Llun agos o gyflwynydd radio yn siarad i feicroffon

Llun agos o gyflwynydd radio yn siarad i feicroffon

'Mae'r hyn y mae gwleidyddion yn ei ddweud, sut y maent yn ei ddweud a'i effaith yn bwysig': cynigion i fynd i'r afael â dichell fwriadol gan wleidyddion

Cyhoeddwyd 27/03/2025

Mae Pwyllgor Safonau'r Senedd yn credu bod angen cymryd camau pellach i fynd i'r afael â chelwydd bwriadol gan wleidyddion. Fel y dywed mewn adroddiad diweddar, 'Mae’r hyn y mae gwleidyddion yn ei ddweud, sut y maent yn ei ddweud a’i effaith yn bwysig. Dywed y Pwyllgor bod ‘lledaenu camwybodaeth gan ymgeiswyr a swyddogion etholedig yn fater difrifol, sydd â'r potensial i erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ymhellach'.

Mae’n argymell bod camau ‘ymarferol’ yn cael eu cymryd erbyn 2026, i gyflwyno rhagor o fesurau i atal Aelodau o’r Senedd ac ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd rhag dweud celwydd bwriadol.

Caiff argymhellion y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt ei drafod yn y Senedd ar 2 Ebrill 2025. Cyn y ddadl, mae'r erthygl hon yn nodi'r cynigion allweddol yn yr adroddiad, a'r cyd-destun ehangach y mae'r sgwrs hon yn digwydd ynddo.

Pa gamau y dylid eu cymryd?

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid rhoi camau gwahanol ar waith ar gyfer Aelodau o’r Senedd ac ymgeiswyr.

Aelodau o’r Senedd

Mae Cod Ymddygiad y Senedd yn nodi’r rheolau ar ymddygiad Aelodau Mae eisoes yn dweud bod ‘Rhaid i Aelodau weithredu’n onest’ - y Senedd yw’r unig ddeddfwrfa yn y DU sydd â rheol geirwiredd yn ei chod. Er gwaethaf hyn, dywed y Pwyllgor y dylid cryfhau’r rheol hon ymhellach i wahardd Aelodau’n benodol rhag gwneud datganiadau sy’n fwriadol gamarweiniol.

Mae’r rhan fwyaf o aelodau’r Pwyllgor yn dweud y dylid ymchwilio i gwynion drwy broses safonau'r Senedd. O dan y system hon, Comisiynydd Safonau y Senedd sy'n ymchwilio i gwynion. Caiff unrhyw dorri’r safonau a ganfyddir gan y Comisiynydd eu cyfeirio at Bwyllgor Safonau’r Senedd a fydd yn penderfynu a ddylid gosod sancsiwn, a beth ddylai’r sancsiwn hwnnw fod. Yna mae’r Senedd gyfan yn pleidleisio ar unrhyw gynigion ar gyfer sancsiynau a wneir gan y Pwyllgor.

O dan y newidiadau a gynigir gan y Pwyllgor, byddai’r Comisiynydd Safonau yn ymchwilio ac yn penderfynu a yw Aelod o’r Senedd wedi dweud celwydd yn fwriadol.  O'u cael yn euog, gellid rhoi 'hysbysiad cywiro' i Aelodau a fyddai’n ei nodi ei bod yn ofynnol iddynt gywiro'r cofnod mewn man sydd “yr un mor amlwg” â’r man y gwnaed y datganiad bwriadol ffug. Er enghraifft, dylid ei wneud ar yr un cyfrif cyfryngau cymdeithasol â’r datganiad gwreiddiol. Byddai’r Aelodau sy'n peidio â chydymffurfio â gorchymyn yn cael eu hystyried eu bod yn torri'r rheolau a byddent yn destun cosb.

Mae'r Pwyllgor eisoes wedi argymell y dylid cyflwyno system newydd i ‘ddiswyddo a disodli’ Aelodau o’r Senedd a geir yn euog o dorri’r Cod Ymddygiad i Aelodau yn ddifrifol, a hynny erbyn 2026. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn a dywed y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth ‘adalw’ cyn etholiad nesaf y Senedd.

Ystyr hyn yw, yn y dyfodol, y gallai Aelodau sy'n gwneud datganiadau dichellgar yn fwriadol gael eu disodli pe byddent yn eu cael yn euog o dorri’r rheol yn ddifrifol a bod y pleidleiswyr yn penderfynu y dylent gael eu diswyddo.

Gan gydnabod pa mor bwysig yw hi fod pobl yn ymddiried yn y system sy’n ymchwilio i achosion o dorri amodau a rhoi sancsiynau yn erbyn Aelodau, mae’r Pwyllgor yn argymell nifer o fesurau i gryfhau annibyniaeth a thryloywder y broses safonau bresennol.

Er enghraifft, mae’n dweud y dylid newid y gyfraith i ganiatáu i aelodau lleyg allanol annibynnol ymuno â Phwyllgor Safonau’r Senedd, ac y dylai unrhyw achosion o dorri’r rheolau gan Aelodau o’r Senedd gael eu cyhoeddi ar we-dudalennau Aelodau o’r Senedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn defnyddio’r gyfraith adalw arfaethedig i wneud y newidiadau cyfreithiol sy’n angenrheidiol i gyflwyno rhai o argymhellion y Pwyllgor ynghylch annibyniaeth a thryloywder.

Ymgeiswyr

Rhoddir rheolau ar waith ar gyfer pob etholiad Senedd sy’n nodi’r gyfraith ar sut y dylid cynnal yr etholiad a sut y dylai ymgeiswyr weithredu ac ymddwyn. Gelwir y rheolau hyn yn 'Orchymyn Cynnal Etholiadau '.

Mae ymgeiswyr eisoes wedi'u gwahardd rhag gwneud datganiadau ffug am gymeriad personol ymgeisydd arall yn ystod etholiad. Gall unrhyw ymgeiswyr a gyhuddir o wneud datganiad ffug gael eu hymchwilio gan yr heddlu ac, os cânt eu canfod yn euog gan lys etholiadol, eu diarddel. 

Mae’r rhan fwyaf o aelodau’r Pwyllgor wedi dweud, ar gyfer Etholiad y Senedd, y dylid ehangu’r drosedd bresennol hon i’w gwneud yn drosedd i ymgeisydd wneud datganiadau drwy ddichell fwriadol am unrhyw fater gyda’r bwriad o newid canlyniad etholiad y Senedd. Mae’n dweud y dylai’r newid hwn fod ar waith o 2026 ymlaen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion yn datblygu cynigion ar gyfer trosedd etholiadol newydd ar ddichell, ond bod angen rhagor o ymgynghori.. Dywedodd nad yw’n ymarferol, felly, i gynnwys trosedd o’r fath yn y Gorchymyn Cynnal Etholiadau ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026.

Safbwyntiau eraill

Roedd un Aelod o’r Pwyllgor, Peredur Owen Gruffydd AS, yn cytuno bod angen cryfhau’r rheolau presennol ar ddichell fwriadol a phroses Safonau’r Senedd, ond mae o’r farn y dylid cyflwyno un system weinyddol ar gyfer Aelodau ac ymgeiswyr, yn hytrach na phrosesau sancsiynau ar wahân.

Gwahoddwyd Aelodau sy’n arsylwi hefyd i gymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor. Mae Adam Price AS, Jane Dodds AS a Lee Waters AS, fel Aelodau sy’n arsylwi, yn cefnogi cyflwyno trosedd newydd ar ddichell fwriadol ar gyfer Aelodau ac ymgeiswyr, wedi’i hymchwilio gan yr heddlu a'i herlyn gan y llysoedd troseddol. Maent yn cefnogi argymhellion y Pwyllgor i wella'r system Safonau bresennol, ond nid ydynt yn meddwl y bydd y diwygiadau hyn ar eu pen eu hunain yn ddigon.

Cred James Evans AS, y pedwerydd Aelod sy’n arsylwi y bydd system safonau well a chyflwyno system 'ddiswyddo a disodli' ar gyfer achosion difrifol o dorri'r Cod Ymddygiad, fel torri rheolau geirwiredd, yn darparu 'fframwaith digon cadarn' ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw ddichell fwriadol gan Aelodau o'r Senedd.

Cam 'chwyldroadol'?

Mae’r ymgyrchwyr dros dryloywder sef, Transparency International UK ac Unlock Democracy wedi croesawu argymhellion y Pwyllgor. Roedd Transparency International UK yn eu galw'n 'bwyllog a phragmatig'.

Mae Compassion in Politics a fu’n eiriol dros drosedd newydd ar gyfer Aelodau o’r Senedd ac ymgeiswyr, yn siomedig na chafodd hyn ei argymell ar gyfer Aelodau o’r Senedd, ond mae’n dweud, serch hynny, bod y cynnig i ddiwygio’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau ar gyfer ymgeiswyr, o bosibl, yn ‘chwyldroadol’.

Yn ei adroddiad, dywed y Pwyllgor fod cydbwyso'r angen i gymryd mesurau pellach i atal dichell fwriadol â'r angen i ddiogelu rhyddid pobl i lefaru, yr hawl i etholiadau rhydd a theg a'r egwyddor y dylai seneddau fod yn rhydd o reoleiddio o’r tu allan yn ‘gymhleth’. Yn yr amser a oedd ganddo, ac ar sail y risgiau a nodwyd yn y dystiolaeth a gafodd, nid oedd yn teimlo y gallai argymell trosedd newydd ond dywedodd na ddylai 2026 fod yn ddiwedd ar y stori:

Mae’r Pwyllgor o’r farn, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn ag ymgorffori diwylliant o onestrwydd yn system ddemocrataidd Cymru sy'n mynd y tu hwnt i etholiad 2026, credwn ei fod yn fater sy'n haeddu archwiliad manwl pellach gan banel arbenigol…

Y camau nesaf

Ym mis Gorffennaf 2024 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth cyn 2026 ar gyfer datgymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a geir yn euog o ddichell fwriadol, a hynny drwy broses farnwrol annibynnol. Ailddatganwyd yr ymrwymiad hwn gan y Dirprwy Brif Weinidog gerbron y Pwyllgor Safonau ym mis Rhagfyr 2024.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi amlinellu sut y mae’n bwriadu cymodi yr ymrwymiad gwleidyddol blaenorol hwn â’i barn fwy diweddar, nad yw’n ymarferol cyflwyno trosedd newydd erbyn 2026.

Bydd Aelodau o’r Senedd yn cael cyfle i drafod yr ymateb hwn a’u barn amdani ar 2 Ebrill.

Gallwch wylio'r ddadl ar Senedd.tv

Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru