Y gaeaf diwethaf, cafodd Cymru ei churo gan Storm Bert a Storm Darragh, gan achosi llifogydd, toriadau pŵer eang, a tharfu ar drafnidiaeth.
Bu Pwyllgor Newid Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn craffu ar ymateb sefydliadau cyhoeddus a phreifat i'r stormydd hyn yn gynharach eleni. Cafodd ei ganfyddiadau eu cyhoeddi ym mis Medi, a chânt eu trafod yn y Senedd ar 12 Tachwedd.
Cadw i fynd â chyflymder datblygiadau rhagolygon
Mae rhybuddion tywydd a llifogydd yn hanfodol bwysig i rybuddio sefydliadau ac unigolion am aflonyddwch posibl. Clywodd yr ymchwiliad fod llawer o awdurdodau lleol a thrigolion wedi teimlo bod y rhagolygon a'r rhybuddion cyn Storm Bert wedi bod yn annigonol.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd glaw melyn, yr haen isaf o rybudd, cyn Storm Bert. Clywodd yr ymchwiliad nad oedd unrhyw rybudd llifogydd wedi'i gyhoeddi ym Mhontypridd nes bod dŵr llifogydd eisoes dros droedfedd o ddyfnder yn y strydoedd.
Caiff rhybuddion tywydd garw a llifogydd eu cyhoeddi gan dri sefydliad – y Swyddfa Dywydd, Canolfan Rhagolygon Llifogydd (FFC), a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dyweodd Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhagolygon Llifogydd fod gwasanaethau rhagolygon llifogydd yng Nghymru yn gwyro oddi wrth Loegr, lle mae ffocws a buddsoddiad uwch ar fodelu cyfrifiadurol mewn rhagolygon, amseroedd arweiniol hirach, a threialu rhagolygon ar gyfer llifogydd dŵr wyneb (dim ond llifogydd afonydd a ystyrir ar hyn o bryd).
Gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru fynediad at y technolegau rhagolygon diweddaraf; y gall Cymru ddylanwadu ar flaenoriaethau ymchwil a datblygu; ac y gall Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd rhan mewn treialon rhagolygon yn y dyfodol.
Cododd yr ymchwiliad bryderon pellach ynglŷn â rhagolygon yng Nghymru, a ddisgrifir ar wahân mewn Erthygl Ymchwil y Senedd.
Anghydraddoldebau o ran cofrestru i gael rhybuddion
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru “[na]d yw lefelau cofrestru mewn sawl rhan o Gymru mor uchel ag y byddem yn hoffi.”.
Mewn arolwg y Groes Goch Brydeinig yn 2024, dywedodd 36% o ymatebwyr o Gymru eu bod heb gofrestru ar gyfer rhybuddion oherwydd na wyddent sut i wneud hynny, neu heb glywed amdanynt. Canfu adroddiad y Groes Goch Brydeinig mai dim ond 9% o'r aelwydydd incwm isaf ar draws y DU oedd wedi cofrestru ar gyfer rhybuddion, o gymharu â 31% yn yr ardaloedd incwm uchaf.
Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o systemau rhybuddio ymhlith grwpiau mwy agored i niwed.
Problemau o ran canfod pobl agored i niwed
Achosodd gwyntoedd eithafol Storm Darragh ddifrod difrifol i seilwaith dosbarthu trydan. Roedd hyn yn arbennig o wir yng ngorllewin Cymru, lle roedd miloedd o aelwydydd wedi colli pŵer.
Mae cwmnïau cyfleustodau yn cynnal cofrestrau gwasanaeth blaenoriaeth, sydd â’r bwriad i’w cynorthwyo i ganfod preswylwyr agored i niwed, ac anfon adnoddau atynt yn dilyn toriadau gwasanaeth.
Roedd awdurdodau lleol yn beirniadu cwmnïau o ran cynnal a chadw’r cofrestrau hyn - dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod cofrestr yn anghywir, yn hen, ac wedi gorfod cael ei fetio gan staff y cyngor. Roedd cynrychiolwyr Dŵr Cymru ac SP Energy Networks yn cydnabod y diffyg integreiddio data rhwng sefydliadau, a diffiniadau amrywiol o agored i niwed.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, wrth y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r system JIGSO, sy'n galluogi mynediad at wybodaeth sy'n ymwneud â phobl agored i niwed mewn eiddo sydd 'mewn perygl' ac sydd ar gael i ymatebwyr yn ystod digwyddiad mawr.
Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gyfrannwr arall i ymchwiliad y Pwyllgor wedi cyfeirio at y prosiect hwn. Gofynnodd am eglurder ar y defnydd o JIGSO a’i effeithiolrwydd, ac a allai ddisodli'r defnydd o gofrestrau gwasanaeth blaenoriaeth.
Pwysigrwydd cymunedau lleol
Canfu adroddiad Ymgysylltu â Dinasyddion y Pwyllgor bod llawer o drigolion yr effeithiodd y stormydd arnynt, wedi elwa o gymorth cymunedol lleol, a oedd yn amrywio o ffermwyr lleol yn helpu i wacáu cartrefi a chlirio malurion, i gymdogion yn darparu llusernau.
Ategodd y Pwyllgor alwad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) i Lywodraeth Cymru hwyluso cynllunio gwytnwch a arweinir gan y gymuned drwy sefydlu cynlluniau llifogydd lleol wedi'u cyd-gynllunio, a grwpiau gwytnwch cymunedol.
Pryderon am "seilwaith sy'n heneiddio"
Cafodd ystod eang o seilwaith ei ddifrodi yn ystod stormydd Bert a Darragh.
Ym Merthyr Tudful, agorodd llyncdwll 14m o ddyfnder ar ystâd breswyl, wedi’i achosi pan gwympodd ceuffos tanddaearol o oes Fictoria. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r cyngor bron wedi gorffen ei waith o adfer y llyncdwll ar gost o dros £4 miliwn.
Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf wrth y Pwyllgor y cafodd dros £8 miliwn o ddifrod yn ystod Storm Bert, er gwaethaf buddsoddi dros £100 miliwn ar welliannau i'r seilwaith ers 2020.
Dywedodd Cyngor Sir Powys nad yw ei rwydwaith priffyrdd wedi'i adeiladu na'i gynllunio i safonau modern, a dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent fod llawer o'i seilwaith wedi cyrraedd diwedd ei oes o ran yr hyn y cafodd ei gynllunio ar ei gyfer, ac na all fodloni’r lefelau gwytnwch sy'n ofynnol i gwrdd â newid yn yr hinsawdd a'r digwyddiadau stormydd sy’n digwydd yn gyflym ac sydd ar gynnydd.
Llifogydd yng Nghlydach, Abertawe, yn 2023

Soniodd cynghorwyr am gyfyngiadau Cynllun Cymorth Ariannol Brys Llywodraeth Cymru (EFAS), sy'n rhannol ad-dalu awdurdodau lleol am atgyweiriadau uwchlaw trothwy penodol. Roedd rhywfaint o ddifrod a oedd yn gysylltiedig â storm y tu allan i gwmpas y Cynllun, ac roedd rhai awdurdodau lleol yn teimlo bod y trothwyon yn rhy uchel.
Roedd ceuffosydd – sianeli dŵr tanddaearol o waith dynol – yn bryder arbennig. Mae ceuffosydd yn aml mewn perchnogaeth breifat ac mewn cyflwr gwael, a dyma, fel arfer, yw’r canolbwynt i ddifrod ar ôl cael eu gorlifo gan falurion storm.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai trothwyon y Cynllun gael eu hadolygu, a bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru ac yn hysbysebu ei chanllawiau ar gyfer pobl sy'n gyfrifol am seilwaith dŵr, fel ceuffosydd, yr effeithir arno gan stormydd.
Y tu hwnt i goncrit: dulliau ymdopi ar raddfa dalgylch a natur
Yn draddodiadol, mae amddiffyniad rhag llifogydd wedi canolbwyntio ar seilwaith cadarn, 'llwyd', fel draeniau, ceuffosydd, ac argaeau. Roedd tystion yr ymchwiliad yn cefnogi symud tuag at ddulliau ymdopi tymor hwy, ar raddfa dalgylch a natur o ran lliniaru rhag llifogydd.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Strategaeth 10 mlynedd Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM), gyda chefnogaeth dyraniadau cyllid blynyddol ar gyfer prosiectau penodol. Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo â galwad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i symud tuag at strategaeth 30 mlynedd, er mwyn hwyluso penderfyniadau buddsoddi mwy uchelgeisiol a blaengar.
Mae'r Comisiwn hefyd yn cefnogi newid tuag at ddulliau ymdopi ar raddfa ddalgylch o ran lliniaru rhag llifogydd, yn hytrach nag ymyriadau sydd wedi'u cyfyngu i leoliadau unigol neu ar lefel awdurdod lleol. Cyfeiriodd at enghreifftiau cadarnhaol yn Nyffryn Conwy a dalgylch Brynbuga. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cefnogi rhagor o ffocws ar lefel dalgylch, ond yn cyfeirio at yr her o gydbwyso mentrau tymor byr a hirdymor.
Mae rheoli llifogydd yn naturiol yn defnyddio prosesau naturiol i storio dŵr i fyny'r afon o ardaloedd sy'n agored i lifogydd, ac arafu gollwng dŵr i nentydd ac afonydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru y gall rheolau cynllunio wthio datblygwyr "i lawr llwybr o arllwys concrit, sy'n ddatrysiad nad ydym am ei wneud". Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd y bydd cynllun cyllido presennol rheoli llifogydd yn naturiol yn parhau yn y blynyddoedd ariannol yn y dyfodol, a bod dulliau’r cynllun wedi'u hymgorffori mewn fframweithiau polisi.
Meithrin gwytnwch ar gyfer dyfodol ansicr
Mae un o bob saith cartref yng Nghymru ar hyn o bryd mewn perygl o lifogydd, a rhagwelir y bydd 110,000 arall mewn perygl erbyn 2120 oherwydd newid hinsawdd. Fis diwethaf, argymhellodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU fod angen i gynlluniau addasu'r llywodraeth gyfrif am senarios hinsawdd mwy eithafol erbyn canol y ganrif hon.
Mae canfyddiadau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn taflu goleuni ar yr angen i feithrin gwytnwch mewn byd sy'n newid yn gyflym. Yn ei hymateb derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor.
Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV ar 12 Tachwedd.
Erthygl gan Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru