Ymddengys nad yw Cymru yn ddim agosach at gyflwyno treth tir gwag.
Ni all Llywodraeth Cymru gyflwyno’r dreth nes bydd Llywodraeth y DU yn cytuno i ddatganoli’r pwerau angenrheidiol.
Ond, yn ôl Llywodraeth Cymru, ni yw ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch datganoli cymhwysedd ar gyfer treth tir gwag wedi symud ymlaen dim.
Mae’n honni bod Llywodraeth y DU wedi newid y rheolau droeon o ran y wybodaeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei darparu er mwyn datganoli’r pwerau trethu perthnasol.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud sylw cyhoeddus ar y mater hyd yma.
Sut y daethom i’r fan hon?
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Llywodraeth Cymru i greu trethi datganoledig newydd. Yn 2017 cynigiodd Llywodraeth Cymru bedwar syniad posibl ar gyfer trethi:
- treth ar blastig untro
- ardoll i ariannu gofal cymdeithasol
- treth ar dwristiaeth
- treth ar dir gwag
Yn 2018, dewisodd Llywodraeth Cymru dreth tir gwag i “brofi’r pwerau” a nodwyd yn Neddf Cymru 2014 (gweler isod). Nod y dreth yw cymell datblygiadau tai newydd a chynyddu datblygiadau masnachol ar dir gwag.
Sut mae'r broses yn gweithio?
Cyhoeddwyd Papur Gorchymyn gyda Deddf 2014: Bil Cymru: Atebolrwydd a Grymuso Ariannol. Mae’r papur yn cynnwys y meini prawf i’w defnyddio wrth asesu unrhyw drethi newydd posibl. Mae’r rhain yn cynnwys i ba raddau y gallai'r dreth newydd:
- effeithio ar bolisi ariannol neu facro-economaidd y DU;
- cynyddu risgiau o ran osgoi talu trethi neu greu beichiau ychwanegol o ran cydymffurfio i fusnesau a/neu unigolion;
- cyd-fynd â chyfrifoldebau datganoledig.
Mae’r papur hefyd yn cynnwys y manylion y mae angen i Lywodraeth Cymru eu darparu wrth gynnig treth newydd i’w datganoli. Mae'r rhain yn cynnwys:
- y sylfaen drethu
- y refeniw a'r effaith economaidd a ragwelir;
- yr effaith a ragwelir ar refeniw'r DU neu o ran rhyngweithio â’r trethi ar godir drwy’r DU gyfan;
- yr effeithiau disgwyliedig ar fusnesau ac unigolion;
- asesiad yn seiliedig ar yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys Deddf Hawliau Dynol 1998, Ddeddf Cydraddoldeb 2010; a
- chynlluniau casglu a chydymffurfio.
Os bydd Llywodraeth y DU yn cytuno bod y dreth arfaethedig newydd yn bodloni’r meini prawf, bydd angen i ddau Dŷ’r Senedd a Senedd Cymru gymeradwyo Gorchymyn y Cyfrin Gyngor cyn y gellid datganoli’r pwerau trethu i Gymru.
Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud?
Ym mis Medi 2020, cyflwynodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, gais ffurfiol i Lywodraeth y DU ddatganoli cymhwysedd trethu ychwanegol ar gyfer treth tir gwag ym mis Mawrth 2020.
Dywedodd y Gweinidog fod y cais yn dilyn “dwy flynedd o waith gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Drysorlys Ei Mawrhydi wybodaeth ddigonol i asesu cynigion Llywodraeth Cymru”.
Fodd bynnag, roedd y Gweinidog yn feirniadol o’r broses:
Mae’r profiad o symud drwy’r broses wedi bod yn hirfaith ac yn heriol, gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi yn gofyn yn barhaus am fanylion ynglŷn â gweithrediad penodol y dreth arfaethedig – mater i Gymru – yn hytrach na gwybodaeth ynglŷn â datganoli cymhwysedd ar gyfer deddfwriaeth mewn maes trethu newydd.
Teimlai’r Gweinidog fod y broses yn anaddas, gan ddweud “y gall Trysorlys Ei Mawrhydi symud y pyst o ran pa wybodaeth sydd ei hangen ar unrhyw adeg”.
Roedd yn amau a fyddai pwerau trethu newydd yn cael eu datganoli i Gymru. Dywedodd y Gweinidog:
O ystyried yr heriau yr ydym wedi’u hwynebu wrth hebrwng y maes penodol a chul iawn hwn o gymhwysedd deddfwriaethol drwy’r system, mae’n anodd rhag-weld sefyllfa lle gallai Llywodraeth Cymru lwyddo i ddadlau’r achos dros gymhwysedd trethu pellach, os bydd dull gweithredu Llywodraeth y DU yn parhau.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb yn ffurfiol i’r materion hyn hyd yma.
A oes ateb?
Roedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried yn flaenorol a oes achos dros gael asesiad gan drydydd parti o’r wybodaeth y mae’n ei darparu i ategu cynnig i ddatgnoli pwerau deddfu. Byddai hynny’n rhoi goruchwyliaeth annibynnol o’r broses.
Nid yw’n glir a yw Llywodraeth Cymru wedi gallu symud ymlaen â’r cynnig hwn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain dadl ar ddatganoli pwerau trethu newydd ddydd Mawrth 5 Hydref. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV.
Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru