵr Cymru fel cwmni a oedd “ar ei hôl hi”. Bydd yn rhaid i Dŵr Cymru ddychwelyd arian i gwsmeriaid drwy leihau biliau o ganlyniad i hyn.
19 Hydref 2023
Adroddwyd bod Dŵr Cymru wedi “cyfaddef ei fod yn gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon o ddwsinau o'i weithfeydd prosesu”.
Gwnaed y dadansoddiad o ddata Dŵr Cymru a arweiniodd at yr adroddiad gan yr Athro Peter Hammond o'r ymgyrch Windrush Against Sewage Pollution (WASP). Roedd yn dangos bod “2,274 diwrnod o dorri trwydded yn ymwneud â gollwng carthion heb ei drin” rhwng 2018 a 2023.
Mewn ymateb, cadarnhaodd Dŵr Cymru ei gynlluniau i gyflymu buddsoddiad ar gyfer gwella ansawdd dŵr, gan gynnwys buddsoddiad o £20 miliwn mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff newydd yn Aberteifi, a oedd wedi’i nodi fel un o’r safleoedd a oedd wedi gwneud waethaf o ran perfformiad.
2 Hydref 202
Cyflwynodd Dŵr Cymru ei Gynllun Busnes arfaethedig ar gyfer 2025-30 i Ofwat.
Os cymeradwyir ef, bydd Dŵr Cymru yn buddsoddi bron £19 biliwn yn yr amgylchedd rhwng 2025 a 2030 – sydd 84% yn rhagor nag a fuddsoddodd rhwng 2020 a 2025. Mae’r swm hwn, fodd bynnag, wedi cynyddu ers hynny, i gynnwys gwariant ychwanegol ar yr amgylchedd, ochr yn ochr â chynnydd arfaethedig i filiau blynyddol cyfartalog cwsmeriaid.
25 Gorffennaf 2023
Ysgrifennodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at Dŵr Cymru yn mynegi pryder ynghylch ei ddirywiad o ran ei berfformiad amgylcheddol.
Ymatebodd Dŵr Cymru gan roi esboniadau am y dirywiad. Dywedodd y “dylid ystyried y sychder a'r tymheredd uchel a brofwyd yn 2022 wrth asesu ein perfformiad llygredd.”
12 Gorffennaf 2023
Israddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru Dŵr Cymru i sgôr 2-seren (sef, bod angen gwella) (yr uchafswm posibl yw 4-seren) yn dilyn dirywiad pellach o ran ei berfformiad amgylcheddol.
Adroddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod achosion o lygredd wedi codi 7 y cant yn 2022, a bod Dŵr Cymru wedi achosi 89 o ddigwyddiadau llygredd carthion (cafodd 84 o’r rhain eu categoreiddio fel rhai oedd yn cael effaith amgylcheddol isel ac roedd pump ohonynt yn cael eu hystyried fel rhai oedd yn cael effaith fawr neu sylweddol).
Hefyd, bu dirywiad o 7 y cant yn ôl yr hyn y mae Dŵr Cymru ei hun yn nodi ynghylch ei berfformiad o ran digwyddiadau llygredd o gymharu â 2021, gyda dim ond 69 y cant o achosion o lygredd wedi’u hunan-nodi yn 2022.
15 Mawrth 2023
Cynhaliodd Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU ddwy sesiwn dystiolaeth a oedd yn edrych ar ansawdd dŵr yng Nghymru gydag ymgyrchwyr, cwmnïau dŵr ac Ofwat.
Roedd Cadeirydd y Pwyllgor, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, yn galw am ragor o frys i atal rhagor o ollyngiadau carthion niweidiol.
5 Gorffennaf 2022
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Dasglu Ansawdd Afonydd Gwell yng Nghymru i “werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifo yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym”.
Cyhoeddwyd pum cam gweithredu ar gyfer pob un o'r pum maes a nodwyd bod angen cymryd camau ychwanegol ynddynt.
Dechrau 2022
Mewn ymateb i brotestiadau cyhoeddus dros ollyngiadau carthion, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ymchwiliad cychwynnol i orlifoedd carthffosydd a'u heffaith ar ansawdd dŵr.
Gwnaeth nifer o argymhellion i Dŵr Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar well monitro a gwell dulliau adrodd ynghylch gollyngiadau carthion a'u heffaith.
Mewn ymateb, cydnabu Dŵr Cymru fod “angen gwneud rhagor, ac y gellir gwneud rhagor i leihau faint o ollyngiadau sydd o Orlifoedd carthffosydd/gorlifoedd storm cyfun [CSO]”.
Ceir rhagor o fanylion yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.
Erthygl gan Lorna Scurlock a Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru