Cyhoeddwyd 08/10/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
8 Hydref 2013
Ar 2 Hydref, lansiodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
borth ar y we fel rhan o ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus i annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus
Dechreuodd yr ymgyrch yn 2012 gyda chyfres o seminarau ledled Cymru. Ar ôl archwilio’r rhwystrau o ran gwella cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad
Pwy sy’n rhedeg Cymru gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, aeth paneli o fenywod dylanwadol o sectorau gwahanol ati i drafod syniadau ymarferol i wella cynrychiolaeth menywod mewn rhannau amrywiol o fywyd cyhoeddus.
[caption id="attachment_472" align="alignright" width="300"]
Source: POWiPL[/caption]
Defnyddiwyd prif ganfyddiadau’r seminarau unigol fel sail ar gyfer cynhadledd genedlaethol lle gwahoddwyd paneli o arbenigwyr a siaradwyr gwadd i gynnig syniadau ymarferol ar gyfer gwella cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus.
O ganlyniad i’r gynhadledd, ysgrifennodd y Llywydd at Arweinwyr y Pleidiau gan ofyn i’w pleidiau ystyried cymryd camau i sicrhau bod mwy o fenywod yn sefyll fel ymgeiswyr etholiadol yn 2016.
Mae’r Llywydd hefyd wedi lansio
cyfres o ddarlithoedd sy’n tynnu sylw at fenywod amlwg mewn meysydd y mae dynion wedi bod yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol; porth ar y we a fydd yn cynnwys manylion am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant priodol a chynllun mentora wedi’i anelu at fenywod.
Cynrychiolaeth menywod ym maes gwleidyddiaeth
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a hynny yn 2003. Rhwng 2006 a 2007, roedd yr Aelodau Cynulliad yn cynnwys mwy o fenywod na dynion;
- Mae’r Cynulliad wedi cynnwys canran o gynrychiolwyr benywaidd sy’n gyson uwch na Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon;
- Ar ôl etholiad 2011, roedd nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd yn is na’r ail a’r trydydd Cynulliad, ac ar hyn o bryd mae 25 o Aelodau Cynulliad benywaidd, sef 42 y cant o’r Cynulliad;
- Ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol yn 2012, roedd 27 y cant o gynghorwyr Cymru yn fenywod, o gymharu â 25 y cant yn 2008;
- Ym mis Mai 2011, Rosemary Butler AC oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi’n Llywydd ar y Cynulliad ac yn 2010, Cheryl Gillan oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru;
- Yn San Steffan, mae 18 y cant o Aelodau Seneddol Cymru yn fenywod (saith Aelod Seneddol), tra bo 22 y cant o’r Aelodau Seneddol ledled y DU yn fenywod.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r defnydd o fesurau arbennig gan rai pleidiau gwleidyddol i annog ymgeiswyr benywaidd i sefyll, gan felly gynyddu nifer y cynrychiolwyr benywaidd, wedi bod yn ganolog i’r broses o gyflawni lefel uchel o gydbwysedd rhwng y rhywiau yn y Cynulliad ers datganoli.
Fodd bynnag, ers llwyddo i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn etholiad 2003, mae lefel y cynrychiolwyr benywaidd wedi dirywio.
Ffigur 1: Canran y cynrychiolwyr benywaidd, fesul senedd
[caption id="attachment_473" align="aligncenter" width="300"]
Ffynonellau: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin[/caption]
Yn etholiad y Cynulliad yn 2011, cafodd
llai o Aelodau benywaidd eu hethol na’r ddau Gynulliad blaenorol. Gellir priodoli’r dirywiad hwn i gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys
symud i ffwrdd o’r arfer o ddefnyddio mesurau arbennig i hyrwyddo ymgeiswyr benywaidd ac ymddeoliad rhai o’r genhedlaeth gyntaf o fenywod a etholwyd yn dilyn datganoli.
Pe bai’r Cynulliad yn cael ei gyfrif fel senedd ar wahân yn
rhestr yr Undeb Rhyngseneddol o’r seneddau â’r nifer fwyaf o gynrychiolwyr benywaidd,
byddai Cymru bellach yn y nawfed safle yn y byd (allan o 187 o wledydd).
San Steffan
O gymharu â’r gynrychiolaeth wleidyddol gref o fenywod a sicrhawyd yn y Cynulliad, mae’r gyfran o fenywod yn senedd San Steffan llawer yn is.
Ar hyn o bryd, mae ychydig dros
un o bob pum Aelod Seneddol yn fenyw - dyma’r nifer a’r gyfran uchaf o Aelodau Seneddol benywaidd erioed. Cyn 1987, nid oedd nifer yr Aelodau Seneddol benywaidd erioed wedi bod yn fwy na phump y cant.
Cafodd y nifer fwyaf o fenywod eu hethol yn Aelodau Seneddol ledled y DU yn etholiad 2010. O’r 650 o Aelodau Seneddol a etholwyd yn 2010, cafodd 143 o seddi yn San Steffan (
22 y cant o’r cyfanswm) eu
hennill gan fenywod. Ar hyn o bryd,
mae 18 y cant o ASau Cymru yn fenywod (saith Aelod Seneddol). Ar hyn o bryd, menywod yw 181 o’r Arglwyddi yn Nhŷ’r Arglwyddi (
22 y cant).
Awdurdodau Lleol
Mae 26 y cant o’r cynghorwyr yng Nghymru yn fenywod, a’r tri awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o gynghorwyr benywaidd yw Abertawe, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.
Ffigur 2: Canran y cynghorwyr benywaidd fesul awdurdod lleol, 2012*
[caption id="attachment_474" align="aligncenter" width="544"]
* Nid yw'n cynnwys etholiad Ynys Môn yn 2013, ond mae'n cynnwys Bryncrug is-etholiad / Llanfihangel yng Ngwynedd yn 2012.
Ffynhonnell: Gwefannau’r awdurdodau lleol[/caption]
Erthygl gan
Hannah Johnson