Meddygon awyr i'r adwy! - Y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS)

Cyhoeddwyd 20/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

20 Ebrill 2015 Erthygl gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Ar ddiwedd mis Ebrill 2015 caiff Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru ei lansio am gyfnod treialu o 12 mis.  Ar ôl y 12 mis cyntaf bydd y gwasanaeth yn cael ei asesu a'i werthuso er mwyn gweld sut y gellir ei gyflwyno ymhellach.  Mae dadl yn y Cyfarfod Llawn ar EMRTS Cymru wedi ei threfnu ar gyfer dydd Mawrth 21 Ebrill. [caption id="attachment_2787" align="alignright" width="300"]Llun o flickr gan Richard Szwejkowski. Trwyddedwyd o dan Creative Commons. Llun o flickr gan Richard Szwejkowski. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.[/caption] Yn dilyn y broses recriwtio, bydd gwasanaeth EMRTS Cymru yn cael ei ddarparu gan dîm o feddygon y GIG sydd wedi'u hyfforddi i safon uchel, o feddygaeth frys, anesthesia a gofal dwys. Byddant yn gweithio ar y cyd â pharafeddygon gofal critigol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Bydd EMRTS Cymru yn gyfrifol am:
  • Ymateb i argyfyngau meddygol a thrawmatig yn y lleoliad, gan gynnwys darparu cymorth meddygol mewn digwyddiadau mawr a digwyddiadau damweiniau màs;
  • Sefydlogi a throsglwyddo cleifion sy'n dibynnu ar ymateb cyflym o ysbytai cyffredinol dosbarth i ganolfannau arbenigol;
  • Cymorth gofal critigol - darparu gwell sefydlogrwydd a throsglwyddo mamau a babanod;
  • Darparu cymorth awyr a ffordd i drosglwyddo timau newydd-anedig yn gyflym i argyfyngau sy'n bygwth bywyd ac sy'n dibynnu ar ymateb cyflym.
  • Adfer Pediatrig - trosglwyddo cleifion sy'n dibynnu ar ymateb cyflym (sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan yr ysbyty cyfeirio).
Bydd y gwasanaeth EMRTS yn trin, yn sefydlogi ac yn trosglwyddo'r cleifion mwyaf gwael a'r rhai sydd wedi'u hanafu fwyaf i'r ysbyty mewn hofrennydd neu ar y ffordd.  Bydd y gwasanaeth yn defnyddio tri ambiwlans awyr elusennol presennol Ambiwlans Awyr Cymru (WAA). Bydd hyn yn ychwanegol at wasanaeth meddygol brys hofrennydd presennol yr elusen (HEMS) sy'n gweithredu ledled Cymru, a bydd hefyd yn defnyddio Cerbydau Ymateb Cyflym (RRV) o'r radd flaenaf.   Bydd tîm gofal critigol EMRTS Cymru hefyd:
  • Yn darparu gwaed a chynhyrchion gwaed, fel plasma, yn lleoliad yr argyfwng - nodwedd unigryw i Gymru nad yw ar gael y tu allan i'r fyddin mewn unrhyw fan arall yn y byd.  Mae hyn yn cael ei ddarparu mewn cydweithrediad agos â Gwasanaeth Gwaed Cymru;
  • Cludo cleifion yn y Cerbydau Ymateb Cyflym - Cymru yw'r wlad gyntaf i wneud hyn hefyd;
  • Cludo offer diagnostig datblygedig, gan gynnwys dadansoddwyr uwchsain a cheulo gwaed;
  • Defnyddio system casglu data integredig fel y gall yr ysbyty neu'r ystafell reoli gael ei chysylltu'n fyw â'r claf drwy offer telathrebu symudol.
Bydd tîm gofal critigol EMRTS Cymru yn gweithredu ar y ffordd ac yn yr awyr 12 awr y dydd o feysydd awyr Ambiwlans Awyr Cymru Abertawe a'r Trallwng. Bydd y ceir wedi'u lleoli'n strategol ar draws Cymru.  Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething AC, wedi nodi  y byddwn yn gallu anfon yr ystafell frys at y claf yn effeithiol.  Credir y bydd y gwasanaeth yn helpu elusen Ambiwlans Awyr Cymru i arbed hyd yn oed mwy o fywydau. Bydd y gwasanaeth yn gwasanaethu Cymru gyfan, a bydd yn gallu cyrraedd 95 y cant o'r boblogaeth mewn hofrennydd a 46 y cant ar y ffordd o fewn 30 munud.  Amcangyfrifwyd y gallai'r gwasanaeth gyfrannu at welliant o o leiaf 40 y cant mewn cyfraddau goroesi o drawma mawr yng Nghymru a gallai leihau amseroedd trosglwyddo i ofal ysbyty arbenigol gan fwy na 40 y cant. Mae Dr Rhys Thomas o EMRTS wedi  nodi  bod:
Y tîm gofal critigol yn gasgliad o bobl anhygoel o dalentog o bob rhan o Gymru a thu hwnt.  Dyma'r tro cyntaf erioed i'r lefel hon o hyfforddiant gael ei gynnal y tu allan i'r fyddin. Gyda chyfarpar newydd arloesol a chynhyrchion gwaed yn y cerbydau hefyd, bydd y recriwtiaid newydd yn creu tîm gofal critigol gyda rhai o'r triniaethau a'r sgiliau clinigol mwyaf datblygedig yn y byd.
Mae Dr Dinendra Gill, ymgynghorydd mewn meddygaeth frys yn Ysbyty Treforys  wedi nodi  :
Y mater allweddol yw bod y gwasanaeth hwn yn mynd i ddarparu gofal critigol neu ofal gwell i'r claf.  Felly mae'r rhain yn [...] ymyriadau sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd pan fydd y claf yn cyrraedd yr adran achosion brys, yr uned gofal dwys neu'r theatr a'r hyn yr ydym yn ei wneud yw dod â hynny yn ei flaen mewn amser ac yn gwneud hynny mor agos at y man lle mae'r claf yn cael ei anafu neu, o ran hynny, mor agos at yr adeg y mae'n cael yr ataliad ar y galon.  [...] Mae'n faes cyffrous i weithio ynddo, mae'n gwthio sgiliau gwneud penderfyniadau clinigol pobl a bydd hefyd yn gwneud arbenigeddau yng Nghymru yn fwy deniadol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi cyllid o £1.9 miliwn yn 2014-15 ar gyfer datblygu'r gwasanaeth, a chyllid refeniw rheolaidd o £2.9m o 2015-16 i gefnogi gwasanaeth EMRTS Cymru. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am EMRTS Cymru ar wefan  Ambiwlans Awyr Cymru .