Maes Awyr Caerdydd – Faint o bobl sy’n ei ddefnyddio?

Cyhoeddwyd 05/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ym mis Mawrth 2013, prynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd yn dilyn cyfnod o ddirywiad yn nifer y teithwyr ac adroddiadau am ddiffyg buddsoddiad (PDF 460KB) gan y cyn-berchnogion. Yn yr erthygl hon, rydym yn edrych ar y tueddiadau yn nifer teithwyr y Maes Awyr a sut mae cyrchfannau teithiau awyren wedi newid.

Ar drothwy’r ddadl yn y Cynulliad ar 10 Mawrth 2020, gallwch gael rhagor o wybodaeth am Lywodraeth Cymru yn prynu Maes Awyr Caerdydd yn ein herthygl gyntaf yn y gyfres hon.

Faint o deithwyr sydd wedi bod yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd?

Mae'r graff isod yn dangos bod ychydig dros filiwn o deithwyr wedi defnyddio Maes Awyr Caerdydd yn 2012*. Roedd hyn bron 50 y cant yn llai na nifer y teithwyr yn 2008.

Ar ôl codi a gostwng ym mlynyddoedd cynnar perchnogaeth Llywodraeth Cymru, ers 2014 mae nifer y teithwyr wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan gyrraedd bron i 1.6 miliwn yn 2018.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd, Data gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (Saesneg yn unig), 2018, Terminal PAX Timeseries (Tabl 10.3)

Niferoedd teithwyr: y “trobwynt”

Yn ei Uwchgynllun 2040 (PDF 6.1 MB) (Saesneg yn unig), mae Maes Awyr Caerdydd yn datgan mai ei nod yw cyrraedd 2 filiwn o deithwyr erbyn 2021. Dywedodd Prif Weithredwr y Maes Awyr wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC) am arwyddocâd y targed hwn ar gyfer perfformiad ariannol y Maes Awyr:

[…] the growth in passenger numbers is so critical, because you do reach a kind of tipping point around the 2 million mark where those fixed costs start to be balanced out and then the profitability starts to pick up really quickly. So, it emphasises again the importance for us of getting passenger numbers back up to that level.

Y costau sefydlog y mae’r Prif Weithredwr yn sôn amdanynt yw'r costau hynny y mae’r maes awyr yn eu talu waeth beth yw nifer y teithwyr. Gall y costau hyn gynnwys pethau fel rheoleiddio a threfniadau diogelwch.

Mewn llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Chwefror 2020, nododd Llywodraeth Cymru fod rhagolygon cyfredol y Maes Awyr yn awgrymu y bydd yn cyrraedd y targed o 2 filiwn o deithwyr yn 2025.

Effaith cwymp Flybe ar Faes Awyr Caerdydd

Yn gynnar heddiw (5 Mawrth 2020), cyhoeddodd Flybe - a oedd yn gweithredu o Faes Awyr Caerdydd - ei fod wedi rhoi’r gorau i fasnachu a bod ei holl deithiau awyren wedi’u canslo. Daeth hyn ar ôl adroddiadau ei fod wedi mynd i drafferthion ariannol a’i fod wedi cytuno ar fargen achub gyda Llywodraeth y DU yn gynharach eleni.

Mewn llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhwng 320,000 a 340,000 o deithwyr wedi hedfan mewn cyfnod o 12 mis ar yr wyth llwybr roedd Flybe yn eu gweithredu o Faes Awyr Caerdydd.

Yn ei datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd:

As one of the UK’s largest regional airlines, Flybe is a well-known brand across South Wales and has made a hugely positive impact on Cardiff Airport and confidence in the Airport over recent years.

Hefyd, dywedodd:

We are actively talking to a number of airlines about the opportunity that exists in flying to and from south Wales. Given the Flybe news we will focus on filling the core domestic routes which Flybe serve for the region.

Daw'r newyddion am Flybe wedi’r cyhoeddiad ym mis Medi 2019 am gwymp Thomas Cook, a oedd hefyd yn gweithredu o Faes Awyr Caerdydd. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod tua 120,000 (neu 10%) o deithwyr Maes Awyr Caerdydd wedi hedfan gyda Thomas Cook.

Cymharu Maes Awyr Caerdydd â meysydd awyr eraill

Mae adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Faes Awyr Caerdydd (Saesneg yn unig) (PDF 3MB) yn cymharu'r duedd yn nifer y teithwyr yn erbyn sampl o 19 o feysydd awyr rhanbarthol bach a chanolig yn y DU. Mae'r graff isod yn dangos sut mae niferoedd teithwyr wedi newid rhwng y ddau gyfnod, sef 2008-2012 a 2012-2018. Mae'r meysydd awyr yn cael eu trefnu yn ôl y newid canran mwyaf yn nifer y teithwyr rhwng y ddau gyfnod.

Rhwng 2008 a 2012, gwelwyd gostyngiad o 49% yn nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd. Dim ond 2 o'r 19 maes awyr yn y sampl a welodd ostyngiad mwy yn nifer y teithwyr yn ystod yr amser hwnnw, sef Maes Awyr Teesside a Maes Awyr Newquay Cernyw.

Fodd bynnag, rhwng 2012 a 2018, gwelwyd cynnydd o 56% yn nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond tri maes awyr a welodd dwf uwch yn nifer y teithwyr na Maes Awyr Caerdydd, sef Maes Awyr Newquay Cernyw, Southend Llundain a Maes Awyr Doncaster Sheffield.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd Adolygiad o Berfformiad a Gobeithion Maes Awyr Caerdydd yng Nghyd-destun Economeg Meysydd Awyr Rhanbarthol Cyfredol y DU, Northpoint (Chwefror 2020)

Mae’r cyrchfannau o Faes Awyr Caerdydd wedi newid dros amser

Tir mawr Sbaen (a'r Ynysoedd Balearaidd) yw’r gyrchfan fwyaf poblogaidd sy’n mynd o Faes Awyr Caerdydd, a chynyddodd nifer y teithwyr rhwng 2012 a 2018. Dros yr un cyfnod, tyfodd nifer y teithwyr rhwng 30,000 a 60,000 yng Ngweriniaeth Iwerddon a llawer o wledydd Ewropeaidd eraill gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, a’r Iseldiroedd.

Ym mis Mai 2018, lansiodd Qatar Airways wasanaeth rhwng Caerdydd a Maes Awyr Rhyngwladol Hamad yn Doha. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Hamad yn bwynt trosglwyddo sy'n agor y drws i amrywiaeth o gyrchfannau eraill i bobl sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd. Hedfanodd dros 55,000 o deithwyr rhwng Caerdydd a Qatar yn 2018.

Ar y llaw arall, yn ogystal â chynyddu nifer y teithwyr a chyflwyno teithiau newydd, mae cwmnïau hedfan wedi lleihau’r capasiti ar rai llwybrau, neu wedi'u tynnu yn ôl. Roedd y gostyngiad mwyaf yn nifer y teithwyr wedi’i nodi ar gyfer teithiau i Dwrci, gyda dros 20,000 yn llai o deithwyr yn hedfan yno yn 2018 nag yn 2012. Roedd data’r Awdurdod Hedfan Sifil ar gyfer 2012 yn cynnwys teithwyr ar gyfer yr Aifft a Thiwnisia, ond ni ddangoswyd bod unrhyw deithwyr wedi hedfan yno yn 2018.

Mae'r map isod yn dangos y newid o ran cyrchfannau teithiau awyren o Faes Awyr Caerdydd rhwng 2012 a 2018. Mae'r cysgodi'n nodi hyd a lled y newidiadau o ran nifer y teithwyr ar gyfer pob cyrchfan: po dywyllaf yw'r cysgod, y mwyaf yw'r twf (gwyrdd tywyll) neu'r cwymp (coch) yn nifer y teithwyr i'r cyrchfannau hynny.


Noder: Er bod data ar gael ar gyfer meysydd awyr unigol, rydym wedi defnyddio gwlad y gyrchfan yr adroddir arni yn nata'r Awdurdod Hedfan Sifil er mwyn dangos y newid yn y cyrchfannau awyrennau ar y map. Er enghraifft, mae’r newid yn nifer y teithwyr ar gyfer Sbaen yn adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng 2012 a 2018 yn nifer y teithwyr ar gyfer pob maes awyr ar dir mawr Sbaen a'r Ynysoedd Balearaidd.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd Data Meysydd Awyr yr Awdurdod Hedfan Sifil, 2012 i 2018

Y darlun yn 2019

Parhaodd y duedd gyffredinol o gynnydd yn nifer y teithwyr yn 2019 pan ddefnyddiodd bron i 1.7 miliwn o deithwyr Faes Awyr Caerdydd, sy’n gynnydd o bron i 5% dros 2018.

Mae'r graff isod yn dangos y 10 cyrchfan mwyaf poblogaidd o Faes Awyr Caerdydd yn 2019. Mae'n dangos y nifer gwirioneddol o deithwyr a chanran y teithwyr i bob cyrchfan.


Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd, Data Meysydd Awyr yr Awdurdod Hedfan Sifil 2019

O'r teithwyr hynny a hedfanodd i gyrchfannau domestig, hedfanodd bron i hanner ohonynt i Gaeredin.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd, Data Meysydd Awyr yr Awdurdod Hedfan Sifil 2019

Rhagor o wybodaeth

Ar 10 Mawrth 2020, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadl ar y maes awyr y gallwch ei gwylio ar SeneddTV.

Hefyd, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i’r maes awyr. Bydd y bedwaredd sesiwn dystiolaeth yn cael ei chynnal ar 23 Mawrth 2020, y gellir ei gwylio ar SeneddTV hefyd.

Bydd yr erthygl nesaf yn y gyfres hon yn rhoi sylw i berfformiad ariannol Maes Awyr Caerdydd.

Noder* Mae rheoleiddiwr diwydiant hedfan y DU, yr Awdurdod Hedfan Sifil, yn casglu ac yn cyhoeddi data sy'n ymwneud â gweithrediadau meysydd awyr y DU. Mae'r rhain yn cynnwys data am nifer yr hediadau i deithwyr ar deithiau awyren uniongyrchol sy’n dod i mewn ac yn mynd allan, yn hytrach na nifer y teithwyr unigol. Mae hyn yn golygu y bydd teithwyr ar deithiau dwy ffordd yn cael eu cyfrif ddwywaith. Mae'r diwydiant hedfan yn disgrifio nifer y teithiau i deithwyr fel ‘teithwyr terfynfa’. Rydym wedi defnyddio'r data hwn trwy'r erthygl gyfan, gan gyfeirio atynt fel ‘teithwyr’ neu ‘niferoedd teithwyr’.


Erthygl gan Joanne McCarthy, Lucy Morgan, Sam Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru