Ar ddiwedd 2021, cafwyd dicter cyhoeddus yn sgil adroddiadau am orlifedd carffosydd yn gweithredu’n anghyfreithlon. Arweiniodd hyn at ddyletswydd gyfreithiol newydd ar gwmnïau dŵr yn Lloegr ac – yn eu geiriau hwy – ‘ymchwiliad sylweddol‘ gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Fodd bynnag, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynllunio ymchwiliad tebyg yng Nghymru.
Ar ddechrau 2022, cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ei ymchwiliad ei hun i ollyngiadau carthion, a'u heffaith ar ansawdd dŵr.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar yr hyn a ganfu'r Pwyllgor yn ei ymchwiliad yn ogystal ag ymateb Llywodraeth Cymru.
Mae ein briff blaenorol yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o orlifau stormydd a’r modd y gall y rheini effeithio ar ansawdd dŵr. At hynny, mae’n rhoi rhagor o wybodaeth am y darpariaethau newydd yn Neddf yr Amgylchedd 2021 (un o ddeddfau’r DU) sy’n ymwneud â chwmnïau dŵr yn Lloegr.
Pam mae carthion yn cael eu rhyddhau i'r amgylchedd?
Mae carthffosydd cyfun yn casglu carthion a dŵr ffo fel ei gilydd o ddraeniau a chwteri. Mae'r dŵr gwastraff hwn yn cael ei gludo fel arfer i waith trin lle caiff ei lanhau a'i ddychwelyd i'r amgylchedd.
Mae gan bob system garthffosydd uchafswm o ddŵr gwastraff y gall ei dderbyn. Yn ystod glaw trwm, os oes mwy o ddŵr nag y gall y system ymdopi ag ef, caiff ei ryddhau ar bwyntiau o'r enw 'Gorlifoedd Storm ‘y cyfeirir atynt yn aml fel 'Gorlifoedd Carthffosydd Cyfun' neu 'Orlifoedd Storm Cyfun'.
Clywodd y Pwyllgor fod gorlifoedd storm cyfun yn digwydd yn fwy aml oherwydd nifer o ffactorau:
- Cynnydd yn amlder a dwyster glaw trwm o ganlyniad i newid hinsawdd;
- cynnydd mewn arwynebau anhydraidd, h.y. ymgripiad trefol (neu urban creep);
- cynnydd yn y boblogaeth sy'n gysylltiedig â rhwydwaith carthffosydd;
- rhwystrau a achosir gan waredu eitemau na ellir eu fflysio; a
- chwymp a dirywiad y system garthffosiaeth.
Pa mor aml mae hyn yn digwydd?
Cydnabu cwmnïau dŵr fod gorlifoedd storm cyfun yn gweithredu'n amlach nag sy'n dderbyniol. Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos ychydig dros 105,000 o ollyngiadau gorlifoedd storm cyfun a gofnodwyd o 2,041 o orlifoedd storm.
Canfu'r pwyllgor, er y dylai gorlifoedd storm cyfun fod yn gweithredu'n anaml ac mewn tywydd eithriadol, nid yw hynny'n wir. Mae'n galw am:
…weld camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, yn ei rôl arwain, i sicrhau bod nifer a chyfeintiau y gollyngiadau yn cael eu lleihau fel mater o frys.
Mewn ymateb, dywed Llywodraeth Cymru “mae angen gwybodaeth well am ansawdd y gollyngiadau o orlifoedd a'u heffaith ar ansawdd y dŵr sy'n derbyn.”:
monitro gwell ar yr elifion ar safleoedd wedi'u targedu, ynghyd â’r gwaith monitro ar hyd digwyddiadau sydd eisoes yn digwydd, yn gwella'r dystiolaeth ac yn ein helpu i dargedu a blaenoriaethu camau gweithredu'n effeithiol.
Pa mor dda y caiff ei ddeall?
Clywodd y Pwyllgor fod monitro gorlifoedd storm cyfun wedi gwella ers i gwmnïau dŵr gael eu cyfarwyddo yn 2012 i osod proses fonitro hyd digwyddiadau, i gofnodi amlder a hyd gollyngiadau gorlifoedd storm cyfun.
Mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi £10.5 miliwn i wella’r broses o fonitro gorlifoedd storm cyfun ers 2015, ac mae ganddo brosesau monitro hyd digwyddiadau ar waith ym mron i 99% o'i orlifoedd stormydd cyfun. Mae gan Hafren Dyfrdwy fonitoriaid ar bob un o'i 50 gorlifoedd storm cyfun.. Caiff data monitro hyd digwyddiadau eu rhannu’n flynyddol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac maent ar gael i'r cyhoedd gan Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy fel ei gilydd.
Mae gorlifoedd storm cyfun yng Nghymru yn cael eu caniatáu gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Gall cwmnïau dŵr fod yn torri amodau eu trwydded os oes gorlifoedd storm cyfun ar waith pan nad oes glaw trwm, neu os nad ydynt yn trin digon o garthffosiaeth cyn iddo gael ei ollwng. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor sut y mae'n rhaid i gwmnïau dŵr hunan-adrodd am achosion o dorri amodau trwydded/llygredd.
Yn ôl Asesiadau Perfformiad Amgylcheddol Blynyddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, cyflawnodd perfformiad hunan-adrodd Dŵr Cymru 80%, tra bod Hafren Dyfrdwy wedi hunan-gofnodi 100% o achosion o lygredd.
Fodd bynnag, canfu ymchwiliad gan Dŷ’r Cyffredin i ansawdd dŵr mewn afonydd fel a ganlyn:
Citizen science analysis of water company data suggests that the true number of sewer overflow discharges may be considerably higher than those reported.
Canfu Pwyllgor y Senedd fod hyder y cyhoedd yn y drefn reoleiddio a gorfodi at ddibenion gorlifiadau stormydd yn isel. Argymhellodd gamau gweithredu ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a chwmnïau dŵr i fynd i’r afael â hyn. Nid yw'r naill na’r llall wedi ymateb eto (ar adeg ysgrifennu).
Pa effaith y mae'n ei chael?
Gall gorlifoedd storm cyfun beri niwed i iechyd ein hafonydd trwy waethygu ansawdd dŵr, a niwed i iechyd y cyhoedd trwy atal defnydd hamdden diogel o'r afonydd hynny.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gorlifoedd storm cyfun wedi’u nodi fel rheswm dros beidio â chyflawni ‘Statws Ecolegol Da’ (dosbarthiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) mewn 3.7% o gyrff dŵr ledled Cymru.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru “llygredd amaethyddol yn aml yw un o’r prif ffactorau sy’n achosi methiant cyrff dŵr”.
Daeth rheolau newydd ar lygredd amaethyddol i rym yn 2021, ac fe gawsant eu hadolygu gan Bwyllgor yr Amgylchedd, Masnach a Materion Gwledig y Senedd.
Pa gamau sy'n cael eu cymryd?
Canfu adroddiad Prosiect Tystiolaeth Systemau Gorlifoedd Storm – a baratowyd ar gyfer Water UK – er mwyn lleihau’r niwed o ran Gorlifoedd Storm Cyfun:
- rhaid i fwy o ddŵr gwastraff a dŵr glaw a gesglir gael ei gadw yn y system; neu
- rhaid lleihau faint o ddŵr glaw sy'n mynd i mewn i garthffosydd.
Clywodd y Pwyllgor fod Datrysiadau ar sail Natur a Systemau Draenio Cynaliadwy yn offer pwysig wrth fynd i’r afael â’r pwysau ar y system garthffosydd, ac argymhellodd gamau gweithredu i gynyddu’r Datrysiadau ar sail Natur at ddibenion rheoli dŵr.
Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y Tasglu Ansawdd Dŵr Afon gwell yn dwyn nifer o argymhellion y Pwyllgor ymlaen.
Mae’r tasglu yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Ofwat, y naill a’r llall o’r cwmnïau dŵr ar gyfer Cymru, Afonydd Cymru a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr. Bydd yn:
… gwerthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynlluniau hyn yn:
…ein helpu i ddeall a nodi a oes angen newidiadau i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn rheoli ac yn rhedeg eu rhwydwaith o garthffosydd yn effeithiol ar gyfer ymateb i heriau heddiw a'r dyfodol.
Mae’r tasglu wedi nodi nifer o feysydd i’w newid a’u gwella, a bydd yn cyhoeddi ‘map ffordd gorlifoedd stormydd i Gymru’ erbyn 1 Gorffennaf. Mae’r Pwyllgor am i’r map ffordd fod yn un uchelgeisiol ag iddo dargedau ac amserlenni.
Bydd yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â Chynlluniau Basn Afon, a fydd “yn rhoi darlun cynhwysfawr i ni o'n holl gyrff dŵr” gan gynnwys pwysau gan Gorlifoedd Storm Cyfun a ffynonellau llygredd yn fwy eang.
Bydd canfyddiadau'r Pwyllgor yn cael eu trafod yn y Senedd ar 15 Mehefin. Gallwch wylio’r sesiwn yn fyw ar Senedd TV.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru