Beth yw TB buchol, a beth yw’r darlun o ran y clefyd yng Nghymru?
Mae TB buchol (twbercwlosis buchol) yn glefyd heintus a chronig a achosir gan Mycobacterium bovis (M.bovis); mae fel arfer yn effeithio ar ysgyfaint a nodau lymff gwartheg. Yn ôl y ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru, yn y 12 mis hyd at ddiwedd Ionawr 2017, cafodd 10,002 o wartheg eu difa (yn cynnwys gwartheg ac arnynt y clefyd a’r rhai a oedd yn agored i M.bovis).
Mae tueddiadau tymor hwy yn dangos tuedd ar i lawr yn gyffredinol ers yr uchafbwynt yn achosion newydd mewn buchesi yn 2008-09. Ar ôl 2009, gwelwyd gostyngiad yn nifer y gwartheg sy’n cael eu difa, ond mae’r nifer wedi bod yn cynyddu er 2013. Mae Llywodraeth Cymru yn priodoli’r cynnydd hwn i’r defnydd cynyddol o’r prawf gwaed gama interfferon (un o’r ddau brif brawf). Yn ôl Ystadegau Cwarter 4 2016 Llywodraeth Cymru, mae’r lefelau isaf o TB yng ngogledd-orllewin Cymru, ac mae’r lefelau uchaf yn ne-orllewin Cymru.
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r clefyd?
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Rhaglen Dileu TB Buchol sy’n cynnwys nifer o elfennau, gan gynnwys mesurau gwartheg a mesurau rheoli bywyd gwyllt. Y nod yn y tymor hir yw dileu TB yng Nghymru.
O dan Orchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i ddifa moch daear, os yw’n dymuno gwneud hynny, yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yn sir Benfro. Cafodd y gorchymyn hwn ei ddirymu yn 2012, oherwydd penderfyniad i ddilyn polisi o frechu moch daear. Cychwynnodd cynllun brechu peilot pum mlynedd yn 2012 yn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Oherwydd problemau gyda chyflenwad byd-eang y brechlyn ar gyfer moch daear, ataliwyd y cynllun peilot flwyddyn cyn ei gwblhau.
Ym mis Hydref 2016, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad, sef ‘Rhaglen o’r newydd ar gyfer Dileu TB’ (daeth i ben ar 10 Ionawr 2017). Un newid allweddol yw cyflwyno dull rhanbarthol yn seiliedig ar nifer yr achosion o TB. Mae’r dull hwn rhannu Cymru’n dri rhanbarth TB - uchel, canolradd ac isel.
Cyflwynodd yr ymgynghoriad nifer o gynigion. Mae’r rhain yn cynnwys: profion cadw golwg ar fuchesi; profion cyn symud; cyfyngiadau ar symud buchesi heintiedig; bioddiogelwch gwell ar ffermydd; masnachu ar sail risg; difa anifeiliaid heintiedig; brechu moch daear; ac, o dan rai amgylchiadau, cael gwared ar foch daear heintiedig er mwyn torri’r llwybr trosglwyddo rhwng moch daear a gwartheg. Cynghorodd yr ymgynghoriad y caiff mesurau gwahanol eu defnydd yn y tair ardal TB, a hynny mewn dull wedi’i dargedu.
Pam mae’r Pwyllgor yn ystyried y mater hwn?
Mae TB buchol yn cael effaith sylweddol ar les anifeiliaid, lles ffermwyr a busnesau, felly mae’n flaenoriaeth ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad. Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hymgynghoriad, cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i ystyried cyfeiriad y polisi hwn yn y dyfodol.
Er mwyn deall y dystiolaeth wyddonol a’r materion polisi ehangach, clywodd y Pwyllgor gan ystod o randdeiliaid, yn cynnwys y diwydiant, cynrychiolwyr cadwraeth bywyd gwyllt, academyddion, Lesley Griffiths Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru ac un sy’n cynghori DEFRA. Hefyd, ymwelodd cynrychiolwyr y pwyllgor ag Iwerddon i gwrdd â Gweinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Morol Iwerddon a Phrif Swyddog Milfeddygol Iwerddon.
Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad, sef yr Adroddiad ar raglen o’r newydd Llywodraeth Cymru i Ddileu TB, yn nodi argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru sy’n seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd.
Beth mae adroddiad y Pwyllgor yn ei ddweud?
Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o adrannau. Mae’r gyntaf yn cyflwyno canfyddiadau’r Pwyllgor ynghylch arferion gwledydd eraill. Mae’r adrannau eraill yn nodi barn y Pwyllgor a’i argymhellion ynghylch agweddau allweddol ar gynigion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys trosglwyddo rhwng gwartheg a throsglwyddo drwy fywyd gwyllt. Mae’r Pwyllgor o’r farn bod yr adroddiad yn gyfraniad pwysig o ran llywio cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru ar TB buchol yn y dyfodol.
Yng ngoleuni’r dystiolaeth a glywyd, mae’r adroddiad yn nodi bod y Pwyllgor yn cymeradwyo dull diwygiedig arfaethedig Llywodraeth Cymru. Mae o’r farn ei fod yn gynhwysfawr o ran ystyried pob agwedd ar y drosglwyddo’r clefyd, a hynny mewn fframwaith rhanbarthol newydd a gefnogir gan ystod eang o fesurau. Oherwydd effaith ddinistriol y clefyd ar gymunedau gwledig a’r sector amaethyddol yng Nghymru, mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid pennu dyddiad targed cenedlaethol ar gyfer dileu TB yng Nghymru, gyda thargedau interim ar gyfer y tri rhanbarth TB.
Er iddo gefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i ddal, profi a difa moch daear heintiedig mewn ardaloedd cyfyngedig lle mae achosion o TB yn parhau mewn buchesi sy’n cael eu heintio’n gronig, mae gan y Pwyllgor nifer o gafeatau. Mae’r rhain yn cynnwys y defnydd o ffiniau caled fel ffyrdd mawr ac afonydd a mesurau diogelwch eraill i fynd i’r afael â’r risg o effeithiau gwasgaru. Dyma lle y gall difa moch daear darfu ar strwythurau cymdeithasol y creaduriaid, sy’n golygu bod moch daear yn trafaelu’n ehangach ac, o bosibl, yn trosglwyddo’r clefyd i foch daear eraill a gwartheg.
Er mwyn deall a yw’r strategaeth newydd yn effeithiol, mae’r Pwyllgor yn credu bod rhaid ei chynnal law yn llaw â monitro a gwerthuso gwyddonol. Os na ddangosir bod y mesurau yn effeithiol, yna dylid eu hatal neu eu newid. Ar ben hynny, er mwyn sicrhau tryloywder, mae’n galw am i dystiolaeth wyddonol y rhaglen fod yn ddarostyngedig i werthusiad annibynnol allanol.
Oherwydd y gwahaniaethau yng Nghymru a Lloegr o ran rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â bywyd gwyllt (mae lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth yn feysydd datganoledig), mae’r Pwyllgor o’r farn bod proses gadarn ar gyfer cysylltiadau trawsffiniol yn hanfodol. Mae hyn yn cynnwys yr angen i DEFRA, wrth ystyried cynnal ymarferion difa moch daear, ymgynghori â Llywodraeth Cymru, a sicrhau nad yw’r un ardal ddifa yn Lloegr yn dod o fewn 2 km i’r ffin â Chymru.
Hefyd, ystyriodd y Pwyllgor y goblygiadau posibl o ran ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n argymell y dylai arian Ewropeaidd cyfredol ar gyfer rhaglen profi a dileu Llywodraeth Cymru gael ei warantu mewn cyllidebau yn y dyfodol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad yn fuan yn nodi Rhaglen Dileu TB derfynol Llywodraeth Cymru. O ystyried y ffaith bod TB buchol yn her sylweddol, bydd y datganiad hwn yn un sylweddol i les anifeiliaid ac i’r diwydiant amaethyddol.
Am ragor o wybodaeth am Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad ac am ei waith, ewch i’w wefan. Mae erthyglau blaenorol am TB buchol ar gael ar wefan Pigion.
Erthygl gan Dr. Wendy Dodds Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun: o Flickr gan Keri. Dan drwydded Creative Commons.
Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Mae Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar gynigion newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â TB buchol yng Nghymru (PDF, 188KB)