Bydd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn gweld cynnydd 7.5 yn eu cyllid ar gyfer 2020-21. Bydd £26.7 miliwn ychwanegol ar gael drwy Setliad yr Heddlu 2020-21 (sy’n cynrychioli’r brif ffynhonnell cyllid refeniw i’r heddlu) o'i gymharu â 2019-20. Daw hyn â chyfanswm y cyllid refeniw i heddlu Cymru i £384.0 miliwn.
Sut mae cyllido wedi newid?
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu elfen o'r cyllid craidd a ddyrennir i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCCs) bob blwyddyn, ochr yn ochr â'r Swyddfa Gartref. Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu hefyd yn cael cyllid drwy braeseptau’r dreth gyngor ac mae ganddynt fynediad at grantiau arbennig a phenodol.
Daw mwyafrif y cyllid refeniw canolog ar gyfer heddluoedd Cymru o'r Swyddfa Gartref (tua 60 y cant o'r cyllid canolog). Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am yr elfen o’r cyllid a arferai gael ei ddarparu gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y DU, a chyfran o'r cyfraddau annomestig a gesglir yng Nghymru sy'n cael eu hailddyrannu i heddluoedd (tua 40 y cant o'r cyllid canolog).
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn ei datganiad ar Setliad yr Heddlu 2020-21, bod cyflawni ei rhan yn seiliedig ar egwyddor o sicrhau “cysondeb a thegwch” ar draws Cymru a Lloegr. Mewn setliadau cyllido diweddar, mae hyn wedi arwain at yr holl heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn cael yr un cynnydd neu ostyngiad. Mae hyn yn golygu y bydd pob heddlu yn cael cynnydd 7.5 y cant yn 2020-21 (sydd hefyd yn gynnydd mewn termau real).
Y llynedd, cynyddodd cyllid ar gyfer yr heddlu 2.1 y cant o'i gymharu â 2018-19. Dyna oedd y cynnydd cyntaf yng nghyllid y llywodraeth i'r heddlu yn nhymor y Cynulliad hwn.
Mae'r tabl isod yn dangos cyfanswm y gefnogaeth ganolog i'r heddlu (cyllid y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru).
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru - Setliad Terfynol yr Heddlu: 2020 i 2021 (Ionawr 2020)
Y fformiwla gywir?
Mae cyllid yr heddlu, yn dechnegol, yn seiliedig ar fformiwla sy'n defnyddio amrywiol elfennau o ddata i rannu'r cyllid sydd ar gael rhwng heddluoedd yn seiliedig ar angen cymharol. Fodd bynnag, fel y blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu'r fformiwla gyda “mecanwaith gwaelodol”, sy'n golygu bod pob heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael yr un newid mewn cyllid.
Gallwch weld y cyfrifiadau manwl a disgrifiad o'r fethodoleg yn Adroddiad Grant yr Heddlu 2020-21 Llywodraeth y DU.
Yn 2015, cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar ddiwygio cyllid yr heddlu yn dilyn adolygiad dros gyfnod o flwyddyn y Swyddfa Gartref o'r system bresennol. Fodd bynnag, gohiriwyd y diwygiad hwnnw ar ôl i wallau ddod i’r amlwg yn y wybodaeth a rannwyd gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu a heddluoedd ynghylch effaith ddangosol model cyllido arfaethedig y Llywodraeth. Beirniadodd adroddiad 2015 y Pwyllgor Materion Cartref, “Reform of the Police Funding Formula”, y broses adolygu wreiddiol, a gwnaeth argymhellion ar ddiwygio yn y dyfodol. Ar adeg setliad dros dro 2018-19, nododd Nick Hurd AS, Gweinidog Gwladol blaenorol y DU dros Blismona a’r Gwasanaeth Tân, fwriad Llywodraeth y DU i ail-edrych ar y fformiwla ariannu yn yr Adolygiad Gwariant nesaf (a ddisgwylir yn 2020)
Beth am y dreth gyngor?
Yn ogystal â chyllid o ffynonellau'r llywodraeth, mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gosod praesept treth gyngor ar gyfer eu hardal bob blwyddyn. Yn Lloegr, mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gyfyngedig o ran faint y gallent gynyddu eu praesept cyn sbarduno refferendwm lleol. Eleni, bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Lloegr yn gallu codi’r dreth gyngor hyd at £10 ar gyfer eiddo nodweddiadol (Band D). Fodd bynnag, nid yw'r cyfyngiad hwn yn berthnasol yng Nghymru.
Yn 2019-20, gwnaeth Comisiynwyr Heddlu a Throseddu gynyddu eu praesept rhwng 7.0 y cant (Gwent) a 10.7 y cant (Dyfed-Powys) ar fil treth gyngor cyfartalog Band D. Yn 2019-20, roedd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn cyllidebu i gael cyfanswm o £318.8 miliwn o’r dreth gyngor, sef 47.2 y cant o gyfanswm eu cyllid refeniw (ac eithrio grantiau penodol).
Recriwtio swyddogion heddlu
Nododd Kit Malthouse AS, y Gweinidog Gwladol dros Blismona a'r Gwasanaeth Tân, fod y cynnydd mewn cyllid ar gyfer 2020-21 yn cynnwys £700 miliwn ar gyfer recriwtio 6,000 o swyddogion ychwanegol erbyn diwedd Mawrth 2021. Mae hyn yn rhan o amcan Llywodraeth y DU i recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol erbyn Mawrth 2023.
Mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu y bydd heddluoedd yng Nghymru yn gallu recriwtio 302 o swyddogion newydd fel rhan o'r flwyddyn gyntaf o recriwtio. Mae'r cynnydd posibl mewn swyddogion yn amrywio o 3.7 y cant (neu 42 swyddog) yn Nyfed-Powys i 4.6 y cant (neu 136 swyddog) yn Ne Cymru.
Plismona a datganoli
Yn fwy cyffredinol, nododd Llywodraeth Cymru yn ystod y ddadl y llynedd ar Setliad yr Heddlu ei bod am i blismona gael ei ddatganoli. Awgrymodd Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Hydref 2019), a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, y dylid datganoli plismona yn llawn i Gymru. Argymhellodd fel a ganlyn:
Dylai polisi plismona a gostwng troseddu, gan gynnwys camddefnyddio cyffuriau a materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, gael ei bennu yng Nghymru fel ei fod yn gyson ac wedi'i integreiddio â pholisi iechyd, addysg a chymdeithasol Cymru.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad yw'n cefnogi datganoli cyfiawnder i Gymru ac na fydd yn ymateb yn ffurfiol i'r Comisiwn. Un o'i phrif ddadleuon yw'r costau sy'n gysylltiedig â gweithredu dwy awdurdodaeth (os hoffech gael ragor o wybodaeth am y Comisiwn, ei waith a'i adroddiad, gweler y blog mis diwethaf).
Beth nesaf?
Disgwylir i Setliad Terfynol yr Heddlu 2020-21 gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Mawrth. Gallwch wylio'n fyw ar Senedd.TV.
Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru