Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Rheilffyrdd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 5 Tachwedd 2025. Ei fwriad yw creu Great British Railways (GBR), a ddisgrifir yn aml fel yr asgwrn cefn ar gyfer rheoli’r rheilffyrdd. Byddai GBR yn un sefydliad drwy gyfuno Network Rail, sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o seilwaith y rheilffyrdd ym Mhrydain, â mwyafrif y gweithredwyr trenau teithwyr yn Lloegr.
Datganoli’r rheilffyrdd yng Nghymru
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Wasanaeth Cymru a’r Gororau, sy’n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) dan faner TrC Trenau. Mae hefyd yn trefnu ac yn ariannu seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd a drosglwyddodd i berchnogaeth Llywodraeth Cymru yn 2020.
Network Rail sy'n berchen ar rwydwaith rheilffyrdd ehangach Cymru, ac yn ei gynnal. Mae’r cyfrifoldeb am gyllido a chynllunio seilwaith Network Rail yng Nghymru yn parhau i fod wedi’i gadw'n ôl; mae hyn yn wahanol i’r Alban lle mae wedi'i ddatganoli. Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau i fuddsoddi mewn seilwaith, nid yw'n cael dyraniad cyllideb ar gyfer hyn.
Y Bil Rheilffyrdd a datganoli
Mae'r Bil yn gymwys i Gymru, Lloegr a'r Alban. Mae un cymal hefyd yn gymwys i Ogledd Iwerddon. Mae'n cynnal y setliad datganoli presennol. Fodd bynnag, uchelgais Llywodraeth Cymru yw “gweld ein holl wasanaethau trenau a'n seilwaith yn cael eu datganoli'n llwyr”.
Er bod Peter McDonald o Lywodraeth Cymru wedi dweud bod y Bil yn mynd â ni ymhellach o ran sut y gall y setliad presennol weithredu’n effeithlon ac yn effeithiol, dywedodd yr Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd fod cyfleoedd i fynd ymhellach o dan y trefniadau datganoli presennol, er enghraifft, gellid rhoi mwy o annibyniaeth i GBR yng Nghymru, neu fod Llywodraeth Cymru yn gosod blaenoriaethau Cymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Bil
Yn unol â’r drefn, rhaid i gymalau sy'n rhoi sylw i faterion datganoledig gael Cydsyniad Deddfwriaethol. Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 21 Ionawr 2026. Cododd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, (yr Ysgrifennydd Cabinet), sawl mater yn y Memorandwm gan gynnwys bod y Bil:
- Yn galluogi GBR i arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru ond nid yw'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer rhai GBR.
- Yn effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran cynllunio a seilwaith rheilffyrdd.
- Yn anghyson â gwasanaethau gweithredu TrC Trenau yn Lloegr. Ar hyn o bryd, mae TrC yn rheoli rhai gwasanaethau trawsffiniol. Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn poeni na allai'r rhain barhau, gan mai dim ond trwy GBR, ac nid trwy Weinidogion Cymru, y gallai'r Ysgrifennydd Gwladol sicrhau gwasanaethau.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 2 Chwefror ynghylch gwelliannau Llywodraeth y DU i'r Bil (mae’n debygol y bydd rhagor o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol wrth i'r Bil fynd rhagddo). Cefnogodd Llywodraeth Cymru welliant a oedd yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol sicrhau gwasanaethau i deithwyr drwy Weinidogion Cymru, gan fynd i'r afael â phryderon ynghylch gwasanaethau trawsffiniol TrC Trenau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet: "bydd angen rhagor o drafod [gyda Llywodraeth y DU] cyn y gallaf gadarnhau i'r Senedd bod yr holl ddarpariaethau yn addas i Gymru".
Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban i amlinellu sut byddant yn cydweithredu ac yn rhannu gwybodaeth. Nid yw'r Bil yn mynd i'r afael â gorfodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC, y byddai’n well, ’yn wrthrychol’, gael geiriad y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn deddfwriaeth. Ond, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai hynny’n ddigynsail ac y byddai unrhyw Weinidog yn ddewr iawn i anwybyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
Nododd yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru fwriadau gweinidogol ar y cyd ar gyfer y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn dogfen penawdau telerau. Byddai drafft llawn o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a ddisgwylir ym mis Mawrth, yn:
- datblygu fframwaith ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd trawsffiniol;
- sicrhau bod Cynllun Capasiti a phenderfyniadau dyrannu GBR yn gyson â'r amcanion ar y cyd ar gyfer ardal Cymru a'r Gororau;
- sicrhau bod GBR a TrC yn ddigon atebol i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU.
GBR Cymru
Byddai'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn sefydlu Uned Fusnes GBR ar gyfer Cymru a'r Gororau o dan yr enw GBR Cymru, a fydd yn cyflawni cynllun busnes sy’n rhannu blaenoriaethau GBR a TrC. Dywedodd James Price ei fod eisiau i GBR Cymru gael ei rymuso a bod yn rhannol atebol i TrC. Er mwyn gweithio'n effeithiol gyda TrC, dywedodd yr Athro Barry fod yn rhaid iddo weithredu ar hyd braich oddi wrth GBR.
Er bod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i GBR roi sylw i strategaethau datganoledig, ni fyddai’r cytundeb partneriaeth rhwng TrC a GBR Cymru yn un statudol. Dywedodd James Price fod hwn yn fan gwan.

Y Strategaeth Rheilffyrdd Hirdymor
Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol lunio Strategaeth Rheilffyrdd Hirdymor, sef y strategaeth gyntaf o'i math. Bydd yn nodi amcanion strategol ar gyfer y rheilffyrdd dros gyfnod o 30 mlynedd, a chaiff ei diweddaru i gyd-fynd â newidiadau megis mewn technoleg.
Mae'n ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru wrth lunio’r strategaeth. Dywedodd yr Athro Barry y dylid llunio’r strategaeth i fod yn gyson â “Llwybr Newydd”, sef Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Cyllido rheilffyrdd yng Nghymru
Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw trefnu ac ariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru (tu hwnt i Linellau Craidd y Cymoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru), er y gall Llywodraeth Cymru ddewis buddsoddi ynddo. Mae cynllunio i wella’r seilwaith yn parhau i fod yn anstatudol o dan y Bil.
Mae cyllid rheilffyrdd yng Nghymru wedi bod yn ddadleuol ers tro, a thrafodwyd hyn yn ein herthygl ym mis Tachwedd 2024.
Gan nad yw Cymru'n cael unrhyw ddyraniad grant bloc ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd, mae unrhyw fuddsoddiadau y mae'n eu gwneud – megis ailagor lein Glyn Ebwy – yn cael eu hariannu o bwrs Cymru at ddibenion eraill.
Ym mis Hydref 2025, dywedodd Gweinidog Rheilffyrdd y DU fod Llywodraeth bresennol y DU yn cydnabod bod Cymru wedi gweld lefelau isel iawn o wariant ar wella rheilffyrdd. Esboniodd fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi mwy o rôl i Fwrdd Rheilffyrdd Cymru wrth gynllunio a blaenoriaethu gwelliannau.
Nid yw'r Bwrdd yn gorff statudol, ac nid yw'n cael ei grybwyll yn y Bil. Fe'i sefydlwyd yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin yn 2021 i ddatblygu cyfres o brosiectau seilwaith. Daeth Vernon Everitt, Cadeirydd TrC, yn Gadeirydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru ym mis Rhagfyr, ac mae wedi derbyn bod angen mwy o dryloywder i’r fforwm cynyddol bwysig hwn.
Er nad yw'r Bil yn newid trefniadau ariannu, bu datblygiadau yn ddiweddar. Cyhoeddwyd £445 miliwn yn Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yn 2025 ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hyn yn cynnwys:
- £302 miliwn i ddechrau cyflawni'r llif o flaenoriaethau ym maes gwella'r rheilffyrdd;
- £48 miliwn ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd;
- £95 miliwn drwy Strategaeth Seilwaith 10 mlynedd Llywodraeth y DU.
Dywedodd fod hyn yn “dechrau mynd i'r afael â'r tanwariant hanesyddol” o ran rheilffyrdd yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y Cyfarfod Llawn ar 20 Ionawr 2026 ei bod hi eisiau mwy o gyllid gan Lywodraeth y DU, gan gyfeirio at “annhegwch yn y system”. Yn fuan wedyn, ar 17 Chwefror 2026, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU £14 biliwn ar gyfer cyllid rheilffyrdd yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o gynlluniau gwerth £4.4 biliwn a nodwyd gan Fwrdd Rheilffyrdd Cymru y gellir eu cyflawni dros y 15 i 20 mlynedd nesaf.
Beirniadwyd y cyhoeddiad yn y Cyfarfod Llawn, gan y gwrthbleidiau. Roedden nhw’n dadlau nad oedd y £14 biliwn yn cynnwys unrhyw ymrwymiadau newydd a'i fod yn ddibynnol ar ddewisiadau cyllidebol llywodraethau'r DU yn y dyfodol.
Beth sy'n digwydd nesaf i'r Bil Rheilffyrdd
Mae’r Bil Rheilffyrdd ar ei hynt drwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd. Yna, bydd angen iddo gwblhau'r un cyfnodau yn Nhŷ'r Arglwyddi cyn dod yn Ddeddf.
Gan fod rheilffyrdd yn ganolog i gynlluniau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru, bydd y Senedd eisiau bodloni ei hun y bydd y Bil yn hyrwyddo buddiannau Cymru cyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol.
Mae'r erthygl wadd hon wedi'i llunio ar gyfer Ymchwil y Senedd gan James Mirza-Davies.